Amdanom Ni

Mae Cymraeg i Bawb yma i'ch helpu chi ddeall mwy am addysg cyfrwng Cymraeg fel eich bod yn ei ddewis i'ch plant!

Rydym ni'n credu mai dyma'r dewis gorau ac mae miloedd o blant, rhieni a gofalwyr yn cytuno â ni!

Gadewch i ni ddysgu Cymraeg gyda'n gilydd yn yr ysgol. Mewn ysgol cyfrwng Cymraeg mae plant yn siarad, chwarae ac ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg i'r un safon uchel erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd. 

Ac os ydy'ch plentyn eisoes mewn ysgol arall, mae pob awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth i newydd ddyfodiaid. Mae plant yn cael cefnogaeth ddwys am dymor neu ddau nes eu bod yn barod i dreulio pob dydd yn eu hysgol cyfrwng Cymraeg newydd!

Bwriwch olwg ar dudalen Carreg Lam gwasanaeth trochi iaith Cyngor Torfaen i newydd ddyfodiaid. Mae'r plant i'w weld yn cael hwyl trwy'r dydd yn dysgu pethau ymarferol yn Gymraeg - fel prynu diod siocled poeth!

Content Image