Torfaen

Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Nhorfaen

Dyfodol Disglair, Dwyieithog – A Bright, Bilingual Future

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan agor drysau i brofiadau, cyfleoedd a dyfodol dwyieithog.

Yn Nhorfaen, mae addysg Gymraeg ar gael i deuluoedd o bob cefndir ieithyddol, p'un a ydynt yn siarad Cymraeg gartref ai peidio. Does dim angen i rieni allu siarad Cymraeg er mwyn i'w plant elwa ar addysg cyfrwng Cymraeg.

Os ydych chi'n ystyried addysg Gymraeg i'ch plentyn, mae digon o wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth ar gael i'ch helpu i wneud penderfyniad hyderus.

Eisiau dysgu mwy?

Mae llyfryn Bod yn Ddwyieithog yn Nhorfaen yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am addysg Gymraeg a'r cyfleoedd sydd ar gael i blant a theuluoedd yn yr ardal.

 Blaen dudalen llyfryn Dechreuwch y Daith Ddwyieithog Torfaen  

Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Mae dechrau'r daith ddwyieithog yn gallu digwydd ymhell cyn i blentyn ddechrau'r ysgol. Mae cyfleoedd ar gael i blant ifanc a'u teuluoedd ddod i gysylltiad â'r Gymraeg drwy chwarae, dysgu a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Torfaen yn cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd, rhad ac am ddim i rieni, gofalwyr a darpar rieni am wasanaethau a chyfleoedd lleol.

Gall y gwasanaeth eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am:

  • Gylchoedd Meithrin a darpariaeth blynyddoedd cynnar.
  • Meithrinfeydd a gwarchodwyr plant cofrestredig.
  • Clybiau ar ôl ysgol a darpariaeth gofal plant.
  • Grwpiau babanod a phlant bach.
  • Gweithgareddau a chyfleoedd i blant a theuluoedd.
  • Cymorth a chefnogaeth i rieni a gofalwyr.

Am ragor o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen

Uned Drochi Cymraeg – Carreg Lam

Ydych chi'n ystyried trosglwyddo eich plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg?

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau'r daith!

Mae Carreg Lam yn uned drochi Gymraeg yn Nhorfaen sy'n cefnogi disgyblion ysgol gynradd ym Mlynyddoedd 2 i 6 sy'n dymuno trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r uned yn cynnig cyfnod o ddysgu dwys mewn amgylchedd cefnogol, gan helpu plant i ddatblygu'r sgiliau iaith a'r hyder sydd eu hangen arnynt i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel arfer, bydd disgyblion yn mynychu'r uned am oddeutu 12 wythnos, cyn dechrau cyfnod pontio i ysgol cyfrwng Cymraeg brif ffrwd yn Nhorfaen.

Mae prosbectws Carreg Lam yn cynnig rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth, y broses drochi a'r cymorth sydd ar gael i ddisgyblion.

Dysgwch fwy: Gwefan Carreg Lam

Gwybodaeth Ddefnyddiol i Rieni a Gofalwyr

Os ydych chi'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i'ch plentyn, mae'n bwysig gwybod pa ysgolion sydd ar gael a pha gymorth y gallech fod yn gymwys i'w dderbyn.

Dalgylchoedd Ysgolion

Dysgwch fwy am ddalgylchoedd ysgolion Torfaen a sut i ddod o hyd i ysgol addas i'ch plentyn.

Gweld gwybodaeth am ddalgylchoedd

Cludiant i'r Ysgol

Gall cymorth gyda chludiant i'r ysgol fod ar gael i ddisgyblion cymwys. Mae Cyngor Torfaen yn darparu gwybodaeth am feini prawf cymhwysedd a'r trefniadau cludiant.

Gweld gwybodaeth am gludiant ysgol