Ceredigion
Addysg Gymraeg yng Ngheredigion
Ydych chi’n ystyried addysg Gymraeg yng Ngheredigion i’ch plentyn?
Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd, addysg a chymunedau Ceredigion. Mae addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i blant ddysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddefnyddio’r iaith yn naturiol fel rhan o’u haddysg a’u bywyd bob dydd.
Nid oes angen i rieni na gofalwyr allu siarad Cymraeg er mwyn dewis addysg Gymraeg i’w plentyn. Mae cymorth ar gael i blant a theuluoedd ar hyd y daith.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd ac uwchradd, darpariaeth feithrin a gofal plant, addysg drochi, addysg ôl-16, cludiant ysgol a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Ngheredigion.
Byw a Bod
Mae Byw a Bod yn rhan o adnoddau Ceredigion i gefnogi teuluoedd a rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, addysg a bywyd yng Ngheredigion.
Mae ymgyrch “Dwy Iaith, Dwywaith y Cyfle” hefyd yn cael ei hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion a Cardi Iaith, gan godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd addysg Gymraeg yn y sir.
Ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngheredigion
Mae rhwydwaith eang o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar draws Ceredigion.
Mae’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn cynnwys:
- Ysgol Craig yr Wylfa
- Ysgol Llanfarian
- Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn
- Ysgol Llangwyryfon
- Ysgol Llanilar
- Ysgol Myfenydd
- Ysgol Mynach
- Ysgol Penllwyn
- Ysgol Penrhyncoch
- Ysgol Rhydypennau
- Ysgol Syr John Rhys
- Ysgol Talybont
- Ysgol Gymraeg Aberystwyth
- Ysgol Gynradd Aberaeron
- Ysgol Bro Sion Cwilt
- Ysgol Dyffryn Aeron
- Ysgol Dyffryn Cledlyn
- Ysgol Llanarth
- Ysgol Llanon
- Ysgol Pontrhydfendigaid
- Ysgol Rhos Helyg
- Ysgol Talgarreg
- Ysgol y Dderi
- Ysgol Aberporth
- Ysgol Gynradd Aberteifi
- Ysgol Cenarth
- Ysgol Llechryd
- Ysgol Penparc
- Ysgol T. Llew Jones
Mae darpariaeth gynradd hefyd ar gael mewn ysgolion gydol oed yng Ngheredigion, gan gynnwys Ysgol Bro Teifi, Ysgol Henry Richard ac Ysgol Bro Pedr.
Gweler gwybodaeth ddiweddaraf am ysgolion cynradd Ceredigion
Ysgolion cynradd trosiannol
Mae pum ysgol gynradd yng Ngheredigion yn datblygu eu darpariaeth Gymraeg fel ysgolion Trosiannol Categori 2:
- Ysgol Comins Coch
- Ysgol Llwyn yr Eos
- Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant
- Ysgol Plascrug
- Ysgol Gynradd Cei Newydd
Mae Dysgu Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gyflwyno yn yr ysgolion hyn ar raglen dreigl, gan ddechrau gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar.
Fideos Siarter Iaith – Cynefin a’r Filltir Sgwâr
Mae ysgolion cynradd ar draws Ceredigion wedi cydweithio ar brosiectau Siarter Iaith sy’n dathlu eu cynefin, eu cymunedau a’u Milltir Sgwâr drwy’r Gymraeg.
Gallwch wylio’r prosiectau o wahanol ardaloedd y sir:
- Ysgolion ardal Aberaeron
- Ysgolion Trosiannol 2
- Ysgolion i’r de o dref Aberystwyth
- Ysgolion ardal Llambed a Thregaron
- Ysgolion ardal Llandysul ac Aberteifi
- Ysgolion i’r gogledd o dref Aberystwyth
Addysg uwchradd Gymraeg yng Ngheredigion
Mae nifer o lwybrau i barhau ag addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion uwchradd a chydol oed Ceredigion.
Ysgolion Categori 3 – cyfrwng Cymraeg
Ysgol Bro Teifi – Llandysul
Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol gydol oed 3–19 ac yn ysgol Categori 3P.
Ysgol Gyfun Penweddig – Aberystwyth
Mae Ysgol Gyfun Penweddig yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth.
Ewch i wefan Ysgol Gyfun Penweddig
Ysgol Henry Richard – Tregaron
Mae Ysgol Henry Richard yn ysgol gydol oed 3–16 ac yn ysgol Categori 3.
Ewch i wefan Ysgol Henry Richard
Ysgolion sy’n trosglwyddo i Gategori 3
Mae’r ysgolion canlynol yn cynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â ffrwd Saesneg ac maent ar daith i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg:
Ysgol Bro Pedr – Llanbedr Pont Steffan
Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol gydol oed 3–19.
Ysgol Gyfun Aberaeron – Aberaeron
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn cynnig llwybr addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â darpariaeth drwy gyfrwng y Saesneg.
Ewch i wefan Ysgol Gyfun Aberaeron
Ysgol Uwchradd Aberteifi – Aberteifi
Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi hefyd yn cynnig llwybr drwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â’i darpariaeth Saesneg.
Ewch i wefan Ysgol Uwchradd Aberteifi
Gweler gwybodaeth am ysgolion uwchradd Ceredigion
Caneuon ysgol – dathlu cynefin Ceredigion
Mae ysgolion uwchradd a chydol oed Ceredigion wedi creu caneuon a fideos sy’n dathlu eu cynefin lleol, eu cymunedau a’r Gymraeg.
Mae’r fideos sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:
Mae fideos Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Uwchradd Aberteifi yn cael eu paratoi ar hyn o bryd.
Darpariaeth feithrin, gofal plant a chwarae
Mae cyfleoedd i blant ddefnyddio’r Gymraeg o oedran ifanc drwy Cylchoedd Meithrin, darpariaeth gofal plant, Dechrau’n Deg, Cynnig Gofal Plant Cymru a gweithgareddau chwarae.
Mae Cylchoedd Meithrin yng Ngheredigion yn darparu gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ifanc.
Ewch i wybodaeth Cyngor Sir Ceredigion am ofal plant a chwarae
Chwiliwch am Gylch Meithrin neu grŵp Ti a Fi
Ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach
Gall plant ymuno ag addysg Gymraeg yng Ngheredigion hyd yn oed os nad ydynt wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.
Mae gan Geredigion dair canolfan drochi gynradd sy’n cefnogi plant sy’n newydd i’r Gymraeg:
- Canolfan y Castell – yn gwasanaethu ardaloedd Aberteifi a Llandysul
- Canolfan y Felin – yn gwasanaethu ardaloedd Llambed, Tregaron ac Aberaeron
- Canolfan Penweddig – yn gwasanaethu ardal Aberystwyth
Mae’r canolfannau’n darparu cymorth trochi dwys i helpu plant i ddatblygu eu Cymraeg a symud ymlaen yn hyderus i’w haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ewch i wefan Tîm Cefnogi’r Gymraeg a Chanolfannau Trochi Ceredigion
Trochi yn yr ysgol uwchradd
Mae darpariaeth trochi uwchradd hefyd ar gael yn:
- Ysgol Henry Richard
- Ysgol Bro Teifi
- Ysgol Gyfun Penweddig
Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i anghenion y dysgwr ac yn cael ei ddarparu o fewn amserlen yr ysgol.
Dydw i ddim yn siarad Cymraeg – alla i ddewis addysg Gymraeg i’m plentyn?
Gallwch. Nid oes angen i rieni na gofalwyr siarad Cymraeg er mwyn i’w plentyn dderbyn addysg Gymraeg yng Ngheredigion.
Mae ysgolion, y gwasanaeth trochi ac adnoddau lleol yn gallu cefnogi plant a theuluoedd ar hyd y daith.
Mae cyfleoedd hefyd i rieni a gofalwyr ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eu hyder wrth ddefnyddio’r iaith gartref.
Dysgu Cymraeg i rieni a gofalwyr
Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion–Powys–Sir Gâr, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn darparu cyrsiau Cymraeg ar wahanol lefelau.
Mae darpariaeth Cymraeg yn y Cartref hefyd ar gael i rieni a gofalwyr, gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar iaith sy’n berthnasol i blant, ysgol a bywyd teuluol.
Ewch i Dysgu Cymraeg Ceredigion–Powys–Sir Gâr
Dysgu Cymraeg – y gweithlu addysg
Mae Ceredigion hefyd yn cefnogi aelodau o’r gweithlu addysg i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r fideo canlynol yn rhannu profiadau aelodau staff sydd wedi bod ar eu taith eu hunain i ddysgu a defnyddio mwy o Gymraeg.
16 oed a thu hwnt
Nid oes rhaid i’r daith drwy addysg Gymraeg ddod i ben ar ôl cwblhau TGAU.
Mae darpariaeth Chweched Dosbarth ar gael mewn nifer o ysgolion yng Ngheredigion, gan gynnwys:
- Ysgol Bro Teifi
- Ysgol Gyfun Penweddig
- Ysgol Bro Pedr
- Ysgol Gyfun Aberaeron
- Ysgol Uwchradd Aberteifi
Gall pobl ifanc hefyd barhau â’u haddysg drwy Goleg Ceredigion, sydd â champysau yn Aberystwyth ac Aberteifi.
Mae cyfleoedd ar gael i ddefnyddio a datblygu’r Gymraeg fel rhan o addysg bellach ac astudiaethau coleg.
Mae Hyfforddiant Ceredigion Training hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi galwedigaethol a phrentisiaethau, gan gynnwys rhaglenni i bobl ifanc sy’n symud ymlaen i waith, addysg bellach neu hyfforddiant.
Darllenwch ragor am Hyfforddiant Ceredigion Training
Cludiant ysgol yng Ngheredigion
Mae’n bwysig ystyried dalgylchoedd ysgol a chludiant wrth ddewis ysgol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwybodaeth am gymhwysedd ar gyfer cludiant ysgol, trefniadau teithio a sut i wneud cais.
Darllenwch bolisi a gwybodaeth cludiant ysgol Ceredigion
Defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned
Mae Cered – Menter Iaith Ceredigion yn gweithio i gynnal a datblygu’r Gymraeg fel iaith fyw mewn cymunedau ar draws y sir.
Mae Cered yn cynnal ac yn cefnogi gweithgareddau, digwyddiadau a phrosiectau i blant, pobl ifanc, teuluoedd, dysgwyr ac oedolion, gan greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol y tu allan i’r ysgol.
Mae gweithgareddau’n cynnwys cyfleoedd cymdeithasol i ddysgwyr, gweithgareddau teuluol a phrosiectau cymunedol mewn ardaloedd ar draws Ceredigion.
Mae cyfleoedd eraill i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol hefyd ar gael drwy sefydliadau fel Urdd Gobaith Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Theatr Felinfach.
Rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu rhagor o wybodaeth am y Gymraeg mewn ysgolion, polisi iaith ysgolion a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Darllenwch ragor am y Gymraeg yn ysgolion Ceredigion