Prosiectau

Mae'r rhain yn brosiectau a fydd yn cefnogi gwaith y Pencampwr a'r partneriaid.

Mae'r prosiectau wedi cael eu trafod a'u cytuno gan y partneriaid, a phan mae'r gwaith wedi ei gynnig yn allanol bydd grŵp o aelodau’r bartneriaeth yn cydweithio i ddethol y sefydliad llwyddiannus, monitro'r cynnydd a gwirio'r allbynnau. Mae gan bob prosiect rif cyfeirnod unigryw, ac mae'r wybodaeth isod yn dangos crynodeb o'r prosiectau a'u statws fel y maent fis Ebrill 2024.

Cyfeirnod Prosiect Statws
PH001 Adroddiad Mapio’r Ddarpariaeth Bresennol o ran Hybu a Hyrwyddo Addysg Gymraeg  Wedi ei gyflwyno i'r Bwrdd a'r partneriaid
PH002 Adroddiad Cymharu Targedau Cynyddu'r Niferoedd Wedi ei gyflwyno i'r Bwrdd a'r partneriaid
PH003 Fideos Animeiddiedig Wedi ei gyflwyno i'r Bwrdd a'r partneriaid 
PH005 Addysg Gymraeg ac ADY – fideos, astudiaethau achos, ac ymchwil Wedi ei gyflwyno i'r Bwrdd a'r partneriaid
PH006 Addysg Gymraeg i Bawb – fideos ac astudiaethau achos Wedi ei gyflwyno i'r Bwrdd a'r partneriaid
PH007 Strategaeth ymgysylltu a marchnata drafft ar gyfer Partneriaid Wedi ei gyflwyno i'r Bwrdd a'r partneriaid
PH008 Pecyn Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Mewn Iechyd Yn cael ei ddatblygu
PH012 Cyfeirlyfr wedi'i deilwra o Ffynonellau Cyllid Grant Wedi ei gomisiynu