Caerdydd
Mae’n Dda bod yn Ddwyieithog... y gallu i fyw eich bywyd bob dydd mewn dwy iaith.
Croeso Welcome أهلًا وسهلًا স্বাগতম خوش آمدید Witam Soo dhawoow بەخێربێن ਸਵਾਗਤ ਹੈ ښه راغلاست Vítejte സ്വാഗതം
Croeso cynnes iawn i brifddinas Cymru! Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol ac un sy’n falch o gynnig addysg ddwyieithog sy'n galluogi ein plant i ddysgu trwy ddwy iaith genedlaethol Cymru.
Mae llawer o fanteision a buddion hirdymor i allu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl yng Nghymru, gwyliwch y fideo am fwy o wybodaeth
Yng Nghaerdydd, gallwch ymuno â’r daith i ddysgu Cymraeg, mae nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Dyma’r addysg orau i fod yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
Gallwn roi'r rhodd i'ch plentyn / plant o fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg beth bynnag yw eich iaith cartref. Mae dros 70% o ddisgyblion presennol sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ddim yn dod o deulu sy’n siarad Cymraeg! Mae nifer o blant y brifddinas yn siarad iaith wahanol i Gymraeg NEU Saesneg gartref ac maent hefyd yn ffynnu mewn Ysgol Gymraeg gan eu bod yn amlieithog yn barod.
Y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Uned Drochi Iaith Caerdydd
Dydy hi byth yn rhy hwyr i ymuno â’r daith i ddysgu Cymraeg!
Os ydy eich plentyn yn 5-14 oed ac naill ai newydd ymuno neu yn ystyried addysg Gymraeg, yr Uned drochi iaith yw’r lle delfrydol iddynt. Mae gan Gaerdydd Uned Drochi Cymraeg hynod lwyddiannus dyma’r lle delfrydol i blant a phobl ifanc ddysgu Cymraeg yn gyflym ac yn effeithiol.
Mae ein rhaglen ddwys yn cynnig cyfle i bob plentyn yng Nghaerdydd gael mynediad i addysg gyfrwng Gymraeg hyd yn oed os ydynt yn hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg. Yn ein dosbarthiadau trochi iaith mae dysgwyr uwchradd a chynradd yn cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg mewn amgylchedd meithringar i sicrhau eu bod yn ennill y lefel o ruglder a hyder a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan lawn a llwyddo yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.
Talgylchoedd ysgolion Cymraeg ac iaith ddeuol y brifddinas
Mae llawer o Ysgolion Cymraeg ar draws y brifddinas a fyddai wrth eu bodd yn croesawu eich plentyn a'ch teulu. I ddod o hyd i'ch ysgol Gymraeg agosaf, i drefnu ymweliad a chael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen Caerdydd - Fy Nghaerdydd
Gwybodaeth am ysgolion, addysg, presenoldeb, trafnidiaeth ag ati