Beth yw Addysg Gymraeg

Ydych chi wedi bod yn meddwl am ofal ac addysg eich plentyn, a pha ysgol yr hoffech iddynt fynd iddi? Ydy ysgol cyfrwng Cymraeg yn apelio i chi?

Llun o blant ysgol gyda'r geiriau 'eich plentyn chi yn mwynhau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg' mewn bwlch

Gall fy mhlentyn fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg lleol?

Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bob plentyn. Mae ysgol cyfrwng Cymraeg yn eich ardal chi!

Pan fo plentyn yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg mae nhw'n dysgu Cymraeg, a Saesneg i'r un safon â phlant mewn ysgol cyfrwng Saesneg. Nid yw mwyafrif y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn siarad Cymraeg gartref a chyn diwedd eu blwyddyn gyntaf, byddan nhw'n siarad â'u ffrindiau newydd yn Gymraeg!

Pam fod siarad Cymraeg mor boblogaidd?

Mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn lleol, mae'n rhoi teimlad o berthyn i bobl ac mae nhw eisiau i'w plant ei siarad hefyd. Mae rhieni a gofalwyr am anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel eu bod yn cael y profiad cyflawn o siarad Cymraeg.

Beth am..

helpu fy mhlentyn gartre?

Mae ysgolion yn darparu gwybodaeth a gwaith cartref yn Gymraeg a Saesneg. Mae ein hysgolion yn siarad Cymraeg a Saesneg gyda rhieni, ac eisiau i rieni deimlo'n rhan o gymuned yr ysgol.

dysgu Saesneg?

Pan fydd plentyn yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg, bydd yn gadael yn gallu siarad Saesneg i'r un safon â phlant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. 

cyrraedd yr ysgol?

Mae ysgol cyfrwng Cymraeg yn agos atoch chi ac os ydych chi’n byw mwy na 2 filltir i ffwrdd o’ch ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg agosaf neu dros 3 milltir i ffwrdd o’ch ysgol uwchradd agosaf neu ysgol uwchradd y dalgylch bydd y Cyngor yn darparu cludiant am ddim.  Am fwy o wybodaeth ewch at dudalen eich ardal leol. 

os bod gan fy mhlentyn anghenion ychwanegol?

Mae pob ysgol yn cefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae croeso i bob plentyn mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac maen nhw’n gwneud ffrindiau yn yr ysgol ac yn eu cymunedau lleol. Mae pob un o’n timau staff ysgol wedi cael hyfforddiant ar ddarparu’r hyn sy’n bwysig i’ch plentyn ac mae gan yr awdurdod lleol staff arbenigol sy’n siarad Cymraeg. Mae angen cefnogaeth arbenigol ar rhai plant a bydd angen iddyn nhw gael mynediad at le mewn Canolfan Adnoddau Arbennig.  i glywed gan rieni i blant ag anghenion dysgu sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg gwyliwch fideos Rhiannon, Jayne, Lynne ac Emma, a Siân yn yr adran Profiadau  

y cwricwlwm cenedlaethol newydd?

Dilynir y cwricwlwm yn yr un modd â phob ysgol gynradd yn ne-ddwyrain Cymru. Mae ysgolion yn creu amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer pob plentyn unigol. Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg mae plant yn cael eu trochi mewn amgylchedd Cymraeg lle maent yn amsugno'r iaith wrth wneud cynnydd yn eu datblygiad corfforol, lles, cyfathrebu, llwybrau archwilio a pherthyn, ar eu cyflymder eu hunain.

symud fy mhlentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg yn nes ymlaen?

Dyna syniad gwych! Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud hyn am bob math o resymau ac mae'n wirioneddol lwyddiannus. Mae gwasanaeth trochi hwyr-ddyfodiaid ym mhob rhan o dde-ddwyrain Cymru sy’n helpu plant i ddysgu'r Gymraeg yn gyflym i gefnogi eu symudiad at addysg cyfrwng Cymraeg. 

Yn gyffredinol, mae hyn yn cymryd un i ddau dymor yn dibynnu ar anghenion y plentyn. Yn ystod y cyfnod pontio bydd eu hamser yn cael ei rannu rhwng eu hysgol newydd a'r gwasanaeth trochi. Os nad yw'r gwasanaethau trochi wedi'u lleoli yn eu hysgol, byddwn yn darparu cludiant am ddim iddo. Am fwy o wybodaeth, siaradwch â'r pennaeth yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg rydych yn gwneud cais i fynychu.

chwarae yn Gymraeg?

Bydd naws Gymraeg gwych i'ch ysgol leol a bydd yr ysgol yn eich cyflwyno i weithgareddau chwarae gan y Fenter Iaith neu'r Urdd i'ch plentyn ei fwynhau i'r eithaf! Ewch i'r dudalen Cartref a Gofal Plant neu Bywyd yn Gymraeg am fwy o wybodaeth.

Ysgolion lleol

I ddod o hyd i'ch ysgol leol ewch at y Chwiliadur Ysgolion. Am fwy o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg yn eich ardal chi a'r talgylchoedd, dewiswch eich ardal ar y dudalen Ardaloedd.