Profiadau
Dewch i weld sut mae plant, a phobl ifanc yn dysgu ac yn mwynhau'r Gymraeg. Pori drwy'r Profiadau isod - fideos, lluniau, gemau a straeon go iawn am blant yn cael hwyl gyda'r iaith.
Hyd yn oed cyn gallu siarad, mae plant yn mwynhau gwrando a symud i ganeuon a straeon Cymraeg. Mae gofal plant dwyieithog yn gosod seiliau cadarn, ac mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig y llwybr gorau i dyfu'n siaradwyr hyderus o'r Gymraeg a Saesneg.
Gallwch hefyd wylio rhagor o fideos ar ein sianel YouTube Cymraeg i Bawb.
