Wrecsam
Addysg Gymraeg yn Wrecsam
Ydych chi'n ystyried addysg Gymraeg yn Wrecsam i'ch plentyn?
Mae addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio'r iaith yn naturiol fel rhan o'u haddysg a'u bywyd bob dydd.
Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn dewi addysg Gymraeg i'w plentyn.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd sy'n cynnig addysg Gymraeg, darpariaeth feithrin, gofal cyn ac ar ôl ysgol ac addysg uwchradd Gymraeg yn Wrecsam.
Ysgolion cynradd sy'n cynnig addysg Gymraeg yn Wrecsam
Mae 9 ysgol gynradd yn Wrecsam yn y ddarpariaeth a restrir yma, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgol sy'n cynnig darpariaeth Gymraeg a Saesneg.
Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Mae Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o Ffedaraswin Dyffryn Ceiriog, ac yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Mae darpariaeth ar gael i blant o 18 mis oed ymlaen.
Mae'r ysgol hefyd yn cynnig:
- Clwb Brecwast
- Clwb ar ôl ysgol (Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener 3:15YP-5:30YP)
Ysgol Min-y-Ddôl - Cefn Mawr
Mae Ysgol Min-y-Ddôl yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Mae Cylch Meithrin ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed, ynghyd â chlwb ar ôl ysgol.
Ysgol Bodhyfryd - Wrecsam
Mae Ysgol Bodhyfryd yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.
Mae Cylch Meithrin ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed.
Mae'r ysgol hefyd yn cynnig:
- Clwb Brecwast
- Clwb ar ôl ysgol
Ysgol ID Hooson - Rhosllanerchrugog
Mae Ysgol ID Hooson yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Mae Cylch Meithrn ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed, ynghyd â chlwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol.
Ysgol Plas Coch - Wrecsam
Mae Ysgol Plas Coch yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.
Mae Cylch Meithrin ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed.
Mae'r ysgol hefyd yn cynnig:
- Clwb brecwast
- Clwb ar ôl ysgol
Ysgol Bro Alun - Gwersyllt
Mae Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.
Mae Cylch Meithrin ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed, ynghyd â chlwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol.
Ysgol Llan-y-pwll - Borras, Wrecsam
Mae Ysgol Llan-y-pwll yn cynnig darpariaeth addysg Gymraeg sy'n ehangu fesul blwyddyn.
Mae'r darpariaeth yn cynnwys Blwyddyn 3 o fis Medi 2026.
Mae Cylch Meithrin ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed, ynghyd â chlwb ar ôl ysgol.
Ysgol Cynddelw - Glyn Ceiriog
Mae Ysgol Cynddelw yng Nglyn Ceiriog ac yn rhan o Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog.
Mae'n ysgol ddwy ffrwd, gyda darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r ysgol hefyd yn cynnig:
- Clwb Brecwast
- Clwb ar ôl ysgol
Ysgol Bryn Tabor - Coedpoeth
Mae Ysgol Bryn Tabor yng Nghoedpoeth ac yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Mae Cylch Meithrin ar gael i blant rhwng 2 a 4 oed.
Mae'r ysgol hefyd yn cynnig:
- Clwb Brecwast
- Clwb ar ôl ysgol
Darpariaeth feithrin Gymraeg yn Wrecsam
Mae nifer o ysgolion sy'n cynnig addysg Gymraeg yn Wrecsam hefyd un cynnig darpariaeth Cylch Meithrin i blant rhwng 2 a 4 oed, gan roi cyfle i blant ddefnyddio'r Gymraeg o oedran ifanc.
Mae darpariaeth Cylch Meithrin wedi'i rhestru yn:
- Ysgol Min-y-Ddôl - Cefn Mawr
- Ysgol Bodhyfryd - Wrecsam
- Ysgol ID Hooson - Rhosllanerchrugog
- Ysgol Plas Coch - Wrecsam
- Ysgol Bro Alun - Gwersyllt
- Ysgol Llan-y-pwll - Borras, Wrecsam
- Ysgol Bryn Tabor - Coedpoeth
Mae Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog hefyd yn cynnig darpariaeth i blant o 18 mis oed ymlaen.
Gofal cyn ac ar ôl ysgol
Mae nifer o ysgolion sy'n cynnig addysg Gymraeg yn Wrecsam yn darparu clybiau brecwast a/neu glybiau ar ôl ysgol.
Mae'r ddarpariaeth yn amrywio rhwng ysgolion. I gael wybodaeth ddiweddaraf am glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol, ewch i wefan yr ysgol drwy'r dolenni uchod neu cysylltwch â'r ysgol am amseroedd a lleoedd.
Addysg uwchradd Gymraeg yn Wrecsam
Ysgol Morgan Llwyd - Wrecsam
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam, sy'n darparu addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Chweched Dosbarth ac addysg ôl-16
Mae gan Ysgol Morgan Llwyd Chwched Dosbarth, sy'n galluogi disgyblion i barhau a'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl Blwyddyn 11.
Mae'r Chweched Dosbarth yn cynnig ystod o gymwysterau UG a Lefel A, yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol BTEC a Bagloriaeth Cymru.
Darllenwch ragor am Chweched Dosbarth Ysgol Morgan Llwyd.
Mae cyfleoedd hefyd i bobl ifanc i barhau i ddefnydio'r Gymraeg drwy addysg bellach, coleg, hyfforddiant, prentisiaeth a llwybrau gyrfa.
AGW - Addysg Gymraeg Wrecsam
Mae AGW - Addysg Gymraeg Wrecsam yn ganolfan wybodaeth sy'n dod â gwybodaeth ac adnoddau am addysg Gymraeg yn Wrecsam ynghyd mewn un lle.
Mae'r wefan yn cynnwy gwybodaeth am y daith drwy addysg Gymraeg, o Cymraeg i Blant a grwpiau Ti a Fi, drwy addysg gynradd ac uwchradd, ac ymlaen at addysg bellach, hyfforddiaent, prentisiaethau a gyrfaoedd.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ysgolion lleol sy'n cynnig addysg Gymraeg, addysg gynnar wedi'i hariannu, trochu a chymorth i hwyrddyfodiaid, adnoddau defnyddiol i deuluoedd a dolenni at sefydliadau eraill.
Ewch i wefan AGW - Addysg Gymraeg Wrecsam.
Gwybodaeth a chymorth ychwanegol yn Wrecsam
Mae rhagor o gymorth a chyfleoedd ar gael i deuluoedd sydd a gyflwyno neu ddefnyddio mwy o Gymraeg cyn i'w plentyn ddechrau'r ysgol, yn ogystal ag i blant sy'n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach.
Cymraeg i Blant
Mae Cymraeg i Blant gan Mudiad Meithrin yn cynnig gweithgareddau a chymorth i rieni newydd a'u babanod, gan helpu teuluoedd i gyflwyno'r Gymraeg o'r cychwyn cyntaf.
Mae gweithgareddau'n cynnwys sesiynau wythnosol megis tylino babi, ioga babi a sesiynau stori a chân.
Grwpiau Ti a Fi
Mae grwpiau Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni, gofalwyr a phlant ifanc chwarae a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch chwilio am eich grwp Ti a Fi agosaf ar wefan Mudiad Meithrin. Dewiswch "Cylch Ti a Fi" o dan "Math o ofal plant" wrth chwilio.
Addysg Gynnar wedi'i Hariannu
Gall rhai plant sy'n byw yn Wrecsam fod yn gymwys i gael Addysg Gynnar wedi'i Hariannu, gan ddibynnu ar eu hoedran a dyddiad eu pen-blwydd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion eich llyfrgell lleol yma a chysylltu â nhw i gael gwybodaeth am sesiynau lleol.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam gynnig gwybodaeth a chyngor i rieni a gofalwyr am ofal plant, addysg, gweithgareddau lleol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd.
Trochi Hwyr
Gall plant ymuno ag addysg Gymraeg yn diweddarach, hyd yn oed os ydynt wedi dechrau eu haddysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig Cynllun Trochi i Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg, sy'n cefnogi plant sy'n trosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'r cymorth yn cynnwys cefnogaeth yn yr ysgol, cymorth i deuluoedd a, lle bo'n briodol, gyfle i fynychu Canolfan Iaith Cynefin.
Mae cefnogaeth hefyd ar gael i ddisgyblion sy'n cymuno pontio o ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i Ysgol Morgan Llwyd ar gyfer addysg uwchradd Gymraeg.
Darllenwch ragor am Gynllun trochi Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg
Gwneud cais am le mewn ysgol
Os ydych wedi penderfynu ar addysg Gymraeg i'ch plentyn, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais am le mewn ysgol drwy dudalennau derbyniadau ysgol Cyngor Wrecsam.
Gallwch hefyd gysylltu â'r ysgol rydych yn ei hystyried yn uniongyrchol. Mae Cyngor Wrecsam yn nodi bod ysgolion yn croesawu teuluoedd sydd eisiau cael sgwrs neu ymweld a'r ysgol cyn gwneud penderfyniad.