Sir Fynwy
Bod yn Ddwyieithog
Mae Addysg Cyfrwng Cymraeg Cyngor Sir Fynwy ar gael i bawb.
Ydych chi’n ystyried anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg?
Felly beth mae bod yn ddwyieithog yn ei olygu?
Dyma’r gallu i fyw eich bywyd bob dydd yn defnyddio dwy iaith.
Fel rhiant, bydd penderfynu ar addysg eich plentyn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch. Gall nifer gynyddol o rieni dystio y bu dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plentyn yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil.
Ydych chi eisiau i’ch plentyn ddod yn ddwyieithog?
“Ond dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg!” Gyda’r rhan fwyaf o rieni heb fod yn siarad Cymraeg, mae ysgolion yn darparu popeth yn Saesneg a Chymraeg.
“Beth am eu sgiliau iaith Saesneg?” Pan fydd plant yn gadael ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg maent yn rhugl yn Gymraeg, ac mor rhugl yn Saesneg â phlant o ysgolion cyfrwng Saesneg.
“Pam addysg cyfrwng Cymraeg?” Mae’r addysg o safon ardderchog. Mae’n rhwydd dysgu iaith o oed cynnar ac mae plant yn mwynhau eu bywyd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Felly beth yw manteision bod yn ddwyieithog?
Gallwch fyw eich bywyd mewn dwy (neu fwy) o ieithoedd. Gan fyw yng Nghymru, caiff eich bywyd ei gyfoethogi pan fedrwch siarad Cymraeg. Ac os ydych eisiau teithio neu eisoes yn siarad ieithoedd eraill adref, mae dysgu iaith arall yn rhwydd!
Mae cyfleoedd gwaith a gyrfa gwych. Mae siarad dwy iaith yn cynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â sgil ychwanegol ar eich C.V.
Mae’n fanteisiol siarad gyda phobl yn eu dewis iaith. Mae’r meysydd gyrfa hyn yn neilltuol yn frwd i gyflogi siaradwyr Cymraeg – y cyfryngau, technoleg gwybodaeth, iechyd, y sector cyhoeddus, chwaraeon a hamdden, manwerthu a’r sector gofal plant ac yn y blaen.
Ymestynnwch eich ymennydd … Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos fod plant dwyieithog yn tueddu i gyflawni’n uwch o fewn y cwricwlwm a pherfformio’n well mewn arholiadau. Maent hefyd yn tueddu i wneud yn well dan bwysau.
Sut y caiff y Gymraeg ei dysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?
Pan mae plant yn dechrau dysgu Cymraeg, cânt eu trochi yn yr iaith o’r cychwyn cyntaf ond mae’r staff yn hyblyg a gallant ddefnyddio Saesneg os oes angen i sicrhau eu llesiant.
Y Gymraeg yw iaith yr addysg yn y Cyfnod Sylfaen (meithrinfa-B2) ac yna bydd plant yn cael gwersi yn Saesneg ac yn defnyddio Saesneg yn eu gwersi ar draws y cwricwlwm. Caiff hyn ei gydnabod yn rhyngwladol fel ffordd o ddysgu iaith. O Flwyddyn 3, mae disgyblion yn dilyn yr un cwricwlwm â disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg drwy’r TGAU.
Edrychwch ar ein llyfryn Bod yn Ddwyieithog.
Ddim yn rhy hwyr i gychwyn y daith ddwyieithog.
A oeddech yn gwybod nad yw’n rhy hwyr i ystyried Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer eich plentyn, hyd yn oed os nad oeddynt wedi mynychu Meithrinfa/Ysgol Gynradd Gymraeg ar ddechrau eu haddysg?
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu Canolfan Drochi Hwyr ar gyfer yr Iaith Gymraeg er mwyn caniatáu plant i ddod yn ddigon rhugl i drosglwyddo i Ysgol Cyfrwng Cymraeg.
Gwyliwch fideo am yr Uned Drochi yn Ysgol y Ffin