Merthyr Tudful

Addysg Gymraeg ym Merthyr Tudful

Ydych chi’n ystyried Addysg trwy Gyfrwng y Gymraeg ym Merthyr Tudful i’ch plentyn? 

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio'r iaith yn naturiol fel rhan o'u haddysg a'u bywyd bob dydd.

Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn dewi addysg Gymraeg i'w plentyn. 

Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am grwpiau Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, addysg uwchradd Gymraeg a chymorth i deuluoedd ym Merthyr Tudful.

Dechrau eich taith gydag addysg Gymraeg

Mae cymorth ac adnoddau ar gael i deuluoedd sy'n ystyried addysg Gymraeg i'w plentyn.

Gellir dod o hyd i’r Llyfryn Bod yn Ddwyieithog a'r fideo Bod yn Ddwyieithog yma   

Beth sydd ar gael ym Merthyr Tudful i’ch cefnogi chi a’ch plentyn? 

Mae gennym nifer o grwpiau Ti a Fi ar gyfer plant sydd rhwng 2 a 3 oed.  

Playzone Trago Mills Merthyr Tudful

Gurnos Calon Las

Menter Iaith Merthyr Tudful a Chanolfan Soar

Ysgol Gynradd Bedlinog

Mae gennym hefyd 5 Cylch Meithrin:

Cylch Meithrin Pentrebach

Cylch Meithrin Gofal Plant y Drindod Aber-fan

Cylch Meithrin Twyncarmel 

Cylch Meithrin y Gyrnos

Cylch Meithrin Treharris

Mae dwy ysgol Gynradd Gymraeg: 

Ysgol Rhyd- y-Grug

Ysgol Santes Tudful 

Mae Ysgol Santes Tudful hefyd yn goruchwylio sefydlu trydedd Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd y Sir 

Am ddarpariaeth uwchradd, bydd pob plentyn yn pontio i Ysgol Gyfun Rhydywaun yn RhCT 

Darpariaeth Drochi

Os ydych newydd symud i Ferthyr Tudful neu os ydy’ch plentyn/ plant yn barod yn mynychu ysgol arall, a chithau’n ystyried newid i ysgol gyfrwng Gymraeg, mae darpariaeth ar gyfer Trochi yn yr Iaith Gymraeg ar gael yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug ill dwy.

Darperir cefnogaeth ddwys i’ch plentyn er mwyn cefnogi ei addysg a’i allu i gael mynediad at y cwricwlwm. Bydd y gefnogaeth yn cynnwys cyfleoedd i’r plant gael eu trochi yn eu prif ystafell ddosbarth yn ogystal â chyfoethogiad fel bod modd iddynt ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau. Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid i Addysg Gyfrwng Gymraeg!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r naill ysgol neu’r llall.

Beth am gefnogi’r teulu os nad ydynt yn siarad Cymraeg? 

Mae llawer o gyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg ac rydym yn cydweithio’n agos â Dysgu Cymraeg Morgannwg

Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi datblygu #Shwmaeronment a’n gweledigaeth yw datblygu Merthyr Tudful yn Fwrdeistref Sirol lle y mae’r Iaith Gymraeg yn cael ei chlywed, ei siarad a’i dathlu gan bawb. Dilynwch ein tudalennau ar y gwefannau cymdeithasol lle’r ydym yn rhannu’r hyn yr ydym yn eu hybu a’u datblygu i ddefnyddio’r Gymraeg. Cefnogir y cyfan gan ein masgot -  Dwynwen

Gweler y dolenni ar gyfer ein tudalennau ar y we 

Tudalen Facebook Shwmaeronment

Tudalen Instagram Shwmaeronment

Am ragor o wybodaeth ar Addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo, cysylltwch â #shwmaeronment@merthyr.gov.uk

Content Image