Sir y Fflint

Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint

Ydych chi’n ystyried addysg Gymraeg yn Sir y Fflint i’ch plentyn?

Mae addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio’r iaith yn naturiol fel rhan o’u haddysg a’u bywyd bob dydd.

Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn dewis addysg Gymraeg i’w plentyn. Mae llawer o blant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg Sir y Fflint yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad, ac mae cymorth ar gael i blant a theuluoedd ar hyd y daith.

Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cyfrwng Cymraeg, darpariaeth feithrin, cymorth trochi i blant sy’n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach, addysg ôl-16, cludiant ysgol a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn Sir y Fflint.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi creu cyfres o fideos byr sy’n trafod addysg Gymraeg a manteision defnyddio’r Gymraeg a mwy nag un iaith.

Gwyliwch y gyfres llawn o fideos ar YouTube

Ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint

Mae 5 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint.

Ysgol Croes Atti – Y Fflint a Shotton

Mae Ysgol Croes Atti yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sy’n gweithredu ar ddau safle – Y Fflint a Shotton.

Mae’r ysgol yn darparu addysg i blant rhwng 3 ac 11 oed ac mae darpariaeth blynyddoedd cynnar hefyd ar gael ar y ddau safle.

Ewch i wefan Ysgol Croes Atti

Ysgol Glanrafon – Yr Wyddgrug

Mae Ysgol Glanrafon yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Yr Wyddgrug.

Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth feithrin yn ogystal ag addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ewch i wefan Ysgol Glanrafon

Ysgol Gwenffrwd – Treffynnon

Mae Ysgol Gwenffrwd yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhreffynnon.

Ewch i wefan Ysgol Gwenffrwd

Ysgol Gymraeg Mornant – Picton

Mae Ysgol Gymraeg Mornant yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Picton.

Ewch i wefan Ysgol Gymraeg Mornant

Addysg uwchradd Gymraeg yn Sir y Fflint

Ysgol Maes Garmon – Yr Wyddgrug

Mae Ysgol Maes Garmon yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Yr Wyddgrug ac yn gwasanaethu dysgwyr o bob rhan o Sir y Fflint.

Mae’r ysgol hefyd yn croesawu dysgwyr sydd wedi derbyn eu haddysg gynradd drwy gyfrwng y Saesneg drwy ei Chynllun Trochi.

Ewch i wefan Ysgol Maes Garmon

Darpariaeth feithrin a chyn ysgol

Mae cyfleoedd i blant ddefnyddio’r Gymraeg o oedran ifanc drwy Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin, meithrinfeydd a darpariaeth feithrin mewn ysgolion.

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni, gofalwyr a phlant ifanc chwarae a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg, tra bod Cylchoedd Meithrin yn darparu cyfleoedd i blant ifanc chwarae, dysgu a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam hefyd yn darparu gwybodaeth am y llwybr addysg Gymraeg, o’r blynyddoedd cynnar ymlaen.

Gweler gwybodaeth Menter Iaith Fflint a Wrecsam am addysg Gymraeg

Chwiliwch am Gylch Meithrin neu grŵp Ti a Fi ar wefan Mudiad Meithrin

Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach – ysgol gynradd

Gall plentyn ymuno ag addysg Gymraeg ar unrhyw oedran, hyd yn oed os nad yw wedi bod yn derbyn ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Mae pob un o’r pum ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint yn cynnig cymorth i blant sy’n newydd i’r Gymraeg.

Mae plant sy’n ymuno ym Mlwyddyn 3 neu’n hŷn yn gallu cael cymorth drwy raglen drochi Gymraeg 10 wythnos, a ariennir gan yr Awdurdod Lleol.

Yn ystod y rhaglen:

  • mae’r plant yn treulio’r bore mewn grŵp dysgu bach gyda staff sy’n arbenigo mewn addysgu Cymraeg;
  • yn y prynhawn, maent yn dychwelyd i’w dosbarth arferol ac yn defnyddio’r Gymraeg maent wedi bod yn ei dysgu; ac
  • ar ôl y 10 wythnos, maent yn aros yn y dosbarth yn llawn amser gyda chymorth parhaus gan staff yr ysgol.

Mae’r rhaglen hefyd ar gael fel adnodd digidol, sy’n golygu y gall rhieni a gofalwyr gael mynediad ati a dysgu ochr yn ochr â’u plentyn os ydynt yn dymuno.

Darllenwch ragor am ymuno ag addysg Gymraeg yn Sir y Fflint

Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach – ysgol uwchradd

Mae Cynllun Trochi Ysgol Maes Garmon yn galluogi dysgwyr sydd wedi mynychu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i symud ymlaen i addysg uwchradd Gymraeg.

Mae’r broses drochi yn dechrau ym Mlwyddyn 6, gyda chyfleoedd i ddysgwyr baratoi ar gyfer eu haddysg uwchradd Gymraeg cyn dechrau Blwyddyn 7.

Ym Mlwyddyn 7, mae’r dysgwyr yn derbyn cefnogaeth iaith ddwys, gyda’r defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

Ym Mlwyddyn 8, mae’r dysgwyr yn dechrau integreiddio â’r prif ddosbarthiadau mewn mwy o bynciau, gyda’r nod o fod wedi integreiddio’n llawn a dilyn y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Blwyddyn 9.

Darllenwch ragor am Gynllun Trochi Ysgol Maes Garmon

Dydw i ddim yn siarad Cymraeg – alla i ddewis addysg Gymraeg i’m plentyn?

Gallwch. Nid oes angen i rieni na gofalwyr siarad Cymraeg er mwyn dewis addysg Gymraeg i’w plentyn.

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg Sir y Fflint yn brofiadol wrth gefnogi teuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref.

Mae gohebiaeth ysgol yn cael ei darparu’n ddwyieithog, ac mae staff ysgol yn gallu helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi gwaith ysgol eu plant.

Mae’r rhaglen drochi gynradd ddigidol hefyd yn rhoi cyfle i rieni ddysgu ochr yn ochr â’u plentyn.

16 oed a thu hwnt

Nid oes rhaid i’r daith drwy addysg Gymraeg ddod i ben ar ôl cwblhau TGAU.

Mae Ysgol Maes Garmon yn cynnig Chweched Dosbarth, gan roi cyfle i ddysgwyr barhau â’u haddysg a dilyn cyrsiau Safon Uwch.

Darllenwch ragor am Chweched Dosbarth Ysgol Maes Garmon

Gall pobl ifanc hefyd barhau â’u haddysg drwy Goleg Cambria, sy’n cynnig ystod o gyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau.

Mae nifer o gyrsiau’r Coleg yn cynnig cyfle i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Ewch i wefan Coleg Cambria

Cludiant ysgol yn Sir y Fflint

Mae cymorth gyda chludiant i addysg Gymraeg ar gael i blant sy’n bodloni meini prawf Cyngor Sir y Fflint.

Yn gyffredinol, mae cludiant am ddim i’r ysgol cyfrwng Cymraeg addas agosaf ar gael i blant rhwng 5 ac 16 oed os ydynt yn byw:

  • dros 2 filltir o ysgol gynradd; neu
  • dros 3 milltir o ysgol uwchradd.

Gall amgylchiadau eraill hefyd effeithio ar gymhwysedd, felly mae’n bwysig gwirio’r polisi a gwneud cais drwy Gyngor Sir y Fflint.

Mae darpariaeth cludiant hefyd ar gael i rai dysgwyr 16 oed a hŷn sy’n parhau mewn addysg ôl-16, yn amodol ar feini prawf penodol.

Darllenwch ragor a gwnewch gais am gludiant ysgol

Dysgu Cymraeg i rieni a gofalwyr

Mae cyfleoedd ar gael i rieni a gofalwyr sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg neu ddatblygu’r Gymraeg sydd ganddynt eisoes.

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn darparu cyrsiau ar draws Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, yn ogystal â chyfleoedd dysgu ar-lein.

Ewch i Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain

Defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn gweithio gyda chymunedau ar draws y ddwy sir i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r Fenter yn cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a phrosiectau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn helpu pobl i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am addysg Gymraeg a gall gyfeirio teuluoedd at wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd lleol.

Ewch i wefan Menter Iaith Fflint a Wrecsam

Rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg yn Sir y Fflint

I gael rhagor o wybodaeth am ysgolion cyfrwng Cymraeg, cymorth trochi a dewis addysg Gymraeg yn Sir y Fflint, ewch i dudalen Addysg Gymraeg Cyngor Sir y Fflint.

Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint – Cyngor Sir y Fflint

Gallwch hefyd ddarllen llyfryn gwybodaeth Cyngor Sir y Fflint am addysg Gymraeg a phrofiadau teuluoedd lleol.

Darllenwch y llyfryn Addysg Gymraeg