Gwynedd

Addysg Gymraeg yng Ngwynedd

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd, addysg a chymunedau Gwynedd. Mae addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio’r iaith yn naturiol fel rhan o’u haddysg a’u bywyd bob dydd.

Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn i’w plentyn gael addysg Gymraeg. Mae cymorth ar gael i blant a theuluoedd ar hyd y daith.

Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion Gwynedd, darpariaeth feithrin a gofal plant, addysg drochi Gymraeg, addysg ar ôl 16 oed, cludiant ysgol a chymorth i deuluoedd.

Ysgolion Gwynedd

Mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ganolog i ddarpariaeth ysgolion Gwynedd.

Mae pob ysgol yng Ngwynedd, ac eithrio tair ysgol drosiannol, yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Y tair ysgol drosiannol yw:

  • Ysgol Uwchradd Tywyn – Tywyn
  • Ysgol Friars – Bangor
  • Ysgol Ein Harglwyddes – Bangor

Mae’r tair ysgol ar daith i gynyddu eu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a symud i gategori iaith uwch dros y blynyddoedd nesaf. Mae Cyngor Gwynedd yn darparu cymorth ychwanegol i staff a dysgwyr yn yr ysgolion hyn er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg.

Gallwch ddefnyddio cyfleuster Chwilio am Ysgol Cyngor Gwynedd i ddod o hyd i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn eich ardal, ynghyd â manylion cyswllt a gwybodaeth am yr ysgol.

Chwiliwch am ysgol yng Ngwynedd

Darpariaeth feithrin, cyn ysgol a gofal plant

Mae’r Gymraeg yn rhan ganolog o ddarpariaeth addysg gynnar ac ysgolion yng Ngwynedd.

Mae cyfleoedd ar gael i blant ddefnyddio’r Gymraeg o oedran ifanc drwy ddarpariaeth feithrin, Cylchoedd Meithrin, grwpiau Ti a Fi a gwasanaethau i deuluoedd.

Gall iaith y ddarpariaeth amrywio ymhlith rhai darparwyr gofal plant preifat, felly mae’n werth cysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol i gadarnhau pa ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael.

Mae Teulu Gwynedd yn dod â gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau at ei gilydd i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwynedd hefyd yn cynnig cyngor am ofal plant, cymorth i rieni, gweithgareddau a gwasanaethau lleol.

Ewch i Teulu Gwynedd

Chwiliwch am Gylch Meithrin neu grŵp Ti a Fi ar wefan Mudiad Meithrin

Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach

Gall plant a phobl ifanc ymuno ag addysg Gymraeg yng Ngwynedd hyd yn oed os nad ydynt wedi bod yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Mae Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd yn wasanaeth arbenigol sy’n helpu plant sy’n newydd i’r Gymraeg i ddatblygu’r iaith mewn ffordd naturiol, gyflym a chefnogol.

Mae’r gyfundrefn yn cynnwys 6 chanolfan drochi ar draws Gwynedd:

  • 3 chanolfan gynradd ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 2–4
  • 3 chanolfan bontio ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5–9

Mae’r canolfannau wedi’u lleoli yng:

  • Nghaernarfon
  • Dolgellau
  • Pwllheli
  • Porthmadog
  • Bangor
  • Tywyn

Mae disgyblion fel arfer yn mynychu’r ddarpariaeth am 10 wythnos, gan dreulio pedwar diwrnod yr wythnos yn y ganolfan drochi ac un diwrnod yn eu hysgol gartref. Ar ôl y cyfnod trochi, maent yn dychwelyd i’w hysgol yn llawn amser gyda chefnogaeth barhaus i ddatblygu eu Cymraeg.

Darllenwch ragor ar wefan Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd

Dysgu drwy brofiadau – Aberwla

Mae Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd yn defnyddio Aberwla, tref ddychmygol sy’n helpu dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd naturiol ac ymarferol.

Drwy weithgareddau creadigol, chwarae rôl a thechnoleg, mae plant yn datblygu eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.

Mae’r ddarpariaeth hefyd yn defnyddio technoleg realiti rhithwir (VR) i roi cyfleoedd i blant ddefnyddio a datblygu’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Darllenwch ragor am y cwrs a Aberwla

Dydw i ddim yn siarad Cymraeg – alla i ddewis addysg Gymraeg i’m plentyn?

Gallwch. Nid oes angen i rieni na gofalwyr siarad Cymraeg er mwyn i’w plentyn gael addysg Gymraeg yng Ngwynedd.

Mae’r gyfundrefn addysg drochi, ysgolion a gwasanaethau lleol yn gallu cefnogi plant sy’n newydd i’r Gymraeg, ac mae cyfleoedd hefyd i rieni a gofalwyr ddechrau dysgu neu ddefnyddio mwy o Gymraeg eu hunain.

Siarter Iaith

Mae Siarter Iaith yn cael ei defnyddio yn ysgolion Gwynedd i annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol.

Mae’r gwaith yn cynnwys Criwiau Cymraeg mewn ysgolion cynradd a Fforymau Iaith mewn ysgolion uwchradd, gyda’r nod o gynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc.

Darllenwch ragor am Siarter Iaith Gwynedd

16 oed a thu hwnt

Nid oes rhaid i’r daith drwy addysg Gymraeg ddod i ben ar ôl cwblhau TGAU.

Mae nifer o ysgolion yng Ngwynedd yn cynnig darpariaeth Chweched Dosbarth:

  • Ysgol Friars – Bangor
  • Ysgol Tryfan – Bangor
  • Ysgol Dyffryn Ogwen – Bethesda
  • Ysgol Brynrefail – Llanrug
  • Ysgol Dyffryn Nantlle – Penygroes
  • Ysgol Syr Hugh Owen – Caernarfon
  • Ysgol Godre’r Berwyn – Y Bala

Gall pobl ifanc hefyd barhau â’u haddysg drwy Grŵp Llandrillo Menai, gyda darpariaeth yng Ngholeg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, gan gynnwys safleoedd Bangor, Dolgellau, Glynllifon a Phwllheli.

Darllenwch ragor am addysg bellach ar wefan Cyngor Gwynedd

Ewch i wefan Grŵp Llandrillo Menai

Cludiant ysgol yng Ngwynedd

Mae dalgylchoedd ysgol a chludiant yn bwysig wrth ddewis ysgol.

Gall plant fod yn gymwys i gael cludiant ysgol os ydynt yn byw yng Ngwynedd, yn mynychu’r ysgol agosaf neu ysgol eu dalgylch, ac yn bodloni meini prawf y Polisi Cludiant Ysgolion.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn darparu gwybodaeth am deithiau ysgol, amserlenni bysus a chludiant ar ôl 16 oed.

Darllenwch ragor am deithio i’r ysgol yng Ngwynedd

Mae Tocyn Teithio 16+ ar gael ar gyfer rhai dysgwyr sy’n teithio i ysgol neu goleg, gyda gwasanaethau yn cynnwys llwybrau i ysgolion Chweched Dosbarth a safleoedd Grŵp Llandrillo Menai.

Dysgu Cymraeg i rieni a gofalwyr

Mae cyfleoedd ar gael i rieni a gofalwyr ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eu sgiliau iaith.

Mae Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin yn darparu cyrsiau ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy, ynghyd â chyrsiau ar-lein.

Ewch i Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin

Cymorth i blant a theuluoedd

Mae Teulu Gwynedd yn cynnig gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ar ystod eang o faterion, gan gynnwys gofal plant, cymorth i rieni a gofalwyr, gweithgareddau a digwyddiadau, materion ariannol a dychwelyd i waith neu addysg.

Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwynedd helpu teuluoedd i ddod o hyd i’r gwasanaeth neu’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

Ewch i Teulu Gwynedd

Defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned

Mae Menter Iaith Gwynedd yn gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Gwynedd, gan greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn naturiol yn eu cymunedau, mewn gweithgareddau ac ym mywyd bob dydd.

Mae’r Fenter hefyd yn cefnogi dysgwyr a siaradwyr newydd i fagu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Ewch i wefan Menter Iaith Gwynedd

Gweler adnoddau i ddysgwyr a siaradwyr newydd

Rhagor o wybodaeth am ysgolion ac addysg yng Ngwynedd

I ddod o hyd i ysgol benodol, gweld ei manylion cyswllt neu chwilio am ysgolion yn eich ardal, defnyddiwch wasanaeth Chwilio am Ysgol Cyngor Gwynedd.

Chwiliwch am ysgol yng Ngwynedd

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am addysg drochi Gymraeg, defnyddiwch wefan Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd.

Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd