Abertawe

Addysg Gymraeg yn Abertawe

Ydych chi'n ystyried addysg Gymraeg yn Abertawe i'ch plentyn?

Mae addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a ddatblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio'r iaith yn naturiol fel rhan o'u haddysg a'u bywyd bob dydd.

Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn dewis addysg Gymraeg i'w plentyn. Mae plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg yn yr ysgol, ac mae cymorth ar gael i deuluoedd ar hyd y daith.

Ar y dudalen hon, gallwch dod o hyd i wybodaeth am ddarpariaeth feithrin, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, addysg uwchradd Gymraeg, cymorth i blant sy'n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach, ac adnoddau i deuluoedd yn Abertawe.

Ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe

Mae 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, ac mae darpariaeth feithrin ar gael ym mhob un ohonynt.

YGG Bryniago – Pontarddulais

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago ym Mhontarddulais yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Bryniago

YGG Bryn-y-Môr – Brynmill

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr ym Mrynmill, Abertawe, yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Bryn-y-Môr

YGG Gellionnen – Clydach

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen yng Nghlydach yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Gellionnen

YGG Llwynderw – West Cross

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn West Cross, Abertawe, yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Llwynderw

YGG Lôn Las – Llansamlet

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las yn Llansamlet yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Lôn Las

YGG Pontybrenin – Gorseinon

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin yng Ngorseinon yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Pontybrenin

YGG Tan-y-Lan – Clase

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan yn Clase yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Tan-y-Lan

YGG Tirdeunaw – Penlan

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw ym Mhenlan yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG Tirdeunaw

Ysgol Gymraeg y Cwm – Bôn-y-maen

Mae Ysgol Gymraeg y Cwm ym Môn-y-maen yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan Ysgol Gymraeg y Cwm

YGG y Login Fach – Waunarlwydd

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach yn Waunarlwydd yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda darpariaeth feithrin.

Ewch i wefan YGG y Login Fach

Darpariaeth feithrin Gymraeg yn Abertawe

Mae darpariaeth feithrin ym mhob un o’r 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, gan roi cyfle i blant ddechrau defnyddio’r Gymraeg o oedran ifanc.

Mae cyfleoedd eraill hefyd ar gael i blant ifanc a’u teuluoedd drwy Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin.

Mae grwpiau Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni, gofalwyr a phlant ifanc chwarae, cymdeithasu a mwynhau gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso i bob teulu, gan gynnwys teuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref.

Chwiliwch am Gylch Meithrin neu grŵp Ti a Fi ar wefan Mudiad Meithrin

Gofal cyn ac ar ôl ysgol

Gall darpariaeth gofal, gan gynnwys clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol, amrywio rhwng ysgolion.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ofal cyn ac ar ôl ysgol, ewch i wefan yr ysgol drwy’r dolenni uchod neu cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol.

Addysg uwchradd Gymraeg yn Abertawe

Mae dwy ysgol uwchradd yn Abertawe sy’n rhan o’r llwybr addysg Gymraeg: Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

Ysgol Gyfun Gŵyr – Tre-gŵyr

Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhre-gŵyr ac yn gwasanaethu dysgwyr sy’n parhau ar eu taith addysg Gymraeg yn yr ardal.

Mae’r ysgolion cynradd partner a restrir gan Gyngor Abertawe yn:

  • YGG Bryniago
  • YGG Bryn-y-Môr
  • YGG Pontybrenin
  • YGG y Login Fach
  • YGG Llwynderw

Ewch i wefan Ysgol Gyfun Gŵyr

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe – Penlan

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ym Mhenlan yn darparu addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r ysgolion cynradd partner a restrir gan Gyngor Abertawe yn:

  • Ysgol Gymraeg y Cwm
  • YGG Gellionnen
  • YGG Lôn Las
  • YGG Tan-y-Lan
  • YGG Tirdeunaw

Ewch i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Mae dalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn berthnasol wrth wneud cais am le. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner ynddo'i hun yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. I gadarnhau ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg eich cyfeiriad, cysylltwch â thîm Derbyniadau Ysgolion Cyngor Abertawe ar Admissions@swansea.gov.uk.

Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach

Gall plentyn ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach, hyd yn oed os nad yw wedi bod mewn ysgol cyfrwng Cymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Mae Canolfan Trochi Iaith Gymraeg Garn Goch yn darparu cymorth ychwanegol i blant oed cynradd sy’n ymuno ag ysgol cyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach ac sydd angen cymorth i ddatblygu eu Cymraeg.

Canolfan Trochi Iaith Gymraeg Garn Goch

Mae’r ganolfan yn helpu plant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a’u hyder fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn llawn ym mywyd eu hysgol newydd.

Fel arfer, mae plant sy’n derbyn y cymorth yn:

  • mynychu’r ganolfan am dri diwrnod yr wythnos ar gyfer gwersi a gweithgareddau Cymraeg dwys;
  • derbyn cymorth parhaus yn eu hysgol, gyda’r tîm yn ymweld â nhw ar ddydd Gwener; ac
  • yn cael eu cefnogi am oddeutu tri thymor, yn dibynnu ar anghenion y plentyn.

Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yn:

Canolfan Iaith Garn Goch
YGG Tan-y-Lan
Hill View Crescent
Clase
Abertawe
SA6 7HN

Ffôn: 01792 772800

Darllenwch ragor am Ganolfan Trochi Iaith Gymraeg Garn Goch

16 oed a thu hwnt - parhau â’ch addysg drwy’r Gymraeg

Nid oes rhaid i’ch taith drwy addysg Gymraeg ddod i ben ar ôl cwblhau eich TGAU. Mae cyfleoedd i barhau i astudio, hyfforddi a defnyddio’r Gymraeg ar ôl 16 oed.

Mae Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn cynnig darpariaeth Chweched Dosbarth, gan gynnwys ystod o opsiynau Lefel A.

Gall dysgwyr hefyd barhau â’u haddysg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, lle mae cyfleoedd i astudio a defnyddio’r Gymraeg ar draws nifer o gyrsiau, yn ogystal â rhai cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddiant.

Darllenwch ragor am gyfleoedd Cymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Prifysgol ac addysg uwch

Mae cyfleoedd hefyd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg uwch. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig darpariaeth Gymraeg mewn nifer o feysydd, ac mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn helpu i ddatblygu cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion ledled Cymru.

Darllenwch am ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe

Ewch i wefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dydw i ddim yn siarad Cymraeg – alla i ddewis addysg Gymraeg i’m plentyn?

Gallwch. Nid oes angen i rieni na gofalwyr siarad Cymraeg er mwyn dewis addysg Gymraeg i’w plentyn.

Mae nifer o ffyrdd y gall rhieni a gofalwyr gefnogi’r Gymraeg gartref, hyd yn oed os ydynt yn dechrau dysgu’r iaith eu hunain.

Mae cymorth a chyfleoedd ar gael drwy sefydliadau megis Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin, Menter Iaith Abertawe, Urdd Gobaith Cymru a Dysgu Cymraeg – Rhanbarth Bae Abertawe.

Dysgu Cymraeg i rieni a gofalwyr

Mae Dysgu Cymraeg – Rhanbarth Bae Abertawe yn cynnig cyrsiau a gweithgareddau Cymraeg ar wahanol lefelau yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Dysgu Cymraeg – Rhanbarth Bae Abertawe

Menter Iaith Abertawe

Mae Menter Iaith Abertawe yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn lleol ac yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg yn y ddinas a’r sir.

Ewch i wefan Menter Iaith Abertawe

Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn cynnig cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy wasanaethau megis Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin.

Ewch i wefan Mudiad Meithrin

Rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg yn Abertawe

I gael rhagor o wybodaeth am ysgolion cyfrwng Cymraeg, darpariaeth feithrin, addysg uwchradd, cyfleoedd ar ôl 16 oed, cymorth trochi neu ddewis addysg Gymraeg yn Abertawe, ewch i dudalen Addysg Gymraeg Cyngor Abertawe.

Addysg Gymraeg yn Abertawe – Cyngor Abertawe