Addysg Gymraeg

Agor Drysau Drwy'r Gymraeg

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gan agor drysau i brofiadau, cyfeillgarwch a chyfleoedd newydd drwy gydol eu hoes. Gall dysgu Cymraeg gyfoethogi addysg plentyn, meithrin hyder a darparu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ddewis croesawgar i deuluoedd o bob cefndir ieithyddol. P'un a ydych chi'n siarad Cymraeg, Saesneg neu ieithoedd eraill gartref, mae dysgu Cymraeg yn gyfle i ddatblygu sgiliau ieithyddol ychwanegol a manteisio ar fanteision amlieithrwydd.

Does dim angen i rieni siarad Cymraeg eu hunain er mwyn i'w plant elwa ar addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae cefnogaeth ar gael i deuluoedd ar hyd y daith.

P'un a ydych chi'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg am y tro cyntaf, yn chwilio am ysgol leol neu eisiau dysgu mwy am y cyfleoedd y mae'n eu cynnig, mae Cymraeg i Bawb yma i'ch helpu.

Archwiliwch Addysg Gymraeg

Dysgwch fwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi a'ch teulu:

  • Beth yw Addysg Gymraeg? – Dysgwch fwy am addysg cyfrwng Cymraeg a dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin.
  • Ardaloedd – Dewch o hyd i wybodaeth am addysg Gymraeg, gofal plant a gwasanaethau yn eich ardal.
  • Chwiliadur Ysgolion – Chwiliwch am ysgolion a darpariaeth Gymraeg yn agos atoch chi.

Addysg Gymraeg Ledled Cymru

Mae Cymraeg i Bawb yn gweithio i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a helpu teuluoedd ledled Cymru i archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael yn eu cymunedau lleol.

Dewiswch eich ardal ar y map isod i ddod o hyd i wybodaeth leol am addysg cyfrwng Cymraeg, darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant, gwasanaethau trochi Cymraeg, dalgylchoedd ysgolion a chludiant.

Content Image