Bywyd yn Gymraeg

Mae’n hwyl byw bywyd mewn dwy iaith neu fwy! 


Fel y gwyddoch, mae siarad ychydig bach o Gymraeg yn agor byd gwbl newydd i chi. Mae enwau lleoedd, dywediadau, a chaneuon yn llawn ystyr ac mae defnyddio dwy iaith neu fwy yn hwyl! Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg a chreu cyfleoedd newydd i chi ac i bobl o’ch cwmpas. Cofiwch fod pob plentyn yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac yn hoffi siarad Cymraeg tu fas i’r ysgol.


Ac os yw eich plant eisoes yn siarad Cymraeg, gyda'u meddyliau rhyfeddol o ystwyth maen nhw’n dysgu mwy o Gymraeg pob dydd mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Beth am siarad Cymraeg tu fas i’r ysgol?

Cyw a ffrindiau S4C Mae gwasanaeth Cyw ar S4C yn cynnwys rhaglenni a sioeau i blant bach. Mae gan Cyw llwyth o ffrindiau. Mae plant o bob iaith yn mwynhau eu hoff gartwnau yn y Gymraeg!  Dewch i wylio rhaglenni Cyw gyda’ch plentyn bob bore ar S4C, gan gynnwys Patrol Pawennau (Paw Patrol), Bing, Deian a Loli, Peppa (Peppa Pig) a ffefrynnau eraill yn y Gymraeg. Chwiliwch am apiau S4C Cyw  a gwyliwch ar-lein www.s4c.cymru/cyw  i gael rhaglenni, gemau plant bach, lliwio a bysedd, a gwybodaeth i rieni yn y Gymraeg a Saesneg

Logo Mentrau Iaith Cymru
Mae'r Mentrau Iaith Cymru yn weithgar mewn ysgolion a'r gymuned ac yn trefnu pob math o weithgareddau, o ddramâu a gigs i glybiau gwyliau a gwersi roboteg. Maent yn gyfrifol am eich gŵyl haf Gymraeg leol a gallent elwa o help gan ragor o wirfoddolwyr lleol! Mae gan bob un o'r Mentrau Iaith bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol bywiog - dilynwch eich Menter leol ar-lein!

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Menter Bro Morgannwg
Menter Caerdydd
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Menter Iaith Casnewydd
Menter Caerffili
Menter Bro Ogwr
Menter Iaith Merthyr Tudful

Logo Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn sefydliad ieuenctid ar gyfer aelodau rhwng 8 a 25 oed. Mae'n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael ystod o brofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnal Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol gyda chystadlaethau o ddawns i bobi a gwneud fideo. Mae'r Urdd yn cynnal grwpiau ieuenctid lleol a grwpiau chwaraeon a bydd pob plentyn ysgol gynradd yn gyfarwydd â'r cyffro ymweliad ag un o wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog neu Fae Caerdydd.

Urdd Caerdydd a'r Fro
Urdd Morgannwg Ganol
Urdd Rhanbarth Gwent
Chwaraeon Urdd Caerffili
Chwaraeon Urdd Merthyr
Chwaraeon yn Urdd - De Canolog Cymru

Logo Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn eich helpu chi a'ch plentyn i chwarae, dysgu a thyfu yn Gymraeg. Mae ganddyn nhw gannoedd o grwpiau chwarae Ti a Fi ledled Cymru lle gallwch alw heibio am sesiwn, a nifer cynyddol o feithrinfeydd Cylch Meithrin ar gyfer plant 2+ oed lle mae'ch plentyn yn aros hebddoch chi. 

Mae gan Cymraeg i Blant grwpiau babanod wythnosol am ddim i chi a'ch babi mewn llyfrgelloedd a neuaddau lleol. Mae'r trefnwyr i gyd yn siarad Saesneg ac yn cyflwyno'r Gymraeg ychydig drwy odli a chân. Mae'n ffordd wych o chwarae ac ymlacio gyda phobl gyfeillgar. 

Logo Dysgu Cymraeg
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn helpu pobl i ddysgu a mwynhau'r Gymraeg. Mae ganddynt Ganolfannau Dysgu Cymraeg lleol yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Morgannwg a Gwent yn Ne-ddwyrain Cymru.

Caerdydd
Y Fro
Morgannwg
Gwent

Rydym i gyd yn hynod gyffrous am yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf yn 2024 (3-10 Awst). Bydd y Maes (prif faes), Maes B (maes ieuenctid a gwersylla) â'r dref yn fwrlwm o gigs, celf, cymdeithasau, bandiau pres, slam barddoniaeth, hwyl chwarae plant, a theatr gorau'r haf. Bydd y sir gyfan wedi ei addurno ar hyd y ffyrdd - allwch chi ddim ei golli e. Trefnwch eich amser i ffwrdd o’r gwaith nawr!