Rhondda Cynon Taf

Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf

Mae llawer o fanteision ychwanegol o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg. Rydyn ni wedi eu cynnwys yn ein canllaw defnyddiol i rieni/gwarcheidwaid sydd ar gael yma: Bod yn Ddwyieithog yn Rhondda Cynon Taf

Mae ymchwil wedi dangos y gall plant sy'n siarad dwy iaith fod yn fwy amryddawn, meddwl yn fwy creadigol a'i chael hi'n haws dysgu ieithoedd eraill. Mae’r manteision yn parhau ym myd oedolion gan fod siarad mwy nag un iaith yn sgil ychwanegol i’w ychwanegu at eich CV. Mae cyflogwyr yng Nghymru angen gweithluoedd dwyieithog gan fod angen cynnig gwasanaethau’n ddwyieithog.

Hoffech drafod addysg cyfrwng Cymraeg â rhywun? Fe fydd eich ysgol Cymraeg lleol yn fwy nag hapus i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych. Dilynwch y ddolen hon i ddod o hyd i’ch ysgol Cymraeg lleol. 

Delwedd plentyn Bod yn Ddwyieithog

Taith Iaith – Hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg

Mae cymorth nawr ar gael i gefnogi hwyrddyfodiaid i’r iaith i gael manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dechrau ar eu taith i fod yn ddwyieithog. Mae’r gwasanaeth yn cynnig:

·        Profiad o ddysgu trwy drochi wedi’i deilwra i bob unigolyn

·        Canllaw cam wrth gam i ddysgu’r iaith Gymraeg

·        Cymorth ac arweiniad i ddisgyblion, staff a rhieni/gwarcheidwaid

·        Cymorth parhaol i ddisgyblion wrth ddychwelyd i’r dosbarth cyfrwng Cymraeg

Gall unrhyw ddisgyblion ym mlynyddoedd 2– 6 sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg ymgeisio i’r gwasanaeth. Am fwy o wybodaeth ac unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Garfan Drochi: TrochiIaith@rctcbc.gov.uk

Gofal Plant

Mae'r Cylchoedd Meithrin yn gylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg, ond, mae croeso i blant o gartrefi di-Gymraeg.

Mae'r Cylchoedd Meithrin yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol. Maen nhw'n ysbrydoli datblygu trwy chwarae, gan baratoi'ch plentyn ar gyfer datblygu iaith yn y dyfodol drwy fod yn ddwyieithog o oedran cynnar.

Dewch o hyd i’ch Cylch Meithrin lleol trwy wefan DEWIS neu trwy wefan Cylch Meithrin.

Grwpiau Babanod Bach/Plant Bach a Rhieni

O’r cyfnodau cynharach, fe allwch chi a’ch babi cael mynediad i sesiynau tylino i fabanod, yoga i fabanod a sesiynau arwyddo stori a chân yn y Gymraeg. Mae Cymraeg i Blant yn cynnal sesiynau am ddim ledled RhCT. 

Mae Cylch Ti a Fi yn grŵp babanod/plant bach a rhieni a gaiff ei gynnal yn ddwyieithog. Maent yn darparu cyfleoedd i chi gael blas ar sut y bydd eich plentyn yn addasu â’r Cylch Meithrin. Mae’r sesiynau’n gyfle gwych i gymdeithasu gyda rhieni eraill nad oes gyda nhw unrhyw sgiliau siarad Cymraeg. Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg i fynychu’r sesiynau – bydd croeso cynnes i bawb. Does dim rhaid i chi fynychu’r sesiynau yma i fynychu Cylch Meithrin neu ysgol Gymraeg – bydd eich plentyn yn cael ei gefnogi ar bob cam o’i daith. 

Am ragor o wybodaeth ar y sesiynau babanod a rhieni am ddim, dilynwch y cyfrif Facebook: Cymraeg i Blant Rhondda Cynon Taf | Facebook

I ddod o hyd i’ch Cylch Ti a Fi lleol, dilynwch y ddolen hon.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg Dechrau’n Deg

Gall pob plentyn 2+ oed sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg fanteisio ar y cynnig Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg mewn Cylch Meithrin. Mae gennych ddewis – gofynnwch am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Dechrau’n Deg wrth ddewis gofal plant i’ch plentyn. 

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd RhCT ar 0800 180 4151.