Bro Morgannwg
Mae llawer o fanteision i fod yn ddwyieithog. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod plant sy'n siarad dwy iaith yn gallu bod yn fwy amryddawn, yn fwy creadigol wrth feddwl, ac yn gallu dysgu ieithoedd eraill yn haws. Bydd plentyn sy'n gallu siarad dwy iaith yn gallu:
· Cyfathrebu gydag ystod eang o bobl
· Bod yn bont rhwng cenedlaethau, e.e. os oes neiniau a theidiau neu aelodau eraill o'r teulu sy'n gallu siarad Cymraeg.
· Agor y drws i ddiwylliant gwahanol. Gyda'r cyfle i siarad Cymraeg, bydd eich plentyn yn cael budd o'r gorwelion ehangach a ddaw o gael dau ddiwylliant.
Hoffech chi siarad â pherson am addysg cyfrwng Cymraeg? Cysylltwch â Jeremy Morgan (Swyddog Addysg Gymraeg) ar 01446 709108 neu anfonwch e-bost at jmorgan@valeofglamorgan.gov.uk am sgwrs cyfeillgar.
A yw eich plentyn yn 5-11 oed? Ydych chi wedi bod yn ystyried addysg Gymraeg? Mae cyfle cyffrous bellach ar gael drwy raglen 12 wythnos newydd yn ein Canolfan Gymraeg.
Os yw eich plentyn yn newydd i'r Gymraeg, bydd ein Canolfan yn trochi dysgwyr oedran cynradd yn yr iaith, gan ddatblygu lefel o ruglder a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn eu taith addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg.