Casnewydd

Addysg Gymraeg

Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, ac mae plant yng Nghasnewydd yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Mae'r plant yn ein hysgolion Cymraeg yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg, ac yn astudio'r ddwy iaith. 

Nid yw dros 95% o rieni plant sy'n mynychu ein hysgolion Cymraeg yn siarad Cymraeg eu hunain, ac mae ein hysgolion yn cefnogi hyn drwy ddarparu'r holl wybodaeth yn ddwyieithog.  

Mae gennym bedair ysgol gynradd Gymraeg yma yng Nghasnewydd - pob un ag uned feithrin ynghlwm, ac un ysgol uwchradd cyfrwng-Cymraeg.

Bod yn Ddwyieithog

Gwyliwch rieni a phlant Casnewydd yn siarad am yr iaith Gymraeg.

Dewis Gofal Plant

Trochi

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal uned drochi gynradd Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, gan gefnogi pob disgybl o oedran cynradd sy'n paratoi ar gyfer addysg Gymraeg o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6. Mae'r ysgol yn cynnal ac yn darparu'r gwasanaeth ar ran yr ysgolion cynradd o fewn y clwstwr Cymraeg. 

Mae cymorth i ddisgyblion oedran uwchradd ar gael yn uniongyrchol drwy Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. 

O 2025, bydd yr uned drochi cynradd yn trosglwyddo o Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Bydd disgyblion oed cynradd yn treulio eu tymor cyntaf yn yr uned drochi yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, mewn trefniant y cytunwyd arno rhwng Prifathrawon eu hysgol a enwir ac Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon. Fodd bynnag, bydd trefniant allgymorth ar waith sy'n galluogi'r disgybl i fynychu ei ysgol a enwir ar ddiwrnod penodol bob wythnos fel ei fod yn gallu treulio amser yn ei ysgol newydd gyda'i gyfoedion. 

Bydd y trefniant allgymorth hwn hefyd yn galluogi staff i hwyluso gwiriadau cynnydd ar ddisgyblion trochi blaenorol. Mae disgyblion oedran uwchradd yn defnyddio cyfleusterau trochi gyda phontio graddol i ddosbarthiadau prif ffrwd wrth i drosglwyddiad iaith fynd rhagddo.   

Talgylchoedd ysgolion yng Nghasnewydd

Cludiant i'r ysgol

Cynigir trafnidiaeth am ddim o'r cartref i'r ysgol i: 

ddisgyblion oed cynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o’u hysgol ddalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael
disgyblion oed uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol ddalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael, gan gynnwys ysgolion Cymraeg ac ysgolion ffydd.