Y Bartneriaeth
Cymraeg i Bawb yw ymgyrch genedlaethol i hybu addysg cyfrwng Cymraeg, dan arweiniad Partneriaeth Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg De-ddwyrain Cymru.
Nod y bartneriaeth yw creu Cymru lle mae pawb yn rhydd i ddysgu a siarad Cymraeg.
Mae’r bartneriaeth o Awdurdodau Lleol, Mentrau Iaith, Cymraeg i Blant, RhAG a Llywodraeth Cymru yn ardal dde-ddwyrain Cymru. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect ac mae’r partneriaid oll yn cyfrannu mewn da.
Cychwynnwyd y prosiect gan Grŵp Deddf – swyddogion Cymraeg De-ddwyrain Cymru, wrth iddynt sylweddoli y gall y partneriaid sy’n hybu addysg cyfrwng Cymraeg fanteisio’n anferthol o weithio ar y cŷd. https://www.grwpdeddf.cymru/amdanom-ni
Rydym yn falch o'n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc, a’n falch o’r holl staff lleol sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr ar eu taith. Diolch am fod yn rhan o'r daith iaith Gymraeg hon.
