Sir Ddinbych
Addysg Gymraeg yn Sir Ddinbych
Ydych chi’n ystyried addysg Gymraeg yn Sir Ddinbych i’ch plentyn?
Mae addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio’r iaith yn naturiol fel rhan o’u haddysg a’u bywyd bob dydd.
Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn dewis addysg Gymraeg i’w plentyn. Mae cymorth ar gael i blant a theuluoedd ar hyd y daith.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cyfrwng Cymraeg, darpariaeth feithrin a gofal plant, cymorth i blant sy’n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach, addysg ôl-16, cludiant ysgol a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn Sir Ddinbych.
Ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych
Mae 14 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych, yn ogystal ag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, sy’n ysgol dwy iaith.
Yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yw:
- Ysgol Betws Gwerfil Goch – Betws Gwerfil Goch
- Ysgol Carreg Emlyn – Clocaenog a Chyffylliog
- Ysgol Bro Dyfrdwy – Cynwyd
- Ysgol Bro Cinmeirch – ardal Dinbych
- Ysgol Pant Pastynog – ardal Dinbych
- Ysgol Twm o’r Nant – Dinbych
- Ysgol Bro Elwern – Gwyddelwern
- Ysgol Henllan – Henllan
- Ysgol Tremeirchion – ardal Llanelwy
- Ysgol Gymraeg y Gwernant – Llangollen
- Ysgol Pentrecelyn – Pentrecelyn
- Ysgol y Llys – Prestatyn
- Ysgol Pen Barras – Rhuthun
- Ysgol Dewi Sant – Y Rhyl
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd
Mae Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn ysgol dwy iaith, lle gall disgyblion ddilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Gweler ysgolion cyfrwng Cymraeg Sir Ddinbych
Addysg uwchradd Gymraeg yn Sir Ddinbych
Mae tri phrif lwybr i addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Ddinbych.
Ysgol Glan Clwyd – Llanelwy
Mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Llanelwy.
Mae’r Gymraeg yn gyfrwng addysg yr ysgol, ac mae’r ysgol hefyd yn cynnig Cynllun Trochi i ddysgwyr sydd heb dderbyn addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgol Brynhyfryd – Rhuthun
Mae Ysgol Brynhyfryd yn ysgol uwchradd ddwyieithog 11–18 yn Rhuthun.
Gall dysgwyr ddilyn eu haddysg drwy ffrwd Gymraeg neu ffrwd Saesneg, ac mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth Chweched Dosbarth.
Ysgol Dinas Brân – Llangollen
Mae cyfleoedd ar gael i blant ddefnyddio’r Gymraeg o oedran ifanc drwy Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin, meithrinfeydd a darparwyr gofal plant.
Gallwch chwilio am ddarpariaeth gofal plant yn Sir Ddinbych a gweld gwybodaeth am ddarparwyr lleol drwy Wasanaeth Gwybodaeth Gofal Plant Cymru.
Chwiliwch am ddarpariaeth gofal plant yn Sir Ddinbych
Gallwch hefyd chwilio am Gylch Meithrin neu grŵp Ti a Fi drwy wefan Mudiad Meithrin.
Chwiliwch am Gylch Meithrin neu grŵp Ti a Fi
Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach – ysgol gynradd
Gall plant ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach, hyd yn oed os nad ydynt wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu cymorth i newydd-ddyfodiaid ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 sydd wedi cofrestru mewn ysgol gynradd i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae athrawes ac uwch-gymhorthydd arbenigol yn darparu rhaglen wedi’i strwythuro i helpu plant i ddatblygu eu Cymraeg llafar a’u galluogi i integreiddio’n llawn i fywyd ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel arfer, mae newydd-ddyfodiaid yn:
- mynychu Canolfan Iaith dri diwrnod yr wythnos;
- dilyn y ddarpariaeth am dymor ysgol llawn; ac
- yn derbyn cludiant ysgol am ddim i’r Ganolfan Iaith.
Pan nad oes digon o blant i gynnal grŵp mewn Canolfan Iaith, gall cymorth allgymorth gael ei ddarparu yn yr ysgol.
Darllenwch ragor am gymorth i newydd-ddyfodiaid
Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach – ysgol uwchradd
Nid yw’n rhy hwyr i ddewis addysg uwchradd Gymraeg os yw plentyn wedi derbyn ei addysg gynradd drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae Cynllun Trochi Ysgol Glan Clwyd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer dysgwyr sy’n newydd i’r Gymraeg.
Mae’r daith yn dechrau yn ystod hanner tymor olaf Blwyddyn 6, pan fydd dysgwyr yn mynychu cwrs rhagarweiniol dwys i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Os ydynt yn dewis mynd ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, maent yn dilyn rhaglen gyflymedig ym Mlynyddoedd 7 ac 8, gyda’r nod o allu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â gweddill y disgyblion.
Ewch i dudalen Cynllun Trochi Ysgol Glan Clwyd
Mae’r dudalen hefyd yn cynnwys fideos am y Cynllun Trochi, gan gynnwys profiadau dysgwyr a gwybodaeth gan staff yr ysgol.
Dydw i ddim yn siarad Cymraeg – alla i ddewis addysg Gymraeg i’m plentyn?
Gallwch. Nid oes angen i rieni na gofalwyr siarad Cymraeg er mwyn i’w plentyn gael addysg Gymraeg.
Mae ysgolion a gwasanaethau Sir Ddinbych yn cefnogi plant sy’n newydd i’r Gymraeg, ac mae llwybrau penodol ar gael i blant sy’n trosglwyddo i addysg Gymraeg yn ystod y cyfnod cynradd neu uwchradd.
Mae cyfleoedd hefyd i rieni a gofalwyr ddysgu Cymraeg neu ddefnyddio mwy o’r iaith gyda’u plant.
16 oed a thu hwnt
Nid oes rhaid i’r daith drwy addysg Gymraeg ddod i ben ar ôl cwblhau TGAU.
Mae Ysgol Glan Clwyd yn cynnig Chweched Dosbarth gyda chyfle i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllenwch ragor am Chweched Dosbarth Ysgol Glan Clwyd
Mae Ysgol Brynhyfryd hefyd yn cynnig Chweched Dosbarth, gyda nifer o gyrsiau ar gael drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar y pwnc a’r galw.
Ewch i Ganolfan Chweched Dosbarth Ysgol Brynhyfryd
Mae Ysgol Dinas Brân hefyd yn cynnig darpariaeth Chweched Dosbarth.
Gall dysgwyr hefyd ddewis parhau â’u haddysg mewn coleg, gan gynnwys darpariaeth yng Ngholeg Llandrillo, Y Rhyl, a Choleg Cambria Llysfasi.
Mae cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar gael ar rai cyrsiau, felly mae’n werth gwirio’r opsiynau iaith gyda’r darparwr wrth wneud cais.
Ewch i wefan Grŵp Llandrillo Menai
Cludiant ysgol yn Sir Ddinbych
Gall disgyblion fod yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim os ydynt yn byw yn Sir Ddinbych ac yn bodloni meini prawf y Cyngor.
Ar gyfer disgyblion ysgol gynradd, gall cludiant am ddim fod ar gael os yw’r cartref dros ddwy filltir o’r ysgol addas agosaf, neu os nad oes llwybr cerdded diogel.
Wrth benderfynu beth yw’r ysgol addas agosaf, mae’r Cyngor yn ystyried dewis iaith y plentyn. Mae hyn yn golygu y gall yr ysgol agosaf sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg gael ei hystyried wrth asesu cymhwysedd.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd am:
- gludiant ysgol uwchradd;
- cludiant Chweched Dosbarth;
- cludiant i’r coleg; a
- chludiant ar gyfer rhai dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Darllenwch ragor am gludiant am ddim i’r ysgol a’r coleg
Dysgu Cymraeg i rieni a gofalwyr
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn gweithio i gynyddu a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sir.
Mae’r Fenter yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd, dysgwyr a chymunedau, gan gynnal gweithgareddau a phrosiectau sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol y tu allan i’r ysgol.
Mae’r gwaith yn cynnwys gweithgareddau i deuluoedd, digwyddiadau i blant a phobl ifanc, cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg, a phrosiectau cymunedol ledled Sir Ddinbych.
Ewch i wefan Menter Iaith Sir Ddinbych
Rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu gwybodaeth bellach am y llwybr addysg Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg uwchradd.