Torfaen
Addysg Gyfrwng Cymraeg
Dyfodol Disglair Dwyieithog ..... A Bright, Bilingual Future
Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, ac mae plant yn Nhorfaen yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg a Saesneg ill dwy. Lawr lwythwch gopi o’n llyfryn Bod yn Ddwyieithog
Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Torfaen yn rhoi gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim am wasanaethau a chyfleusterau iaith Gymraeg i blant, pobl ifanc a theuluoedd, gan gynnwys darpar rieni, yn Nhorfaen. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am addysg feithrin, meithrinfeydd, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant cofrestredig, clybiau ar ôl ysgol, grwpiau babanod a phlant bach, gweithgareddau hamdden a mwy.
Uned Drochi Cymraeg
Uned drochi i ddisgyblion ysgol gynradd ym mlynyddoedd 2 i 6 sydd am drosglwyddo i addysg Gymraeg yw Carreg Lam.
Amcan y ganolfan yw ceisio eu cefnogi i wella’r sgiliau a’r hyder y mae eu hangen i barhau â’u dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd plant fel arfer yn ymuno â’r uned am gyfnod o ddysgu dwys am tua 12 wythnos cyn ymgymryd â chyfnod o integreiddio trawsnewidiol i mewn i leoliadau Cymraeg yn y brif ffrwd yn Nhorfaen.
Mae ein prosbectws yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i esbonio pob dim am ein canolfan drochi.
Am fwy o wybodaeth am Garreg Lam, ewch i www.carreg-lam.com