Merthyr Tudful
Eich Taith Ddwyieithog / Dyfod yn Ddwyieithog
Ydych chi’n ystyried Addysg trwy Gyfrwng y Gymraeg i’ch plentyn?
Mae nifer o fanteision i fod yn ddwyieithog a gallwch ddarllen amdanynt yn yr adnoddau canlynol:
Gellir dod o hyd i’r Llyfryn Bod yn Ddwyieithog a'r fideo Bod yn Ddwyieithog yma
Beth sydd ar gael ym Merthyr Tudful i’ch cefnogi chi a’ch plentyn?
Mae gennym nifer o grwpiau Ti a Fi ar gyfer plant sydd rhwng 2 a 3 oed.
Playzone Trago Mills Merthyr Tudful
Menter Iaith Merthyr Tudful a Chanolfan Soar
Mae gennym hefyd 5 Cylch Meithrin:
Cylch Meithrin Gofal Plant y Drindod Aber-fan
Mae dwy ysgol Gynradd Gymraeg:
Mae Ysgol Santes Tudful hefyd yn goruchwylio sefydlu trydedd Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd y Sir
Am ddarpariaeth uwchradd, bydd pob plentyn yn pontio i Ysgol Gyfun Rhydywaun yn RhCT
Beth am gefnogi’r teulu os nad ydynt yn siarad Cymraeg?
Mae llawer o gyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg ac rydym yn cydweithio’n agos â Dysgu Cymraeg Morgannwg
Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi datblygu #Shwmaeronment a’n gweledigaeth yw datblygu Merthyr Tudful yn Fwrdeistref Sirol lle y mae’r Iaith Gymraeg yn cael ei chlywed, ei siarad a’i dathlu gan bawb. Dilynwch ein tudalennau ar y gwefannau cymdeithasol lle’r ydym yn rhannu’r hyn yr ydym yn eu hybu a’u datblygu i ddefnyddio’r Gymraeg. Cefnogir y cyfan gan ein masgot - Dwynwen
Gweler y dolenni ar gyfer ein tudalennau ar y we
Tudalen Facebook Shwmaeronment
Tudalen Twitter Shwmaeronment
Tudalen Instagram Shwmaeronment
Am ragor o wybodaeth ar Addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo, cysylltwch â shwmaeronment@merthyr.gov.uk