Gartref a Gofal Plant
Lle i ddechrau gyda'r Gymraeg?
Os ydych chi'n awyddus i'ch plentyn siarad Cymraeg, ewch amdani nawr! Defnyddiwch unrhyw Gymraeg sydd gennych chi, bydd y cariad bach wrth ei bodd!
Ymlacio a diddanu'r plant!
Ar gyfer adloniant Cymraeg gartref a thu hwnt, mae gan eich llyfrgell leol lwyth o lyfrau lluniau dwyieithog, mae gan S4C wasanaeth CYW ar gyfer plant bach gyda chartwnau, apiau (Antur CYW) a chylchgronau, ac yn fyw ar y teledu bob bore yn yr wythnos 6.00-12.00.
Dysgwch am grwpiau lleol ar gyfer babis a phlant bach:
Cymraeg i Blant
Grwpiau babi wythnosol i gyflwyno’r iaith Gymraeg i chi a’ch babi drwy rigwm, arwyddo, a chân. Ewch i www.meithrin.cymru ac i gael rhestr o grwpiau lleol Cymraeg i Blant ar Facebook ewch i’r dudalen Bywyd yn Gymraeg.
Grwpiau Ti a Fi
Sesiynau chwarae lle 'da chi'n aros gyda'ch plentyn i chwarae a gwneud ffrindiau newydd. Am wybodaeth ar ofal plant ac addysg ewch i www.meithrin.cymru
Meithrinfa Dydd / Gofalwyr Plant
Gofynnwch i'ch meithrinfa leol sut maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau bob dydd. I chwilio am ofal plant, bwriwch golgw ar y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Cylch Meithrin / Dechrau’n Deg
Sesiynau grŵp chwarae ar gyfer plant 2+ oed. Gall y lleoliad gynnig:
- Dechrau'n Deg
- Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
- Addysg Feithrin Codi'n 3
- Gofal plant cofleidiol
Ewch i www.meithrin.cymru
Chwarae gyda'r iaith
Bydd y plant yn dysgu mwy o Gymraeg yn y Cylch Meithrin neu'r ysgol ac yn mwynhau gwneud ffrindiau sy’n siarad Cymraeg hefyd.
Yn fuan byddwch yn dod i adnabod cymeriadau’r Mudiad Meithrin, Dewin a Doti, cymeriadau’r Siarter Iaith, Seren a Sbarc, a chanu Rwdolff y Carw Trwyngoch, ac Yma o Hyd!
Os hoffech ddysgu mwy o Gymraeg neu ei ymarfer, ewch i'r dudalen Bywyd yn y Gymraeg ar gyfer dysgu Cymraeg mewn person, ar-lein ac ar apiau.
Am fwy o wybodaeth am fudiadau dwyieithog fel yr Urdd, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, y Mentrau Iaith, a'r Eisteddfod Genedlaethol (sydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2024) ewch i Bywyd yn y Gymraeg