Caerffili
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae pawb yn gallu dysgu Cymraeg. Mae plant yn dysgu Cymraeg yn gyflym pan yn ifanc, yn enwedig mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae llawer o gymorth ar gael i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I gael rhagor o wybodaeth am Addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i'n gwefan.
Dewis Addysg Cyfrwng Gymraeg
Ym Mwrdeistref Caerffili, mae tua 20% o blant yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Maen nhw wrth eu bodd yn chwarae a dysgu mewn dwy iaith neu ragor.
Mae Ysgolion cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Yna maen nhw'n dod â Saesneg i mewn wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy'r ysgol. Mae'r plant yn hapus yn siarad yn y ddwy iaith.
Mae rhai plant yn dechrau mewn Cylch Ti a Fi (grŵp plant bach cyfrwng Cymraeg) a gofal plant cyfrwng Cymraeg.
Beth bynnag rydych chi'n siarad gartref, mae pawb yn gallu ymuno ag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Yna maen nhw'n mynd ymlaen i un o ddau gampws uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Newydd ddyfodiaid
Nid yw hi byth yn rhy hwyr. Mae ein Huned Drochi i Hwyrddyfodiaid yn helpu plant i bontio i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg
I gael rhagor o wybodaeth am y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Caerffili, ewch i'n gwefan.
Beth bynnag rydych chi'n siarad gartref, mae plant yn ffynnu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Ym Mwrdeistref Caerffili, mae tua 88% o’n dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
Mae staff ein hysgolion yn siarad Cymraeg a Saesneg gyda rhieni. Maen nhw eisiau i rieni deimlo'n rhan o gymuned yr ysgol.
Efallai y byddwch chi'n codi ychydig o'r iaith gan y plant. Byddwch chi'n clywed geiriau rydych chi, efallai, yn eu gwybod yn barod; dyfalwch beth mae'r canlynol yn ei olygu:
amser chwarae / brechdan gaws / pêl-droed / ci bach / ble mae’r esgidiau?
(play time / cheese sandwich / football / puppy / where are the shoes?)
Addysg Gymraeg i Bawb
Mae ysgolion yn creu amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer pob plentyn unigol. Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae plant yn cael eu trochi mewn amgylchedd Cymraeg. Maen nhw'n amsugno'r iaith wrth wneud cynnydd ym mhob maes dysgu ar eu cyflymder eu hunain.