Blaenau Gwent

Eich Taith Ddwyieithog

Am fwy o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent dyma ddolen i'n gwefan

Manteision Dwyieithrwydd

  • Gall wella pŵer yr ymennydd, gan gadw'ch ymennydd yn iach a miniog. Gall wella sgiliau amldasgio eich plentyn, gwella ei reolaeth sylw, datrys problemau a chreadigedd 
  • Mae plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn gwneud cystal, os nad yn well, yn Saesneg â phlant mewn addysg cyfrwng Saesneg.
  • Gwella cystadleurwydd yn y farchnad swyddi - mae pobl ddwyieithog yn ennill cyfartaledd o 11% yn fwy nag unigolion uniaith.
  • Mae dysgu ail iaith yn ifanc yn helpu plant i ddatblygu clust am ieithoedd wrth iddynt fynd yn hŷn.
  • Bydd magu plant yn ddwyieithog yn eu helpu i gydnabod eu diwylliant a'u treftadaeth yn ogystal â datblygu hunaniaeth bersonol gref.
  • Gwella bywyd cymdeithasol, mae siarad ail iaith yn agor ystod hollol newydd o gyfleoedd cymdeithasol a gall wella eich sgiliau cymdeithasol a'ch hyder.

Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg Tredegar 

Mae Blaenau Gwent mewn cyfnod cyffrous iawn wrth i waith fynd rhagddo ar adeiladu ein hail ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gymraeg Tredegar. Mae disgwyl i’r ysgol agor yng ngwanwyn 2025, gyda lle i 210 o ddisgyblion. 

Tra bod y gwaith adeiladu yn cael ei wneud mae'r myfyrwyr sydd ar fin mynychu Ysgol Gymraeg Tredegar yn cael eu haddysgu mewn ystafell ddosbarth dros dro yn Nhŷ Bedwellte. Mae Tŷ Bedwellte wedi’i leoli ar dir hardd Parc Bedwellte, sy’n golygu bod y myfyrwyr wedi elwa o’r amgylchedd naturiol gan gyfoethogi eu haddysg gydag elfennau o ddysgu awyr agored.

Hoffech chi siarad am addysg Gymraeg? Ffoniwch 01495 355470 am sgwrs gyfeillgar.

Llyfryn Bod yn Ddwyieithog 

Dewis Gofal Plant

Dyma Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent - Gofal Plant

Mae Mudiad Meithrin, sefydliad sy’n arbenigo mewn addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, yn cynnig amrywiaeth o gylchoedd chwarae llawn hwyl sy’n ysgogi datblygiad. Mae gennym Gylch Meithrin ar dir Ysgol Gymraeg Bro Helyg , Helyg Bychan , Cylch Gwdihŵ ym Mrynithel ac un yn Nhredegar sy'n gweithredu allan o Neuadd Stocktonville.

Mae Cymraeg i Blant yna o'r cychwyn cyntaf i helpu chi fel rhiant newydd i ddysgu sut i gyflwyno'r Gymraeg i'ch cartref wrth ddewis gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae grwpiau cymorth mewn person ac ar-lein wythnosol rhad ac am ddim yn darparu awgrymiadau ymarferol ac argymhellion ar gyfer llyfrau ac apiau dwyieithog i'w defnyddio gartref gyda'ch plentyn. Maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau ioga babi, tylino babanod ac amser rhigwm ac arwyddo Cymraeg.

Mae Clwb Cwtsh yn rhaglen flasu llawn hwyl sy’n canolbwyntio ar siarad Cymraeg gyda phlant ifanc. Mae wedi’i anelu at ddarpar rieni i fod, rhieni/gofalwyr ac aelodau o’r teulu estynedig. Nid oes angen unrhyw Gymraeg arnoch i ymuno, felly beth am roi cynnig arni? Mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim a gellir eu cynnal yn rhithwir dros Teams fel y gallwch gael cefnogaeth o gysur eich cartref eich hun. 

Cylch Ti a Fi  - Mae’r cylch chwarae babanod a phlant bach yn ffordd wych o gychwyn taith eich teulu gyda’r Gymraeg, wrth i rieni a phlant ddod at ei gilydd i chwarae a dysgu. Mae 'Ti a Fi' yn cynnig y cyfle i ddysgu caneuon Cymraeg syml, gwrando ar straeon Cymraeg o ystod eang o lyfrau Cymraeg, chwarae gyda theganau, chwarae blêr ac adeiladu cyfeillgarwch yn gyffredinol.

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen and Mynwy     

Sefydlwyd Menter Iaith BGTM yn 2007 sydd yn gwneud nhw un o’r Mentrau Iaith ieuengaf o blith y 22 sy’n bodoli ar draws Cymru. Mae’r Fenter yn gwasanaethu tair sir – Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.

Sefydlwyd Menter Iaith i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i bobl o bob oed, cefndir, a gallu ieithyddol fwynhau a chymdeithasu yn y Gymraeg. Mae’r Mentrau yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol er mwyn hybu defnydd o’r Gymraeg.

Cliciwch ar y ddolen uchod i weld yr holl ddigwyddiadau a gwaith mae ein Menter yn ei wneud yn yr ardal.

Uned Drochi Cymraeg

Hyd yn oed os nad yw eich plentyn wedi bod yn mynychu meithrinfa cyfrwng Cymraeg dyw hi ddim yn rhy hwyr, mae gan Ysgol Gymraeg Bro Helyg uned drochi wych, gweler y fideo isod am fwy o wybodaeth...

Derbyniadau Ysgolion Blaenau Gwent

Trafnidiaeth Ysgol

Bydd y Cyngor yn cynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion meithrin sy'n byw dros 1.5 milltir o'u cyfeiriad cartref i Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Edrychwch ar y fideo isod i glywed gan y rhieni sydd eisoes yn elwa o'r drafnidiaeth a ddarperir: 

Mae disgyblion sy’n dymuno ymgymryd â’u hastudiaethau ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg ac angen teithio ymhellach i gael eu haddysg (heb unrhyw lwybrau bws gwasanaeth cyhoeddus uniongyrchol), yn gallu defnyddio'r ddarpariaeth bws dan gontract presennol yn lle'r Grant Teithio. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â 01495 311556 neu e-bostiwch: hometoschooltransport@blaenau-gwent.gov.uk