Cymraeg i Oedolion yn Sir Gβr | Ceredigion | Powys
Chwilio am gwrs:     ?       

Beth mae ein dysgwyr wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar?


Gŵyl Haf Merched y Wawr (13-06-2017)

Gŵyl Haf Merched y Wawr Ers sawl blwyddyn bellach, cynhelir cystadlaethau ysgrifennu Cymraeg gan Ferched y Wawr i ddysgwyr yng Nghymru, i ddynion a menywod fel ei gilydd. Yng Ngŵyl Haf y Mudiad ym Machynlleth ddydd Sadwrn, 20 Mai, 2017 gwobrwywyd pedwar dysgwr o Geredigion, sy'n mynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Llangeitho a Llanbedr Pont Steffan, a drefnir gan Gyngor Sir Ceredigion ac sy'n cael eu tiwtora gan Carol Thomas. Enillodd Jill Cropley o Fydroilyn y wobr gyntaf ar Lefel Canolradd am ysgrifennu erthygl am ei hardal leol ac enillodd Jane Unitt o Lwyn-y-groes yr ail wobr. Mae'r ddwy yn ddysgwyr yn nosbarth nos Llambed. Ar Lefel Sylfaen, cyflwynwyd y wobr gyntaf i Aidan Jones o Dregaron am gwblhau ffurflen â manylion personol a'r ail wobr i Dionne Sherwood o Langeitho. Mae'r ddau yn ddysgwyr yn nosbarth nos Llangeitho. Fe'u cyflwynwyd â thlws o lechi, tystysgrif a thocyn llyfr yr un. Llongyfarchiadau mawr i'r pedwar ohonynt!

Gŵyl newydd i ddysgwyr y Gymraeg (04-05-2017)

Ar 22 Ebrill 2017 cynhaliwyd 'Ar Lafar' - gŵyl newydd i ddysgwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan roi'r cyfle i ddysgwyr a'u teuluoedd glywed a sgwrsio yn Gymraeg, y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Trefnwyd yr ŵyl genedlaethol yma gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Roedd digwyddiadau led led Cymru, yn Sain Ffagan, Caerdydd, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe a hefyd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Dechreuodd y diwrnod gyda thaith dywys, ble cafwyd mynediad arbennig i gasgliad o dros 6.5 miliwn o lyfrau, papurau newydd, mapiau a chelf. Mae hen lawysgrif (o 1878) o 'Hen Wlad fy 'Nhadau' i'w gweld yno. Yn y prynhawn, cawsom weld sioe un-dyn a berfformiwyd gan yr actor Llion Williams. Aethom yn ôl i'r 16fed Ganrif i ddysgu sut wnaeth yr Esgob William Morgan lwyddo i gyfieithu'r beibl i'r Gymraeg – trysor amhrisiadwy i'r genedl gyfan.

Mae Claire Goodman-Jones wedi dysgu Cymraeg gyda ni ac yn mynychu dosbarth lefel Uwch ym Mhontarfynach ar hyn o bryd. Roedd Claire wedi mwynhau'r ŵyl yn arw “Cefais ddiwrnod diddorol iawn. Wnes i fwynhau dysgu am y Llyfrgell, am Gymru a'i ddiwylliant. Roedd clywed a siarad Cymraeg drwy'r dydd yn wych!”



Cerddwyr Cylch Teifi (23-01-2017)

Cerddwyr Cylch TeifiAr ein taith fis Ionawr buom yn ardal Carreg Wen a Llechryd dan arweiniad Dyfed a Siân Elis-Gruffydd. Gan ddechrau wrth Gapel y Bedyddwyr Cilfowyr, cerddon ni draw i bentref Carreg-wen i weld yr eglwys, ac wedyn i lawr y lôn i hen eglwys Maenordeifi ac wedyn Pont Llechryd ac yn ôl i'r man cychwyn. Fel y disgwylid, cawsom hanesion diddorol am y capel, yr eglwysi, y meini adeiladu a hynt Afon Teifi a dyffryn Teifi. Bu'n daith ddifyr iawn, ar lonydd pert yr ardal mewn tywydd da, a digon o gloncian wrth gerdded.

Ysbrydoliaeth 'Y Gwyll' am gwrs i ddysgwyr (18-01-2017)

Ysbrydoliaeth 'Y Gwyll' am gwrs i ddysgwyrYr wythnos hon mae dosbarth Cymraeg yn astudio gwers arbennig yn seiliedig ar Y Gwyll/Hinterland a gynlluniwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg. Mae'r wers hon, ar gyfer dysgwyr Safon Uwch, yn cyd-fynd â'r drydedd gyfres o'r ddrama dditectif deledu boblogaidd. Ei nod yw ysbrydoli dysgwyr i ddysgu geirfa newydd wrth fwynhau'r cyfres.

Mae'r dosbarth yn cael ei gynnal bob wythnos yng Ngwesty'r Hafod, Pontarfynach. Yn ôl Bryn Howell-Pryce, sy'n astudio yn y dosbarth: "Mae wedi bod yn anhygoel yn astudio'r wers hon mewn lleoliad sydd mor amlwg yn y rhaglen. Mae'n dda i ddysgu geiriau newydd mewn perthynas â'r gyfres - rydym hyd yn oed wedi ceisio ysgrifennu stori dditectif a ysbrydolwyd gan Westy'r Hafod." Gwnaeth cyd-ddisgyblion Bryn hefyd fwynhau chwarae 'Gêm y Gwyll' sy'n rhan o'r wers.

Mae dysgwyr sydd wedi cyrraedd y Lefel Uwch hwn yn rhugl yn siarad a deall Cymraeg.

Gwobr Cymraeg yn y Teulu 2016 i Vicky (15-11-2016)

Gwobr Cymraeg yn y Teulu 2016 i Vicky Cynhaliwyd Gwobrau blynyddol Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion ar 20fed o Hydref 2016. Dyma gyfle i wobrwyo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu.

Mae'r llwyddiannau unigolion a grwpiau yn cael eu dathlu yn y seremoni arbennig yma, a oedd yn cynnig cyfle i longyfarch myfyrwyr a thiwtoriaid.

Wrth siarad yn ystod y digwyddiad, roedd yr Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr yr Athrofa Datblygu Proffesiynol, yn nodi fod "Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn llwyddiant oedolion sy'n dysgu sgiliau newydd. Mae ein dysgwyr wedi dangos ymroddiad mawr, ac mae eu hymdrechion yn cael eu gwobrwyo gan eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau. "

Enillydd Gwobr Cymraeg yn y Teulu oedd Vicky Thomas a'i theulu o Maesymeillion, Llandysul, am gynyddu ei defnydd o'r Gymraeg yn y teulu.

Mae Vicky wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd pan symudodd hi, ei gŵr, a'u pedwar o blant ifanc i Geredigion yn Awst 2015.

Daeth Vicky a'i gŵr i adnabod ei gilydd drwy'r Saesneg, a Vicky yn siarad Saesneg gyda'u dau blentyn hŷn cyn dechrau dysgu Cymraeg. Erbyn hyn, mae'r teulu i gyd yn siarad Cymraeg â'i gilydd.

Mae Vicky hefyd yn gyfforddus i siarad Cymraeg yn y gymuned. "Rwy'n gobeithio bydd fy mhlant yn trosglwyddo eu Cymraeg i'r genhedlaeth nesaf fel yr ydym wedi, fel fy mod yn gallu siarad Cymraeg i fy wyrion," meddai Vicky. Mae dysgu Cymraeg tra'n codi teulu ifanc yn cynnig her, ond erbyn hyn rydym yn siarad Cymraeg yn rhan annatod o fywyd teuluol.

Llwyddiant i Gôr Dysgwyr Ceredigion (14-09-2016)

Llwyddiant i Gôr Dysgwyr Ceredigion Llongyfarchiadau mawr i Gôr Dysgwyr Ceredigion ar ennill yr ail wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni eneni. Diolch arbennig i Elin Mair, arweinydd y côr, ac i Heledd y cyfeilydd am yr holl waith caled.

Cwrs Haf Dwys Aberystwyth 2016 (08-09-2016)

Cwrs Haf Dwys Aberystwyth 2016Eleni,denodd ein Cwrs Haf 4 wythnos yn Aberystwyth y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr o Batagonia, Japan, Gwlad Pwyl, Iwerddon, Ffrainc, Yr Almaen, Gwlad Belg, America, Awstria, ac Awstralia. Hoffem ddiolch i'r holl diwtoriaid rhagorol a staff a wnaeth y cwrs eleni yn ddigwyddiad byth gofiadwy. Mae bodlonrwydd y myfyrwyr yn amlwg iawn o'r sylwadau niferus ac amrywiol a gawsom.

Llwyddiant Elusennol Julie a Bridget (12-07-2016)

Llwyddiant Elusennol Julie a BridgetRoedd Julie Pearce a Bridget Wallbank, dysgwyr Cymraeg yng Nghanolbarth Cymru, yn falch iawn o allu rhoi £304.70 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiweddar. Codwyd yr arian trwy gynnal Noson Lawen wych yn Y Clwb Monty yn Y Drenewydd yn ystod Mis Chwefror. Trefnwyd y noson gan Julie a Bridget efo cefnogaeth gan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth, yn arbennig Menna Morris.


Dwedodd Bridget Wallbank “Diolch o galon i bawb wnaeth helpu i wneud y noson mor fendigedig, efo hwyl, can, sgets, cerddoriaeth a thipyn bach o ddawnsio.”


O'r chwith i'r dde: Julie Pearce, Bridget Wallbank a Marie Jones, rheolwraig siop Ambiwlans Awyr Cymru.

Cylch Teifi Walkers - Cilgerran a Llechryd (20-06-2016)

Cylch Teifi Walkers - Cilgerran a Llechryd Buom ar ein taith olaf am y tymor yn ardal Cilgerran a Llechryd ganol mis Mehefin, gydag Emyr Phillips yn ein harwain. Gan ddechrau o Gilgerran, aethom i lawr yr hen 'Ramp' i'r ceunant ac wedyn ar y llwybr hyfryd wrth yr afon. Cawsom daith ddifyr dros ben, gydag Emyr yn rhoi hanes yr ardal i ni wrth gerdded, gan gynnwys hanes y chwareli llechi, stori ryfedd gwaith tin Llechryd, a'r gored i ddal pysgod gyda gwybodaeth am adeiladu camlas i'w hosgoi ac am Ferched Beca yn ei thynnu i lawr. Cyn cychwyn ar y ffordd yn ôl i Gilgerran, cawsom hanes y blwch ffôn sy wedi'i droi'n adnodd cymunedol, ac am Bont Hammett a agorwyd yn 1800. Ar ôl cerdded, aeth y rhan fwyaf ohonom i'r Cardiff Arms yng Nghilgerran lle cawsom luniaeth a chroeso cynnes.




Cerddwyr Cylch Teifi yn mwynhau ar draeth Aber-bach ar daith mis Ebrill (19-04-2016)

Cerddwyr Cylch Teifi yn mwynhau ar draeth Aber-bach ar daith mis EbrillReg Davies oedd yn arwain yn fedrus iawn ym mis Ebrill yn ardal Dinas ac Aber-bach. Bu'n daith gylch brydferth, hanesyddol a Reg yn rhoi gwybodaeth a hanesion i ni bob hyn a hyn. Ar ôl cerdded ar lwybrau o Gapel Tabor a lan trwy'r coed, cyrhaeddon ni fferm Tre-wrach, ac wedyn cerdded yn hamddenol i lawr i draeth anghysbell Aber-bach, lle roedd digon o amser i hamddena cyn dychwelyd i'r Capel. Mwynheuon ni olygfeydd godidog, a thywydd da, ar hyd y daith.


Cerddwyr Cylch Teifi - Taith Poppit (18-02-2016)

Cerddwyr Cylch Teifi - Taith PoppitArdal y Traeth Gwyn, neu Poppitt, a Chipyn, fu ein cyrchfan fis Chwefror gyda Terwyn Tomos yn arwain, a chawsom hanesion difyr ar hyd y daith gylch ddeniadol hon. Clywsom am y bad achub, yr hen gored, Ynys Aberteifi, ffurfiant y twyni tywod, yr Hostel Ieuenctid, Capel Gerazim a'r mans (lle bu'r Prifardd Eirwyn George yn byw), a Chapel Bryn Salem, ymysg pethau eraill. Wedi cerdded am ddwy awr mewn tywydd da, aeth rhai ymlaen i fwynhau croeso Caffi Poppit a thafarn y Webley.

Aberystwyth | Noson Nadoligaidd (15-12-2015)

Aberystwyth | Noson Nadoligaidd Ar nos Fercher 14 Rhagfyr 2015 daethom ynghyd i ddathlu Nadolig fel staff, tiwtoriaid a dysgwyr Cymraeg i Oedolion yn y Canolbarth.

Yn dilyn bwffe, clywsom ganu carolau a phlygain gen gor CYD. Am noson arbennig o ddathlu!

Dolgellau | Lansio Clwb newydd i ddysgwyr (15-12-2015)

Dolgellau | Lansio Clwb newydd i ddysgwyrWel, dan ni'n brysur ym Meirionnydd! Noson wych yn lansio clwb newydd i ddysgwyr a Chymry Cymraeg - Dolen yn Nolgellau. Llwyddiant ysgubol (sweeping success)!! Llais anhygoel (awesome) gan Gwilym Bowen Rhys! Diolch Bet o Hunaniaith am drefnu ac i Gwîn Dylanwad am y croeso a'r cawl. Dyma ydy cefnogaeth (support) leol!

Powys | Cwrs Sabothol Cymraeg i gynorthwywyr dosbarth (09-12-2015)

Powys | Cwrs Sabothol Cymraeg i gynorthwywyr dosbarthLlongyfarchion i 15 o gynorthwywyr dosbarth Powys sydd wedi cwblhau cwrs 5 wythnos yn Aberhonddu. Dyma nhw gyda dwy o'r tiwtoriaid, Gwyneth Price a Susan Evans.

Grŵp y Flwyddyn 2015 (22-10-2015)

Grŵp y Flwyddyn 2015Enillydd: Siop Cynfelyn@Cletwr (Cwmni Cymunedol Cletwr) o Dre'r Ddôl, Ceredigion
Ers sefydlu cwrs byr i weithwyr y siop ar ddechrau 2014, mae Siop Cynfelyn@Cletwr wedi ymestyn y gweithgareddau Cymraeg er mwyn dod â dysgwyr a siaradwyr rhugl ynghyd i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae nhw am i'r Gymraeg gael ei gweld a'i chlywed gan gwsmeriaid a phobl sy'n teithio heibio. Mae nhw'n cynnal llawer o weithgareddau, yn cynnwys 'Dal ati /Welsh chat' – paned a sgwrs misol ar fore Sadwrn; Amser stori – bob yn ail b'nawn Iau – ar gyfer rhieini a phlant bach a babis, a Noson Ffilm yn Gymraeg – yn fisol ers Mehefin 2015. Mae nhw wedi gwylio Un nos Ola Leuad, Solomon a Gaenor, a Hedd Wyn. Mae dysgwyr yn cymryd rhan yn naturiol, gydag chymorth is-deitlau.


Gwobr Cymraeg yn y Gweithle 2015 (22-10-2015)

Gwobr Cymraeg yn y Gweithle 2015Enillydd: Tai Canolbarth Cymru, y Drenewydd, Powys
Mae dau o gyfarwyddwyr Tai Canolbarth Cymru yn mynychu dosbarthiadau nos i ddysgu Cymraeg; mae 15 o staff yn mynychu cyrsiau misol yn y gweithle, ac mae dau yn mynychu dosbarthiadau dechreuwyr. Mae'r cyflogwr yn cefnogi dysgwyr i fynychu'r cyrsiau yn rhad ac am ddim, a rhoi amser gwaith i fynychu'r cyrsiau. Mae un o aelodau bwrdd Tai Canolbarth Cymru yn bencampwr y Gymraeg, ac mae'r bwrdd yn cefnogi ac yn cydnabod yr holl ymdrechion i ddysgu a defnyddio'r iaith. O ganlyniad mae'r Gymdeithas yn gallu cynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg, ac mae gan staff fwy o hyder wrth ymwneud â'r cyhoedd.

Gwobr Cymraeg yn y Teulu 2015 (22-10-2015)

Gwobr Cymraeg yn y Teulu 2015Enillydd: Stephanie Windsor-Lewis. Cantores opera yw Stephanie, ac mae hi'n byw ym Mhennal, ger Machynlleth. Mae hi'n dysgu Cymraeg yn Aberystwyth ers blwyddyn yn unig. Jack Robin yw enw mab bach Stephanie, ac mae hi'n mwynhau siarad Cymraeg gydeg ef. Mae hi'n darllen llyfrau Cymraeg iddo hefyd, a chanu hwiangerddi iddo. Mae hi wedi gosod her iddi hi ei hun i ganu darn Cymraeg mewn cyngerdd ym mis Rhagfyr.

21 Hydref 2015 | Seremoni Wobrwyo Dysgu Gydol Oes (22-10-2015)

21 Hydref 2015 | Seremoni Wobrwyo Dysgu Gydol Oes Dathlwyd llwyddiant dysgu gydol oes unigolion a grwpiau mewn seremoni arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 21 Hydref 2015.
Cyflwynwyd y gwobrau gan Is-Ganghellor Prifysfgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon.



Fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg gan Michelle Dunn (14-10-2015)

Fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg gan Michelle Dunn"Wnes i gofrestru ar ddosbarth Cymraeg gyda rhywfaint o amharodrwydd. Ar ôl bod yn siom ddigalon i fy athro Ffrangeg yn yr ysgol, roeddwn yn disgwyl i ddosbarthiadau Cymraeg i Oedolion i fod yn rhywbeth o fwrn, ond i fy syndod, fe wnes i fwynhau'r dysgu ar unwaith! Mae'r Gymraeg yn iaith hynod, llawn dychymyg, yn llawn o bleser annisgwyl a pheryglon sy'n creu embaras. Ai fi yw'r unig un sydd wedi cam-gyfieithu 'Traws Cambria'? Roeddwn wedi ei gyfieithu i 'Cambrian Trousers'!

Fel roedd fy nhaith i ddysgu Cymraeg yn symud ymlaen, bu adegau llawn camgymeriadau tebyg, ond roeddwn hefyd wedi dysgu i ddefnyddio fy Nghymraeg yn fy musnes. Roedd fy sgwrs proffesiynol cyntaf gyda siaradwr Cymraeg yn frawychus - roeddwn i'n eithaf siŵr ei fod wedi gofyn i mi i docio ei Wisteria, ond roedd fy Nghymraeg mor sigledig, efallai mai gofyn i mi i symud fy nghar yr oedd.

Mae fy Nghymraeg wedi gwella tipyn ers hynny ac nid oes amheuaeth bod siarad yr iaith wedi fy helpu cael mwy o fusnes nag efallai byddwn fel arall fod wedi gwneud. Mae fy cwsmeriaid wrth eu bodd i drafod eu gerddi yn eu hiaith eu hunain, ac rwy'n cael y cyfle i ddefnyddio a mwynhau fy sgiliau Cymraeg newydd i'r eithaf."

Michelle Dunn, dysgwraig yn ardal Aberteifi

Llwyddiant i'r Cwrs Haf Aberystwyth Awst 2015 (08-09-2015)

Llwyddiant i'r Cwrs Haf Aberystwyth Awst 2015Roedd Cwrs Haf eleni unwaith eto yn lwyddiant ysgubol gyda dros 80 o ddysgwyr yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg ar bob lefel.

Mynychodd Roger Spencer o'r Almaen y cwrs am bythefnos:

"Mi wnes i fwynhau'r cwrs Canolradd ym mis Awst gymaint fy mod yn meddwl o ddifri am ddod ar y 2 wythnos olaf o'r cwrs y flwyddyn nesaf. "

" Athrawon rhagorol, awyrgylch gwych, gweithgareddau diddorol gyda'r nos a phrofiad dysgu dymunol iawn."

Diolch i'r prif diwtor, Felicity Roberts, i'r weinyddwraig Gwenno Edwards ac i Jaci Taylor am yr holl waith trefnu.

Tymor Newydd am y Cerddwyr Cylch Teifi (02-09-2015)

Tymor Newydd am y Cerddwyr Cylch TeifiAr ôl hoe dros yr haf, bydd ein tymor o deithiau cerdded misol yn dechrau ar yr ail ddydd Sadwrn ym mis Hydref. Taith gyntaf ein tymor newydd fydd un yn ardal Parc Nest a Chastellnewydd Emlyn, gydag Anne Pash a Nest Thomas yn arwain, ddydd Sadwrn 10fed o Hydref. Byddwn yn gadael maes parcio Ceir Cawdor yn y dref (SN308 314) (Cod post SA38 9BA) am 10.30yb. a mynd am daith o ryw 2 i 2.5 milltir. Cofiwch ddod cyn 10.30 i fod yn barod i adael yn brydlon. Bydd yn daith gymharol hawdd gydag ychydig o ddringo cymedrol ar y dechrau, ac yna i lawr rhiw neu ar y gwastad ond bydd angen gwisgo esgidiau cerdded addas. Wrth gerdded, clywn ychydig o hanes Parc Nest a'r Castell. Wedi'r daith, bydd yn bosibl inni gymdeithasu dros luniaeth yn un o'r tai bwyta neu dafarnau sy yn y dref.
Bydd croeso cynnes i bawb. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson, 01239 654561/ philippa.gibson@gmail.com
Cewch weld rhaglen lawn ein tymor isod:

10 Hydref: Castellnewydd Emlyn a Pharc Nest
Gadael maes parcio Ceir Cawdor, CNE (SN308 314) (Cod post SA38 9BA), am 10.30yb.
Arweinwyr: Anne Pash a Nest Thomas

14 Tachwedd: Ardal Preseli
Gadael man yn ymyl Dan y Garn (SN127 307), tua 1km i'r Gorllewin o Gofeb Waldo, am 10.30yb.
Arweinydd: Dafydd Davies

12 Rhagfyr: Ardal Ceinewydd
Gadael maes parcio Church Road, Ceinewydd (SN387 598) (Cod post SA45 9PB), am 10.30yb.
Arweinwyr: Ann Morgan, Deborah Angel, a Miriam Perrett

9 Ionawr: Ardal Brynberian
Gadael maes parcio Hen Ysgol / Canolfan Gymunedol Llwynihirion, ger Brynberian (SN101 360) (Cod post SA41 3TY), am 10.30yb.
Arweinydd: Dyfed a Siân Elis-Gruffydd

13 Chwefror: Ardal Poppit
Gadael maes parcio Poppit (SN152 485) (Cod post SA43 3LN), am 10.30yb.
Arweinydd: Terwyn Tomos

12 Mawrth: Ardal Clynfyw ac Aber-cuch
Gadael man ar bwys tafarn y Nag's Head (SN251 401) (Cod post SA37 0HJ), am 10.30yb.
Arweinydd: Howard Williams

9 Ebrill: Ardal Dinas ac Aber-bach
Gadael maes parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384) (Cod post SA42 0XG), am 10.30yb.
Arweinydd: Reg Davies

14 Mai: Cwm Soden, ger Cwm Tydu
Gadael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb.
Arweinydd: Howard Williams

11 Mehefin: Ardal Cilgerran a Llechryd
Gadael maes parcio Neuadd Cilgerran (SN198 428) (Cod post SA43 2TE), am 10.30yb. Efallai bydd y man cychwyn yn newid yn nes at y dyddiad.
Arweinydd: Emyr Phillips






Perthyn! (14-08-2015)

Perthyn!Mewn derbyniad yng Nghnanolfan y Celfyddydau ddydd Llun 3 Awst cafodd Grisel Roberts ei chroesawu i Gwrs Haf Cymraeg Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Ei chais hi a ddaeth i'r brig a pheri iddi ennill yr ysgoloriaeth a oedd yn cael ei chynnig i ddysgwyr Cymraeg disglair o Batagonia am y tro cyntaf gan Brifysgol Aberystwyth.

Huw Roberts o Aberystwyth oedd y gitarydd ifanc dawnus a oedd yn rhoi datganiad cerddorol yn yr achlysur. Wrth ddweud gair wrth y gynulleidfa crybwyllodd Siôn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, bod Grisel a Huw yn rhannu'r un cyfenw, a dweud dan chwerthin efallai eu bod yn perthyn – fod ganddo ryw berthnasau a aeth allan yno.

Mentrwyd gofyn i Grisel wedyn a oedd yn gwybod pwy oedd ei hynafiaid o Gymru a aeth allan i Batagonia, ac yn wir wedi tipyn o sgwrs darganfu Huw fod Grisel yn wir yn perthyn iddo. Roedd dau hen hen daid iddynt yn frodyr. Aeth Benjamin Pugh Roberts allan i Batagonia tua 1886 gyda nifer o frodyr a chwiorydd iddo. Yr un a arhosodd ar ôl i ffermio fferm Gelligrafog n ardal Rhydymain Dolgellau oedd Robert Pugh Roberts. Maes o law daeth Benjamin yn ffermwr llewyrchus yn ffermio Hafn Blodau yn ardal Esquel yn y Wladfa.

Mae Huw a Grisel yn orcheifnaint felly, hynny yw yn bedwerydd cefnder a chyfnither. Mae yn fyd bach on'd ydy!


TAITH I DDYSGWYR – BYWYD A GWAITH T LLEW JONES (13-08-2015)

TAITH I DDYSGWYR – BYWYD A GWAITH T LLEW JONESAr yr 11eg o Orffennaf, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion a noddir gan NIACE Cymru, aethon ni gyda grŵp o ddysgwyr Cymraeg Ceredigion ar daith fws i olrhain ychydig o hanes yr awdur T Llew Jones gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant ei eni eleni. Mae gweithiau llenyddol T Llew Jones yn parhau i fod yn boblogaidd ymysg plant ac oedolion heddiw. Fe oedd brenin llenyddiaeth plant.

Ganwyd Thomas Llewelyn Jones ar yr 11eg o Hydref, 1915 mewn tŷ o'r enw Bwlchmelyn ym Mhentrecwrt. Ar y daith aethon ni heibio i'w dŷ a gweld y plac sydd wedi'i osod ar y wal. Ar y plac mae englyn o waith y diweddar brifardd Dic Jones.

Rhythmau'r iaith yw y muriau hen – a chwedl
A chân yw pob llechen
Cartre Llew, crud deor llên
A thŷ mabolaeth awen.

Ymwelon ni â nifer o leoedd diddorol ar hyd y daith gan gynnwys Ysgol Capel Mair, Bancyffordd, lle cafodd T Llew ei addysg gynnar, a lle darganfuwyd ganddo hen garreg fedd, carreg ogam, darganfyddiad archaeolegol pwysig oedd wedi bod ar goll am dros ganrif. Ymlaen wedyn i Gwm Alltcafan lle stopiodd y bws ar y bont er mwyn i ni gael gwerthfawrogi'r olygfa drawiadol o'r ceunant a darllen cerdd T Llew Cwm Alltcafan.

Aethon ni heibio i Ysgol Coed y Bryn lle roedd T Llew yn brifathro ac ymlaen i Frynhoffnant i weld yr ysgol newydd, Ysgol T Llew Jones, a agorwyd yn 2012. I lawr wedyn i Wersyll yr Urdd yn Llangrannog a chanu cwpl o siantis gyda chyfeiliant ar y ffidl a chlywed ychydig am stori smyglo T Llew Dirgelwch yr Ogof a leolir yn Llangrannog a Chwmtudu, cyn mynd heibio i'r tŷ yr oedd yn arfer byw ynddo ym Mhontgarreg ac ymweld â'i fedd yng Nghapel y Wig. Bu farw ar Ionawr 9fed, 2009.

Ar ôl te yng Nghwmtudu a darllen y gerdd Smyglers Cwmtudu, dychwelon ni i Aberaeron i gael swper. Gyda'r nos aethon ni i Theatr Felin-fach, ac ar y ffordd, darllen y gerdd Sŵn. Gwelon ni gynhyrchiad gwreiddiol Y Llew-fan, dathliad o waith T Llew Jones yn seiliedig yn bennaf ar ei gyfrol Cri'r Tylluan a berfformiwyd gan gwmnïau perfformio Theatr Felin-fach. Roedd y sioe yn benigamp gyda dawnsio, actio ac adrodd a phawb wrth eu bodd. Cafodd pawb ddiwrnod hyfryd a hoffen ni ddweud diolch yn fawr i NIACE am noddir y daith, i Meryl Evans am drefnu'r daith ac i Jonathan Rees am ein tywys ni ar y daith ac am rannu hanes T Llew Jones gyda ni a phwyntio allan cymaint o bethau diddorol ar y ffordd.


Ysgoloriaeth Cwrs Haf Cymraeg i ddysgwyr o Batagonia 2015 (05-08-2015)

Ysgoloriaeth Cwrs Haf Cymraeg i ddysgwyr o Batagonia 2015Athrawes Saesneg o'r Arianin, sydd â gwreiddiau yng Nghymru ar ochr ei thad, yw enillydd yr ysgoloriaeth gyntaf i ddysgwyr Cymraeg o Batagonia i fynychu'r Cwrs Haf Cymraeg a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth o 3-28, Awst 2015.

Mae Grisel Roberts (canol y llun), sy'n byw yn Esquel, gefeilldref i Aberystwyth, wedi dysgu Cymraeg ar gyrsiau ym Mhatagonia ers 1998, gydag athrawon o Gymru. Mae hi hefyd wedi helpu dysgwyr eraill ym Mhatagonia. 'Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dysgu ein hiaith leiafrifol, a chymryd gofal o'n treftadaeth ddiwylliannol,' meddai Grisel . 'Mae'r Gymraeg yn rhan o'n diwylliant ni.'

Wrth ddod i Brifysgol Aberystwyth am fis, ei huchelgais yw siarad Cymraeg yn rhugl a chywir, er mwyn siarad gyda phobl eraill a dysgu Cymraeg i bobl eraill hefyd. 'Dw i'n dwlu ar ieithoedd, gramadeg a ieithyddiaeth,' meddai Grisel.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi'r ysgoloriaeth newydd hon i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia eleni, ac yn arbennig i ddathlu'r cysylltiad rhwng Aberystwyth ag Esquel yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

Yn 2014, roedd 268 o oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia. Mae tua 80 o ddysgwyr o Gymru a thu hwnt yn mynychu'r Cwrs Haf bob blwyddyn. Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i ddysgwyr ar bob lefel, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol, i wella eu sgiliau Cymraeg, a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.


Success for Zoe (08-07-2015)

Success for ZoeLlongyfarchiadau i'n tiwtor Zoe Pettinger am ennill tlws Tiwtor y Flwyddyn Gwobr Ysbrydoli NIACE Ceredigion mewn seremoni yn Aberystwyth. Diolch i'r Cynghorydd Gill Hopley Cadeiriydd Cyngor Sir Ceredgion am gyflwyno'r wobr iddi.

Proffil dysgwr o Bowys | Alun Bowen (02-06-2015)

Proffil dysgwr o Bowys | Alun Bowen"Alun Bowen dw i. Dw i'n byw mewn pentre bach yn ymyl Y Trallwng ond mi ges i fy ngeni yn Swydd Amwythig ac mi ges i fy magu ger Llundain. Roedd fy rhieni yn arfer byw yn yr ardal ac roedd fy hen-daid yn arfer gweithio yn y pentref hwn lle dw i'n byw fel gof. Ro'n i'n arfer cadw gwartheg Henfford yn y gorffenol ond dw i'n godro buchod ar fferm lleol rŵan.

Mi ddechreuais i ddysgu Cymraeg ym mis Ionawr 2012 yn Nhrefaldwyn ac erbyn mis Mai mi wnes i ddechrau defnyddio'r iaith Gymraeg tu allan i'r dosbarth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mi wnes i ymuno gyda Cymdeithas Cymraeg yn Y Trallwng felly roedd hi'n bosib cyfarfod pobl sy'n siarad yr iaith yn rhugl. Mi ddechreuais i fynd i'r Capel Cymraeg yn y dre lle ges i rywfaint o gyngor da oddi wrth dynes oedd yn eistedd o flaen fi. Dywedodd hi “Mi ddylech chi drochi eich hunan yn yr iaith”.

Dw i'n aelod o grŵp o'r enw Clwb Eiddew sy'n cyfarfod yng Nghaffi y Tŷ Eiddew yn Nhrefaldwyn unwaith bob mis ac mi ddaru ni ennill Grŵp y Flwyddyn 2012. Dw i'n hoffi darllen – mi wnes i ddechrau darllen efo E- Ffrindiau a rŵan mae'n well gen i ddarllen hunangofiant. Mi wna i ddarllen unrhywbeth – dw i newydd orffen llyfr gan Islwyn Ffowc Elis, Yn ôl i Leifior.

Dw i'n nabod llawer o bobl yn yr ardal sy'n siarad Cymraeg ac mae rhai ohonyn nhw yn dod i'r fferm, a weithiau mae'n bosib siarad Cymraeg dwywaith neu deirgwaith bob wythnos ar wahân i fy nosbarth i.

Mi faswn i'n treulio mwy o amser efo'r iaith taswn i'n gallu ond mae gen i wraig ac un deg tri o wyrion i'w cadw!!!"

Proffil dysgwr o Feirionnydd | Alan Painter (14-05-2015)

Proffil dysgwr o Feirionnydd  | Alan PainterAlan ydy fy enw i a dwi'n byw yn Nyffryn Ardudwy efo fy ngwraig i. Mae gynnon ni gath a chrwban a phwll pysgod aur yn yr ardd. Mi symudon ni yma ar ôl i ni ymddeol ond roedden ni'n nabod yr ardal yn dda ers mwy na thri deg mlynedd. Mi ges i fy magu yn Barnet, Hertfordshire, dim yn rhy bell o Lundain, a rôn i'n gweithio i Rheilffordd Danddaear Llundain fel rheolwr prosiect. Mae gynnon ni bedwar o blant sy'n oedolion a mae gynnon ni wyth o wyrion. Yn anffodus, dim ond ni sy'n byw yng Nghymru.
Dw i'n mynd i ddosbarth Cymraeg yn Harlech a mae'r grwp yn lwcus iawn achos mae gynnon ni diwtor ardderchog. Hefyd mae 'na bobl iaith gyntaf yn yr ardal sy'n gwirfoddoli i helpu dysgwyr: bob nos Iau dan ni'n cyfarfod am sgwrs yn Gymraeg mewn caffi yn Nyffryn. A dwywaith y mis mae grŵp arall o ddysgwyr yn cyfarfod i ymarfer mewn tafarn yng Nganllwyd. Dw i'n meddwl bod hi'n bwysig iawn i bobl ddysgu siarad Cymraeg sy'n dewis i wneud cartref yng Nghymru. Hefyd mi ddylen nhw ddysgu am Gymru a'i hanes.


Merched y Wawr Llanerfyl | 5 Mawrth 2015 (12-05-2015)

Merched y Wawr Llanerfyl | 5 Mawrth 2015Noson yng Nghwmni Bethan Gwanas a Siân James.

Noson agored i'r cyhoedd gyda gwahoddiad I Ddysgwyr Cymraeg yr ardal ymuno a ni ynghyd a aelodau dwy gangen leol o Ferched y Wawr (Foel a Llanfair Caereinion).

Diolch i gyhoeddusrwydd gan Menter Maldwyn a Cymraeg i Oedolion yn y Canolbarth (drwy Menna Morris) cafwyd ymateb calonogol iawn gyda 78 o fobl yn y gynulleidfa a 50% ohonynt yn ddysgwyr.

Gwnaed ymdrech i gael cymysgedd o Ddysgwyr a Chymry Cymraeg yn eistedd gyda'i gilydd ac roedd cyfle hefyd i sgwrsio gyda'n gilydd wrth i bawb gyrraedd ac wrth weini y bwyd.

Cafwyd eitemau amrywiol gan Siân a Bethan. Bu i Bethan sgwrsio am ei gwaith fel awdur gan gyflwyno y gwaith mae hi wedi ei ysgrifennu ar gyfer dysgwyr yn benodol - gyda chyfle i'r gynulleidfa ymuno yn y sgwrs gyda chwestiynau ac ateb. Bu Siân yn cyflwyno eitemau cerddorol, offerynnol a llafar gan ymuno gyda Bethan i gyflwyno 'ymgomau' o waith llennyddol Bethan.

Roedd ymateb pawb yn galonogol iawn gyda "noson dda/noson ardderchog" yw glywed gan lawer.

Bu i ni fel aelodau o Ferched y Wawr fwynhau y cyfle i groesawu cymaint o ddysgwyr in plith ac hyderaf wrth i ni fynd ati yn ein cyfarfod nesa i lunio rhaglen newydd ar gyfer y flwyddyn/tymor nesa y byddwn yn ystyriad trefnu noson arall gyda'r dysgwyr yn y dyfodol.





Castell Aberteifi yn ailagor Ebrill 2015 (14-04-2015)

Castell Aberteifi yn ailagor Ebrill 2015Bydd Castell Aberteifi yn agor i'r cyhoedd ddydd Mercher, Ebrill 15, ac o ddydd Llun 13eg bydd sawl dosbarth Cymraeg i Oedolion yn symud tu fewn i walydd yr Arglwydd Rhys

Peidiwch â gadael i'r waliau Canoloesol cadarn hyn eich twyllo. Mae 900 mlynedd o hanes yn cuddio y tu mewn iddynt.

Cyfuniad perffaith o erddi Rhaglywiaethol godidog, pensaernïaeth Georgaidd glasurol, amddiffynfeydd Canoloesol mawreddog a moethusrwydd yr 21ain Ganrif mewn safle sy'n olrhain yr oesoedd.

Castell Aberteifi yn ailagor fel atyniad treftadaeth, bwyty, llety a lleoliad digwyddiadau, ar ôl prosiect adfer gwerth £12m.

Llanidloes | Hyfforddiant yn y Gymraeg i Athrawon (01-04-2015)

Llanidloes | Hyfforddiant yn y Gymraeg i Athrawon Llongyfarchion i'r athrawon sydd newydd gwblhau cwrs dwys 3 mis yn Llanidloes o dan nawdd y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg. Diolch i'r tiwtoriaid Siôn Rowley, Medi James a Zoe Pettinger.


Cerddwyr Cylch Teifi | Ardal Cilgwyn (25-03-2015)

Cerddwyr Cylch Teifi | Ardal Cilgwyn Ym mis Mawrth buom yn ardal Cilgwyn ar daith a gynlluniwyd yn ofalus gan Reg Davies a Susan Carey gan ddechrau wrth Gapel y Bedyddwyr Caersalem, Cilgwyn, cerdded ar draws Cwm Gwaun i lethrau Carn Ingli ac wedyn i lawr y cwm i Sychbant. Cawsom olygfeydd arbennig o lethrau Carn Ingli, ac roedd yr awyr yn las a'r haul yn gynnes iawn yn ystod y daith. Clywsom am hanes a phresennol rhai o'r adeiladau a nodweddion wrth gerdded, megis Caersalem, Ffynhonnau, Fferm Llannerch (lle bu'r perchennog Mr Vaughan yn rhoi croeso i ni a chlywyd am y cwmni cig yno) a Charnedd Meibion Owain.

Wrth Fferm Dolgrannog Uchaf cafwyd hanes dau o faciwís fu'n byw yno yn y rhyfel ac roedd yn ddiddorol clywed am eu profiadau, sy wedi'u cofnodi mewn llyfr gan un ohonynt. Wedi'r cerdded, aeth rhai ohonom draw i fwyty Blas at Fronlas yn Nhrefdraeth i gael lluniaeth.


adroddiad o Eisteddfod y Dysgwyr 2015 (25-03-2015)

adroddiad o Eisteddfod y Dysgwyr 2015Mi ddaeth 150 o ddysgwyr o bob cornel o Ganolbarth Cymru i'r Tabernacl ym Machynlleth ar Chwefror 27ain i gystadlu a mwynhau Eisteddfod y Dysgwyr, 2015. Roedd hi'n noson arbennig ac roedd llawer iawn o dalent i'w weld ar y llwyfan. Y cyd-lefaru oedd y gystadleuaeth gyntaf ar y llwyfan, a saith grwp yn cystadlu! Am ffordd wych i agor yr eisteddfod!

Llongyfarchiadau i grwp Tonnau Tywyn a ddaeth yn gyntaf drwy lefaru "Darllen y Map yn Iawn". Roedd y canu unigol yn gystadleuaeth a hanner hefyd a Helen Pendry yn serenu. Mae'n rhaid canmol un o ser y noson, yn arbennig, sef Patrick Cain. Roedd ei ymroddiad i gystadlu heb ei ail, ac fe gystadlodd mewn nifer o gystadlaethau. Mae'n rhaid dweud mai uchafbwynt y noson i nifer o bobl oedd ei glywed yn chwarae Sosban Fach ar y piano - arbennig!

Roedd tair cystadleuaeth i grwpiau canu hefyd, a Diliau Del a Cym Cym Machynlleth yn ennill cydradd gyntaf y grwpia o dan 8 mewn nifer, Elin, Lowri a Carys yn y grwpiau i GYmry Cymraeg a Chor Ceredigion yn curo'r gystadleuaeth fawr ar ddiwed y noson.

Wrth gwrs, roedd llawer hefyd wedi cystadlu ar gystadlaethau cartref, ac roedd 'na waith arbennig yn cael ei arddangos yn y caffi yn y Tabernacl - cacennau bendigedig, gwaith tecstiliau a lluniau arbennig o broffesiynol.

Y ddwy brif seremoni yn ystod yr Eisteddfod oedd cystadleuaeth y Tlws Rhyddiaith a chystadleuaeth Y Gadair. Bu cystadlu brwd yn y ddwy gystadleuaeth, a Jusith Crompton o Lanelltyd yn curo'r Tlws a Elizabeth Jones o ardal Aberteifi yn curo'r Gadair. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw'u dwy. Roedd hi'n noson llawn adloniant felly, a phawb wedi mwynhau.

Diolch o galon i'r tiwtoriaid i gyd, i Sion Meredith am arwain, i Delma Thomas am gofnodi, pawb fu'n gweithio wrth y drws, Jaci Tayloram dynnu lluniau ac yn arbennig iawn i Sandra Jones-Evans am drefnu'r noson. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf!!

Canlyniadau ar gael yma:
mwy

Tridiau o brofiad Gwaith i ddysgwyr (05-03-2015)

Tridiau o brofiad Gwaith i ddysgwyr Tridiau o brofiad Gwaith i ddysgwyr | Gorffennaf / Awst 2015

Trwy gydweithrediad a chefnogaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru rydym yn gallu cynnig profiad gwaith i ddysgwyr lefel uwch/canolradd (eitha rhugl) Canolbarth Cymru cyn yr Eisteddfod ym Meifod ac yn ystod yr Eisteddfod.

mwy

Hoffech chi stiwardio yn yr Eisteddfod eleni? (05-03-2015)

Hoffech chi stiwardio yn yr Eisteddfod eleni? Dysgwyr a tiwtoriaid - beth am gwirfoddoli i stiwardio ym Maes D a'r caffi eleni ym Meifod?

Mae croeso i unrhywun wirfoddoli fodd bynnag, boed yn ddysgwyr, tiwtoriaid, a Chymry Cymraeg eraill.

Mae croeso i bobl gysylltu efo fi os oes unrhyw gwestiwn.


Cyfweliad Holly Cross ar raglen Beti George (24-02-2015)

Cyfweliad Holly Cross ar raglen Beti George Cyfweliad byr hyfryd gyda Holly ar raglen Beti George

Cymysgu Neu Gadw Draw, Y Cymry Newydd - BBC Radio Cymru

Mae darn Holly yn decrhau ar ôl 22.40 munud.

mwy

Cerddwyr Cylch Teifi - Taith mis Chwefror (24-02-2015)

Cerddwyr Cylch Teifi - Taith mis ChwefrorYm mis Chwefror, bu Maldwyn Lewis a Carys-Ann yn arwain taith i ni yn ardal Coed-y-bryn a bu'r drefn yn wahanol i'n harfer, gan iddynt drefnu te deg yn Neuadd Coed-y-bryn cyn dechrau - panad a danteithion blasus iawn a fwynhawyd gan dorf fawr o gerddwyr! Gan ddechrau wedyn ar y sgwâr, dysgom am bentref Coed-y-bryn, y Capel, a'r Ysgol a'i chysylltiad â T. Llew Jones; olion Plas Bronwydd a hanes hir a lliwgar eu perchnogion, y Lloydiaid; hanes y llwybr newydd; hanes ffatri wlân Maesllyn; Plas y Gernos, a llawer mwy. Tua diwedd y daith, cawsom groeso gan ficer Eglwys Llangynllo, y Parch. Gareth Reid, a chyfle arbennig i fynd i mewn i'r Eglwys hardd. Ar ôl cerdded, aeth rhai ohonom i gael lluniaeth yn Nhafarn Ffostrasol.



Dysgu Cymraeg o'r Crud yn Nhref y Clawdd (11-02-2015)

Dysgu Cymraeg o'r Crud yn Nhref y ClawddMae Ymwelwyr Iechyd Llanandras a Tref y Clawdd yn gweithio ar y cyd â'r Canolfan Cymraeg i Oedolion yn y Canolbarth i ddarparu cwrs o'r enw 'Cymraeg o'r Crud'. Mae'r cwrs 10-wythnos ar gyfer rhieni lleol i ddysgu Cymraeg syml i'w defnyddio gyda'u babanod a phlant bach.

Mae'r tiwtor y cwrs hwn Ellen Greason-Walker, yn dweud for y cwrs yn gyfle gwych i rieni newydd i gyflwyno'r iaith Gymraeg i'w babanod yn ifanc. Mae'r cwrs yn cynnwys ymadroddion hanfodol ar gyfer rhieni megis, 'Ty'd i newid dy glwt'; cyflwyno geiriau defnyddiol fel dillad, teganau, rhannau o'r corff; ymarfer adrodd stori yn Gymraeg yn ogystal â chanu.

Drwy gymryd rhan yn y cwrs hwn, mae rhieni yn gosod seiliau cadarn ar gyfer eu plant i fod yn ddwyieithog ac yn eu annog i ddechrau darllen a chyfrif. Mae hefyd yn gyfle gwych i rieni newydd i gwrdd â phobl eraill.



Sesiwn Canu a Sgwrsio - Tanygroes (28-01-2015)

Sesiwn Canu a Sgwrsio - Tanygroes17 Ionawr 2015

Buodd mwy na 20 o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn mwynhau nifer o berfformiadau campus gan Barbara Bennett (telyn a llais), Dick Crawford (telyn), Jonathan Rees (ffidil), Pete Edwards (gitâr), Frank ac Eiri Thrasher (banjo, gitâr a llais) yn ogystal â pherfformiad arbennig gan Greg Lynn, prif leisydd yr Hwntws.

Diolch o galon i bob un ohonyn nhw am eu gwaith caled.

Mae'r syniad tu ôl i'r sesiynau yma'n syml iawn. Canu, cymdeithasu a sgwrsio yn Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol - "joio mas draw" yw'r nod, fel mae pobol yn dweud yn yr ardal yma, ac roedd hi'n hyfryd gweld pawb yn gadael y sesiwn yn wên i gyd.

Heblaw am bris baned, mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim. Bydd sesiwn newydd ddydd Sadwrn, 13 Mawrth, am ddau o'r gloch. Croeso cynnes i bawb, gan gynnwys dysgwyr newydd.


Cerddwyr Cylch Teifi yn ardal Maenclochog (20-01-2015)

Cerddwyr Cylch Teifi yn ardal Maenclochog10 Ionawr 2015

Ar ein taith ddiwethaf, Hefin Wyn fu ein harweinydd yn ardal Maenclochog. Dysgon ni lawer am yr ardal a'i hanes ar daith gylch hirach nag arfer. Wedi dechrau yn y pentref, a chael ymweliad arbennig â'r Prifardd Eirwyn George, gyda chroeso ac englyn, aethom ymlaen i lwybr hyfryd ar lannau nant a thrwy goedwig i gyrraedd heol dawel.

Ar y daith, yn ogystal â dysgu am darddiad enw Maenclochog, gwelon ni'r cerrig Ogam yn yr eglwys, meini hirion wrth y llwybr, a'r gofeb i un o arweinwyr yr ymgyrch i achub y Preselau rhag dod yn faes ymarfer i'r Fyddin. Roedd golygfeydd rhagorol dros ran helaeth o Sir Benfro, ac wedi'r cerdded, aeth rhai i gymdeithasu yn y Dafarn Sinc yn Rhos-y-bwlch.



Cerddwyr Cylch Teifi - Ardal Cilgerran (25-11-2014)

Cerddwyr Cylch Teifi - Ardal CilgerranEmyr Phillips fu ein harweinydd ym mis Tachwedd pan aethom ar daith ddiddorol iawn i weld olion y diwydiant llechi yng ngheunant Cilgerran. Roedd Teifi'n llawn wedi glaw trwm y noson gynt, ond llwyddon ni i gael rhyw ddwy awr o dywydd sych i gerdded wrth ochr yr afon ac uwch ei phen. Roedd Emyr wedi paratoi'n drylwyr ar ein cyfer, ac yn ein cyfareddu gyda hanes yr ardal wrth i ni weld yr hen chwareli a dysgu eu henwau. Rydym yn gobeithio bydd Emyr yn gallu arwaith taith arall i ni flwyddyn nesaf er mwyn i ni weld gweddill y ceunant a dysgu mwy.



Welsh Words - cyhoeddiad newydd i ddysgwyr (20-11-2014)

Welsh Words - cyhoeddiad newydd i ddysgwyrDysgwch Gymraeg yn gynt gyda Welsh Words
Mae awduron llyfr geirfa newydd i ddysgwyr yn honni y gallan nhw helpu pobol i ddysgu Cymraeg yn gynt.

Mae'r gyfrol Welsh Words yn cynnwys rhestr o eiriau craidd a tips ar sut mae dysgu a chofio'r iaith newydd.

Mae'r llyfr yn seiliedig ar brosiect ymchwil gan Steve Morris a'r Athro Paul Meara o Brifysgol Abertawe, arbenigwyr ym maes dysgu Cymraeg i oedolion ac ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gynyddu geirfa. Wrth ymchwilio, fe fanteisiwyd ar gyfraniadau gan dros chwedeg o diwtoriaid profiadol ym maes Cymraeg i oedolion dros Gymru.
'Dyw Welsh Words ddim yn rhestr hir o bob gair Cymraeg,' meddai Steve Morris, Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg ac arweinydd datblygiad strategaeth ymchwil genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion. 'Geirfa graidd sydd yn y llyfr – geiriau y bydd angen i chi eu gwybod erbyn diwedd y cwrs lefel Mynediad, gyda brawddegau syml yn dangos i chi sut mae pob gair yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun go iawn. Mae'n ffitio'n daclus mewn bag neu boced a cheir ynddo gyngor gramadegol a tips i helpu dysgwyr i ddysgu – a chofio – geiriau newydd.'
Mae'r arbenigwyr wedi creu dau fersiwn o'r llyfr – un ar gyfer dysgwyr yn y de a'r llall ar gyfer dysgwyr yn y gogledd ac maen nhw'n cynnwys amrywiadau tafodieithol yn ogystal â geiriau safonol.

Y Lolfa yw'r cyhoeddwyr a phris y llyfrau yw £4.95.
(Wedi eu hatodi - llun o'r awdur Steve Morris a'r clawr)


Prifysgol Aberystwyth yn Dathlu Diwrnod Shwmae! (04-11-2014)

Prifysgol Aberystwyth yn Dathlu Diwrnod Shwmae!Ar ddydd Mercher 15 Hydref 2014 roedd Cymru gyfan yn dathlu Diwrnod Shwmae - diwrnod cenedlaethol i ddathlu'r Gymraeg ac i annog pobl i'w defnyddio.

Gwnaed ymdrech arbennig i ddathlu gan staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth - dyma lun o'r dathlu yn swyddfa'r Is-Ganghellor!





Gwobr Cymraeg i'r Teulu i Juanita (27-10-2014)

Gwobr Cymraeg i'r Teulu i JuanitaDyma hi (ar y dde) gyda ei mam Felicity, Cerys ei merch, a'i gŵr Bryn. Gwobr yw hon ar gyfer dysgwyr Cymraeg o Ganolbarth Cymru sydd wedi cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y teulu.

ywers.com (30-09-2014)

ywers.comMae gwefan ywers.com ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion bellach yn fyw yn dilyn y lansiad dydd Gwener diwethaf yn Aberystwyth – Gwefan yn canolbwyntio ar agweddau Asesu ar gyfer Dysgu ydi hi, sy'n cynnwys clipiau fideo o ddosbarthiadau ar hyd a lled Cymru ynghyd â chrynodeb o'r egwyddorion. Mae 'Stafell Staff' ar y wefan hefyd, ble mae modd i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru rannu syniadau a phrofiadau.

Cymraeg i Oedolion ar Daith (16-09-2014)

Cymraeg i Oedolion ar DaithYn ystod mis Medi 2014, cynhaliwyd sesiynau cofrestru mewn nifer o leoliadau ledled y canolbarth. Ein bwriad oedd i ddenu a chofrestru dysgwyr newydd.

Dyma ni yn Morrisons Aberystwyth ar 9 Medi 2014

Dafydd Morse, Elin Mair, Rob Dery

Taith ar Gamlas Aberhonddu (03-09-2014)

Taith ar Gamlas AberhondduYn ystod 2013/14 gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n dysgu Cymraeg yn Ne Powys.

Cafwyd presenoldeb da yn nosbarthiadau wythnosol a chyrsiau byr. Hefyd rydym yn trefnu digwyddiadau anffurfiol - fel ein trip blynyddol ar gamlas Aberhonddu.

Eleni, cawsom y pleser o glywed David Hedley Williams yn adrodd hanes y gamlas yn y Gymraeg.

Mae gweithgareddau y tu allan i'r dosbarth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu helpu i meistroli'r iaith. Mae llawer o fyfyrwyr ym Mhowys wedi cymryd rhan yn yr her chwe llyfr Cenedlaethol Prydain am yr ail flwyddyn yn olynol; darllen chwe llyfr / cylchgronau yn y Gymraeg.

Llwyddiant i Gôr Dysgwyr newydd Ceredigion (13-08-2014)

Llwyddiant i Gôr Dysgwyr newydd CeredigionLlongyfarchiadau mawr i ddysgwyr Ceredigion am ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Côr y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau diwethaf o dan arweiniad Elin Mair a Heledd oedd yn cyfeilio (Meryl a Keith oedd yn edrch ar ôl y bagiau a chlapio yn y pafiliwn)!

Diolch i'r tiwtoriaid a ddaeth i gefnogi'r côr yn y rhagbrofion hefyd a staff y Ganolfan Ranbarthol.

Elizabeth Jones yn ennill cadair y dysgwyr (11-08-2014)

Elizabeth Jones yn ennill cadair y dysgwyrLlongyfarchiadau i Elizabeth Jones o ein dosbarth Uwch 2 Aberteifi ar ennill cadair dysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma hi gyda'r Archdderwydd.

Arwr

Addolwyd gan ei deulu,
Tal, main, golygus,
Llygaid pefriog glas,
Gwallt golau, ffefryn pawb,
Yn athletaidd dros ben.

Noson boeth ym mis Mehefin 1948
Noson cyn chwaraeon yr ysgol,
Ffenestr ei ystafell wely,
Agored led y pen. Ar hyd y silff ffenestr
Cerddodd yn ei gwsg.

Breuddwydiai am ddringo
Ar graig yn ei hen wlad
Wrth syllu dros y mor
Tuag at Ynys Robben anghyfanedd.
Clywodd y gwahangleifion
Yn gweiddi. Gwelodd
Fonion rhyfedd heb bysedd
Yn estyn dwylo, yn codi bys arno.

'Pen ac yswydd uwchben
Y gweddill,' dwedodd Dad.
Ond yn dal yn fachgen newydd,
Fyddai'n cael ei wrthod,
Tasai'n meiddio ennill?
Llithrodd ei droed
A disgynnodd i ofod.

Clywodd Dad swn griddfan,
Fel anifail mewn magl.
Nid anifail ddarganfyddodd,
Ond mab, llipa a llwyd
Yn gorwedd ar goncrit oer,
Ei en ac arddwrn
Yn rhyfedd o grwca.

Trwsiwyd ei gorff toredig.
Drylliwyd ei hunan-barch.
Yn eistedd ar ei ysgwydd
Roedd bwbach methiant,
Yn llenwi ei ffroenau,
Roedd cythraul cywilydd.

Pob aelod o'r teulu yn bwrw'r bai
Arno'i hun am golli ei arwr.
Collodd y teulu ei freuddwyd
Noson boeth ym mis Mehefin 1948.


Taith Hanesyddol i Ogledd Sir Benfro (07-08-2014)

Taith Hanesyddol i Ogledd Sir BenfroRhan o Wythnos Addysg Oedolion

Ar 14 Mehefin 2014 aeth criw o ddysgwyr Ceredigion ar daith hanesyddol i Ogledd Sir Benfro i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru.

Aethom i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran, Castell Henllys ac i Dŷ Ddewi

Eisteddfod y Dysgwyr - y Drenewydd 20 Mehefin 2014 (07-08-2014)

Eisteddfod y Dysgwyr - y Drenewydd 20 Mehefin 2014Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus dros ben yn y Drenewydd eleni gyda cystadlu brwd ac egniol iawn ar y llwyfan. Roedd cystadlaethau'n cynnwys Llefaru Unigol; Canu Unigol; Darn offerynnol; Dweud stori bersonol; Grŵp Canu; Parti Llefaru; Dweud eich barn ar bwnc cyfoes; Sgets neu gyflwyniad ar ffurf sgwrs mewn ciw.

Roedd sawl cystadleuaeth gwaith cartref. Enillydd y gadair am ei cherdd 'Arwr' eleni oedd Catrin Hughes. Dyma hi yn cael ei chadeirio.

Côr Dysgwyr Dolgellau yn ennill Gwobr Gyntaf (07-08-2014)

Côr Dysgwyr Dolgellau yn ennill Gwobr GyntafYn yr Eisteddfod Dysgwyr Canolbarth Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Drenewydd cafwyd canmoliaeth fawr i gôr dysgwyr o Ddolgellau gan y beirniad Marian Wilson am y gân Bytholwrydd gan Robat Arwyn.

'Mae'r côr wedi mynd o nerth i nerth gyda phawb yn gweithio'n galed iawn yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, dywedodd Lowri Thomas Jones arweinydd y côr.

Mae gennym hefyd rai dysgwyr Cymraeg frwdfrydig iawn ym Meirionnydd sydd hefyd wedi sefydlu grŵp cerddwyr i ymarfer eu Cymraeg tra'n cerdded.

Teithiau cerdded Nesaf: 15 Awst - 06:00 cwrdd ym Mhen y Pass i ddringo'r Wyddfa, 13 Medi a 15 Tachwedd - Taith gerdded hawdd ar lefel isel, 5 Hydref a 20 Rhagfyr - taith gerdded Mynydd.

Dysgwyr Ceredigion yn ennill Cystadleuaeth Llyfr Cenedlaethol (07-08-2014)

Dysgwyr Ceredigion yn ennill Cystadleuaeth Llyfr CenedlaetholMae nifer o'n Dysgwyr Cymraeg yn llwyddo i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl drwy weithio'n galed yn y dosbarth a thrwy gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau yn y Gymraeg er mwyn gwella eu Cymraeg llafar.

Eleni, trefnwyd Cystadleuaeth Llyfrau Cenedlaethol Cymru gan Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru am. Enilloedd Bro Teifi gyda Aberystwyth a Morgannwg yn gydradd-ail.

'Mae lefel y trafodaethau yn Gymraeg rydym wedi clywed heddiw i gyd yn deilwng o sylw gan Radio Cymru ac S4C' meddai Arwel Rocet Jones, beirniad y gystadleuaeth, ac Elwyn Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru.

Llwyddiant Ysgubol i Ras yr Iaith 2014 (03-07-2014)

Llwyddiant Ysgubol i Ras yr Iaith 2014Dyma'r Ras gyntaf erioed dros yr iaith Gymraeg. Pasiwyd baton yr iaith ymlaen. Yn ystod y dydd, rhedodd hyd at 1,000 o bobl o Senedd-dy Glyndwr ym Machynlleth trwy canol trefi Aberystwyth, Tregaron, Llambed, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Nid ras gystadleuol oedd hon. Yr enillydd oedd yr iaith Gymraeg, ein cymunedau a'n hiechyd wrth i ni dynnu pobl o bob cefndir at ei gilydd.

Roedd ambell i aelod staff a dysgwyr Cymraeg i Oedolion wedi rhedeg - da iawn chi!

Swyddi Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion - Haf 2014 (18-06-2014)

Swyddi Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion - Haf 2014Mae hwn yn gyfle i ymgeiswyr brwdfrydig ac egniol ymuno â thîm o diwtoriaid i wneud
cyfraniad ymarferol i hybu'r iaith Gymraeg, drwy Ganolfan Cymraeg i OedolionCanolbarth
Cymru.
Mae gan y Ganolfan raglen o gyrsiau a gynhelir yn ystod y dydd a fin nos yng Nghanolbarth
Cymru, ac rydym yn recriwtio tiwtoriaid newydd i ddysgu o fis Medi 2014 yn yr ardaloedd a
enwir uchod.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid sy'n gallu ysgogi eu hunain a chanddynt sgiliau cyfathrebu
ardderchog. Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad fel tiwtor Cymraeg i Oedolion neu
athro/athrawes iaith. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan rai nad oes ganddynt brofiad
blaenorol o ddysgu, ac fe allwn gynnig hyfforddiant.
Bydd gofyn ichi allu siarad ac ysgrifennu'n gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
I wneud ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Carys Hughes Jones, ar 01970 628494 neu drwy
e-bostio caj@aber.ac.uk.
Ceir mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ar y we:
http://www.aber.ac.uk/cymraegioedolion/
Cyf: SE.14.10
Dyddiad Cau: 2 Gorffennaf 2014

Philippa yn cael ei urddo i'r Orsedd 2014 (20-05-2014)

Philippa yn cael ei urddo i'r Orsedd 2014Un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion y Canolbarth yw Philippa Gibson, a ddysgodd y Gymraeg ar ôl symud i orllewin Cymru,Pontgarreg Llandysul. Ymunodd â dosbarth Cerdd Dafod a meistrolodd y gynghanedd, cyn ennill cystadleuaeth yr englyn yn ein Prifwyl, ennill Cadeiriau Eisteddfodol ac ymuno â thîm Tan-y-Groes, Talwrn y Beirdd. Mae'n cynnal dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn ardal Aberteifi ac yn un o olygyddion Papur Bro Y Gambo. (Gwisg Werdd)

Dysgwyr o Fachynlleth yn ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol (13-05-2014)

Dysgwyr o Fachynlleth yn ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol2 Ebrill 2014

Fe gawson ni daith wych i'r Llyfrgell Genedlaethol - dysgwyr o dri dosbarth ym Machynlleth. Yn y llun mae Rhodri Morgan o'r Llyfrgell yn siarad am Feibl William Morgan

Taith i Bortmeirion - Rhagfyr 2013 (13-05-2014)

Taith i Bortmeirion - Rhagfyr 2013Aeth 9 o ddysgwyr o ardal Meirionnydd i ymweld â ffair Nadolig Portmeirion. Aeth ein tiwtor Ruth Roberts Owen gyda nhw ar y bws mini o Ddolgellau.



Holly Cross yn cystadlu i fod yn Dysgwr y Flwyddyn 2014 (06-05-2014)

Holly Cross yn cystadlu i fod yn Dysgwr y Flwyddyn 2014Cawson ni ddiwrnod arbennig yn rownd gynderfynol Dysgwr y Flwyddyn ddydd Sadwrn yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne. Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel dros ben unwaith eto, ac roedd y cystadleuwyr i gyd yn haeddu mynd drwodd i'r rownd derfynol.

Y pedwar sy'n mynd ymlaen yw Nigel Annett, Holly Cross, Joella Price a Susan Carey. Mae Holly yn fyfyrwraig yn nosbarth Philippa Gibson yn Aberteifi.

Pob lwc i Holly!






mwy

Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth (01-05-2014)

Eisteddfod Calan Mai AberystwythCystadleuaeth i ddysgwyr
Morlan, Aberystwyth
30 Ebrill 2014


Eitem gerddorol – gall fod yn grŵp canu, grŵp offerynnol, cân actol ayyb

Roedd dosbarth Felicity Roberts, Uwch 1 Nos Fercher, wedi cipio'r wobr gyntaf.

Llongyfarchiadau i bawb oedd wedi cymryd rhan gan gynnwys Felicity am eu harwain i fuddugoliaeth .


Cyfarwyddwr y Ganolfan yn darganfod ei wreiddiau (08-04-2014)

Cyfarwyddwr y Ganolfan yn darganfod ei wreiddiauYn y Gwaed?

Ydi ffydd yn rhywbeth mae rhywun yn ei etifeddu neu ai magwraeth aelwyd a chymdeithas sy'n gyfrifol amdano? Dyna gwestiwn a fydd yn cael ei holi mewn rhaglen arbennig a fydd yn dilyn taith Siôn Meredith o Benrhyn-coch - Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth ac offeiriad llëyg yn Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth.

Flwyddyn a hanner yn ôl daeth Siôn i wybod pwy oedd ei deulu genedigol ar ochr ei fam ac yr oedd yn gryn sioc iddo ganfod ei fod e'n debyg iawn i'r teulu hwnnw ac yn arddel gwerthoedd a ffydd gyffelyb.

Ddiwedd 1965 oedd hi pan gafodd Siôn ei fabwysiadu gan y teulu Meredith ym Mangor ac yntau ryw chwe wythnos oed. Nigel Treanor oedd ei enw genedigol ac roedd ei fam Margaret wedi dod draw i Ddwygyfylchi yn y Gogledd gyda ffrind iddi i weithio mewn cartref Barnardos. Yn ddiarwybod i bawb o'r teulu roedd Margaret yn feichiog – fe fagodd hi'r babi am bythefnos cyn ei drosglwyddo i asiantaeth fabwysiadu Esgobaeth Bangor. Roedd tad Margaret yn offeiriad Anglicanaidd a bu'n gweinidogaethu yn Hanworth yng ngorllewin Llundain, a chyn ei farw cynnar, yn Hove ger Brighton. Bu ef farw tua'r un cyfnod â geni Siôn – a rhyw bum mlynedd wedi hynny bu Margaret ei hun farw o diwmor ar yr ymennydd a hithau ond yn 27. Roedd hi wedi priodi ac wedi ymfudo i Awstralia a Hong Kong ond dychwelodd wedyn i Surrey yn Ne Lloegr i fagu ei hail blentyn – Tim. Mae e hefyd wedi marw erbyn hyn.

Yn ffodus i Siôn roedd ei dad John Meredith sydd a'i wreiddiau yn Aberystwyth wedi gwneud ymchwil maith ar ddechrau'r 70au i gefndir Siôn. Mi gafodd y teulu genedigol gryn sioc gan na wyddent hwy ddim am fodolaeth Siôn, a'r ffrind a deithiodd gyda Margaret i Ddwygyfylchi a gadarnhaodd y stori. Doedd Siôn, hyd yn ddiweddar, ddim wedi holi llawer am ei hanes cynnar ond wrth iddo yntau fagu teulu teimlai yr hoffai ganfod ei wreiddiau.

Yn ffodus mae ei ewythr genedigol wedi cofnodi llawer o'r hanes ac yn syth roedd modd i Siôn wybod ei fod yn perthyn i deulu o offeiradon a chenhadon Gwyddelig. Yn ei ddyddiau cynnar roedd taid Siôn yn gweithio i fudiad cenhadol SAMS yn Yr Ariannin gan sefydlu eglwys yn ardal Chaco a bu ei dad yntau yn genhadwr CMS yn India. Cyd-ddigwyddiad arall yn y stori yw bod Hanworth – ardal plentyndod Margaret (mam Siôn) yn agos iawn i bencadlys Tear Fund yn Teddington – man y bu Siôn yn ymweld ag e yn rheolaidd iawn yn ystod ei waith gyda'r elusen.

Mewn rhifyn arbennig o Bwrw Golwg a ddarlledir ar BBC Radio Cymru am 8 o'r gloch fore'r 4ydd o Fai fe fydd Siôn yn mynd ar daith i ganfod ei wreiddiau. Fe fydd y rhaglen yn mynd ag ef i weld bedd ei fam yn Hove am y tro cyntaf. Fe fydd e hefyd yn mynd yng nghwmni ei ewythr i weld cartref plentyndod ei fam yn rheithordy Hanworth ac yn mynd o gwmpas yr ystafelloedd i gael blas ar y dyddiau cynnar. Dilynir Siôn, ymhellach, wrth iddo fynd i wasanaeth yn Eglwys Hanworth lle y mae'n cael cyfle i siarad â ffrind ysgol i'w fam a phobl a oedd yn cofio ei daid. Cafodd y cyfan ei recordio ar Sul y Mamau. Yn ail rhan y rhaglen fe fydd trafodaeth ar etifeddiaeth a magwraeth a pha un sy'n ein gwneud yr hyn yr ydyn ni.

'Fe fwynheais y daith i ganfod fy ngwreiddiau yn fawr, meddai Siôn, ac y mae'n sicr wedi dod a fi'n nes at fy mam enedigol ac yn peri i mi ofyn llawer o gwestiynau'. Ond meddai Siôn, 'dyw'r profiad ddim yn fy mhellhau wrth y teulu sydd wedi fy mabwysiadu – wedi cyfoethogi fy mywyd y mae'r profiad.'

Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni Mynydd Bach o Aberystwyth ar gyfer BBC Radio Cymru.

Bwrw Golwg – 8.00 – bore Sul – 4ydd o Fai

Am fwy o fanylion cysyllter â'r cynhyrchydd Sarah Down-Roberts – 07773 470649


Hyfforddiant i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion (02-04-2014)

Hyfforddiant i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth 2014 cawsom sesiwn fuddiol iawn o hyfforddiant gyda Lois Martin Short yn cynnal gweithdy cerdiau flach, ac yna Sion Rowley yn 'Amrywio'r drilio'.

Cerddwyr Cylch Teifi - Taith Trefdraeth (18-03-2014)

Cerddwyr Cylch Teifi - Taith TrefdraethAr bore braf iawn, cwrddon ni ar y Parrog a chael ein harwain ar y llwybr dymunol iawn draw at y bont haearn, ac wedyn i weld Coetan Arthur. I sawl un, dyma'i ymweliad cyntaf, a phawb yn cael eu swyno gan y gromlech dwt a'i lleoliad annisgwyl. Yn ôl wedyn ac i lawr i'r Cwm ac adeilad yr hen fad achub, cyn troi am adref neu i gael lluniaeth yn yr ardal. Roeddem i gyd wedi mwynhau bore hamddenol a chymdeithasol yn yr haul.



Cystadleuaeth dylunio poster - yr enillwyr (28-01-2014)

Cystadleuaeth dylunio poster - yr enillwyrBeth am gael poster newydd i hyrwyddo Cymraeg i Oedolion? Syniad da, ond sut?

Beth am ofyn i blant blwyddyn 3-6 ddylunio poster i ni?

A dyna beth wnaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. Cafywd cynllun gwych gan Luke Wakelin, Ysgol Rhydypennau, Bow Street, Ceredigion. Daeth Llywelyn Bowen Jones yn ail, ac Owain Ifans yn 3ydd. Llongyfarchiadau i'r tri ohonynt.

Enillodd Luke docyn llyfr £25 i brynu llyfrau o'i ddewis ei hun, yn ogystal â £50 i Ysgol Rhydypennau. Roedd Llywelyn ac Owain wedi derbyn tocyn llyfr £5 yr un fel gwobr.

Defnyddir syniad Luke i greu poster i hyrwyddo Cymraeg i Oedolion yng Nghanolbarth Cymru ym 2014.






Cerddwyr Cylch Teifi - Preseli i Rosebush (14-01-2014)

Cerddwyr Cylch Teifi - Preseli i RosebushAr ôl yr wythnosau o wynt, glaw a llifogydd, cawsom dywydd arbennig o braf ar gyfer ein taith o Fwlch y Gwynt ar y Preseli i Rosebush. Cawsom wybodaeth ddiddorol (a doniol weithiau) am yr ardal gan Dafydd Davies, ein harweinydd, a digon o amser i fwynhau'r golygfeydd a oedd mor arbennig yn yr haul. Ar ôl cerdded dros ychydig o dir gwlyb, buom ar lwybrau sych a hawdd i lawr i'r pentref, lle roedd ceir i'n cludo'n ôl i'r man cychwyn. Manteisiodd sawl un ar y cyfle i ymlacio wrth fwynhau lluniaeth ac awyrgylch y Tafarn Sinc wedi'r daith.

8fed mis Chwefror awn i ardal Cwmtydu ar gyfer taith gyda Julie Thomas yn arwain.

Grŵp y Flwyddyn 2013 yn ennill £100 (18-12-2013)

Grŵp y Flwyddyn 2013 yn ennill £100Mae Denise, Helena, Cynthia, Ronnie, Alun a Julie o Drefaldwyn wedi sefydlu grŵp darllen 'Eiddew', ac o ganlyniad wedi ennill £100 a'r wobr 'Grŵp y Flwyddyn 2013'.

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!

Nic Dafis - Tiwtor y flwyddyn yn y Canolbarth 2013 (18-12-2013)

Nic Dafis - Tiwtor y flwyddyn yn y Canolbarth 2013Dyfarnwyd gwobr 'Tiwtor y Flwyddyn' yn yr un ardal eang i Nic Dafis o Bontgarreg a gafodd ei enwebu gan ei fyfyrwyr yn Aberteifi am ei ymroddiad, ei ysbrydoliaeth, ei gefnogaeth y tu allan i'r dosbarth ac ar-lein, ac am ei hiwmor a'i gyfeillgarwch.

Gwobrau Ysbrydoli! 2014 Niace (10-12-2013)

Gwobrau Ysbrydoli! 2014 NiaceMae Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod ymdrech ac ymrwymiad eithriadol dysgwyr a thiwtoriaid i gyflawni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion. Mae'r Gwobrau a gyflwynir yn dangos y gwahanol ffyrdd y mae oedolion yn dysgu - o ddysgu fel teulu i wirfoddoli yn y gymuned; o'r dymuniad am swydd well i ymateb i argyfwng bywyd.
Anelwn ddathlu llwyddiannau dysgwyr ac ysbrydoliaeth y tiwtoriaid unigol a'r timau a'u helpodd i newid eu bywydau, bywydau eu teulu a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Cynhelir seremoni Gwobrau Ysbrydoli! ychydig cyn Wythnos Addysg Oedolion 2014, y dathliad mwyaf o addysg oedolion yn Ewrop, gyda dros 850 digwyddiad ledled Cymru. Mae'n bartneriaeth yn cynnwys NIACE Dysgu Cymru, Llywodraeth Cymru ac ystod gyfan o sefydliadau.

I enwebu, dilynwch y ddolen yma!

Enwebwch am Wobrau Ysbrydoli! 2014 yma!

Edrychwch ar ein henillwyr blaenorol ar sianel NDC YouTube -

http://www.youtube.com/user/niacedc

Os ydych angen mwy o help, neu os hoffech gopi caled o'r ffurflen enwebu, cysylltwch â'r Tîm Ymgyrchoedd yn Campaigns@niacedc.org.uk




Seremoni Wobrwyo yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes 2013 (20-11-2013)

Seremoni Wobrwyo yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes 2013Llongyfarchiadau mawr i bawb a dderbyniodd dystysgrif neu wobr yn y seremoni eleni a gynhaliwyd ym Medrus ar 14 Tachwedd 2013.

Holly Cross a Vanya Constant oedd enillwyr Myfyrwyr y Flwyddyn a Nic Dafis oedd Tiwtor y Flwyddyn 2013.

Derbyniodd Gwyneth Roberts a Jackie Willmington wobrau am basio arholiad lefel Hyfedredd. Roedd Julie Pierce yn cynrychioli Grŵp Eiddew a enillodd Grŵp y Flwyddyn.

Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb.
mwy

Cerddwyr Cylch Teifi - Canolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran (12-11-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi - Canolfan Bywyd Gwyllt CilgerranAr gyfer ein hail daith y tymor hwn, aethon ni i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran, gyda Howard Willaims yn ein harwain ar daith gylch gan ddechrau ochr bryn sy'n cynnig golygfa hyfryd ar draws y Gors tuag at Aberteifi ac wedyn ar lan Afon Teifi, ar lwybr byrddau o gwmpas Gors Pentŵd, ac ar gwrs hen reilffordd y 'Cardi Bach'.

Cawsom lawer o wybodaeth ddiddorol ar y ffordd, roedd y tywydd yn eithaf caredig i ni, fel arfer, ac ar ôl y daith aeth rhai ohonom i fwynhau lluniaeth a chymdeithasu yng Nghaffi Canolfan y Warchodfa.

Gwobrau Cymraeg i Oedolion 2013 (31-10-2013)

Gwobrau Cymraeg i Oedolion 2013Tiwtor y Flwyddyn 2013: Nic Dafis

• Mae Nic yn diwtor yn aberteifi.
• Cafodd e ei enwebu gan sawl un o'i ddysgwyr yn aberteifi am ei ymroddiad, ysbrydoliaeth, cefnogaeth y tu allan i'r dosbarth drwy ddysgu ar-lein, a'i gyfeillgarwch.

Myfyrwyr y Flwyddyn 2013: Holly Cross a Vanya Contstant

Eleni am y tro cyntaf mae dwy fyfyrwraig yn rhannu'r wobr.



Cerddwyr Cylch Teifi yn ymweld â Meini'r Orsedd (21-10-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi yn ymweld â Meini'r OrseddTaith gyntaf ein tymor newydd oedd ar 12 Hydref 2013 ar hyd llwybrau a heolydd tawel, gan ddilyn rhan o Lwybr Arfordir Cymru tua'r gogledd o Aberteifi. Cawsom dywydd da a daeth criw ardderchog o ryw hanner cant o gerddwyr, yn Gymry ac yn ddysgwyr, i grwydro'r ardal dan arweiniad Dyfed a Siân Elis-Gruffydd. Ar y ffordd, clywsom am borthladd Aberteifi a'r diwydiant adeiladu llongau, Eisteddfod Genedlaethol 1976 a Meini'r Orsedd, safle hen gastell Aberteifi, dyffryn presennol afon Teifi a'r hen ddyffryn, ac afon Mwldan a cherrig adeiladu Theatr Mwldan. Ar ôl y daith, aeth rhai ohonom draw i'r Grosvenor i ymlacio, sgwrsio a chael rhywbeth i'w yfed neu fwyta.

Dathlu Diwrnod Shwmae 15.10.13 (17-10-2013)

Dathlu Diwrnod Shwmae 15.10.13Hydref 15, 2013 oedd y tro cyntaf i ni ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb a mi wnaethom ni ddefnyddio'r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.

Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth gan gynnwys :

Derbynwyd 10% o ostyngiad ar de/coffi i bawb a wnaeth archebu'n Gymraeg yn TaMedbach, IBERbach, Blas Padarn, Canolfan y Celfyddydau a Starbucks yn yr Undeb.

Myffin siocled AM DDIM gyda phaned o de neu goffi ym Mhantycelyn ac yn Blas Gogerddan i bawb a wnaeth siarad Cymraeg wrth y till.

Côr CYD Aberystwyth yn canu yn ardal y cwad yr Hen Goleg yn y bore.

**FFLACH DORF** am 1pm yn y Ganolfan Celfyddydau.
mwy

ffrinDiaith.org (12-08-2013)

ffrinDiaith.orgCafodd prosiect newydd 'ffrinDiaith.org' ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol Awst 2013 er mwyn helpu dysgwyr Cymraeg i ganfod ffrindiau sy'n siarad Cymraeg. Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer y prosiect gan Hywel Gwynfryn, ac mae bellach yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng y chwech Chanolfan Cymraeg i Oedolion ledled Cymru, a'r cwrs ar-lein SaySomethinginWelsh.com.

Gall siaradwyr Cymraeg a dysgwyr gofrestru drwy www.ffrinDiaith.org a chysylltu â'i gilydd i drefnu sesiynau anffurfiol rheolaidd – mewn caffi, neuadd gymunedol neu lawr yn y dafarn! 'Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer dysgwyr Cymraeg,' medd Siôn Meredith, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. 'Un o'r heriau mwyaf y mae dysgwyr yn ei wynebu yw mynd â'r Gymraeg allan o'r dosbarth ac i'r gymuned. Bydd ffrinDiaith.org yn eu helpu i ddod i nabod siaradwyr Cymraeg cyn gynted ag y byddan nhw yn dechrau dysgu, felly bydd ganddyn nhw gysylltiad yn syth bin gyda'r gymuned Gymraeg ei hiaith, a fydd yn tyfu ac yn dyfnhau wrth iddyn nhw feithrin mwy o hyder yn yr iaith.'

Bydd ffrinDiaith.org yn dod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr lleol ynghyd drwy ddangos i ddefnyddwyr pa mor agos mae nhw at ei gilydd – ond bydd hefyd yn helpu pobl i wneud cysylltiadau byd eang drwy gynadledda fideo, ac mae pobl o Awstralia ac America yn barod wedi cofrestru ar y wefan.

'Dyma'r ffordd ddelfrydol i siaradwyr Cymraeg wneud gwir wahaniaeth,' medd Hywel Gwynfryn o BBC Cymru. 'Dw i wedi bod yn helpu fy ffrind Rosie drwy gael sgwrs â hi yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd unwaith yr wythnos, ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr – does dim rhaid i chi fod yn athro, does dim rhaid drilio gramadeg. Mae sgwrs reolaidd yn ddigon i roi agoriad i ddysgwyr i fyd anhygoel yr iaith Gymraeg.'

'Rwy'n meddwl y bydd ffrinDiaith.org yn chwarae rhan hanfodol i alluogi siaradwyr Cymraeg i groesawu dysgwyr i'w cymunedau,' medd said Aran Jones, Prif Weithredwr SaySomethinginWelsh.com, 'a bydd hefyd yn cryfhau a bywiogi cymunedau bychain o siaradwyr Cymraeg ar draws y byd. Mae siaradwyr Cymraeg yn teimlo'n gryf iawn dros eu hiaith, ac mae hwn yn offeryn newydd cyffrous i ganiatáu iddyn nhw i wneud gwahaniaeth ymarferol go iawn i ddyfodol yr iaith drwy roi cyn lleied ag awr y mis o'u hamser.'

Gall siaradwyr Cymraeg sydd yn fodlon helpu dysgwyr i ddod yn rhan o'u cymuned, neu ddysgwyr Cymraeg sydd eisiau'r cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg yn anffurfiol gyda ffrind, gofrestru ar www.ffrinDiaith.org yn rhad ac am ddim. Bydd cyngor a chanllawiau hefyd ar gael er mwyn gwneud y gorau o'r cysylltiadau a wneir drwy ffrinDiaith.

Ysgol Haf Aberystwyth 8-12 Gorffennaf 2013 (15-07-2013)

Ysgol Haf Aberystwyth 8-12 Gorffennaf 2013Cynhaliwyd y cwrs yma yn adeiladau hardd yr Hen Goleg, Aberyswyth. Lleoliad bendigedig ger y lli, dros wythnos o heulwen braf.

Daeth 30 o fyfyrwyr i ddysgu, o bob lefel gan gynnwys dechreuwyr pur - i ymarfer a gwella eu Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol, llawn hwyl.



Aberystwyth yn cynnal Cynhadledd Genedlaethol Cymraeg i Oedolion (10-07-2013)

Aberystwyth yn cynnal Cynhadledd Genedlaethol Cymraeg i OedolionDydd Sadwrn Gorffennaf 6, cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol Cymraeg i Oedolion i Diwtoriaid yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ar gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gynhadledd gael ei chynnal yn Aberystwyth, ac roedd cyfle i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Cymru rannu'r datblygiadau diweddaraf, â chael eu hannerch gan siaradwyr blaengar yn y maes.

Prif thema'r Gynhadledd Cymraeg i Oedolion oedd Asesu ar gyfer Dysgu, a phrif siaradwr y digwyddiad oedd Geoff Petty, sy'n arbenigwr yn y maes.

Yn ogystal roedd rhaglen ddiddorol a chynhwysfawr o sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer tiwtoriaid a oedd yn cynnwys asesu ar gyfer dysgu, gwarchod y llais, defnydd creadigol o dechnoleg a sesiwn yn trafod dull o gyflwyno iaith drwy 'wneud a dweud' gydag Emyr Llywelyn, athro Cymraeg nodedig ac arbenigwr ar gyflwyno'r Gymraeg i bobl ifanc.



Cerddwyr Cylch Teifi yn Llandudoch (17-06-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi yn LlandudochI orffen ein tymor o deithiau, ar 8fed o Fehefin 2013, archebon ni'r haul ac awel ysgafn ac felly cawsom dywydd perffaith ar gyfer crwydro o gwmpas Llandudoch. Llinos Devonald oedd ein harweinydd ac aeth â ni lan i 'Benwhiliwr', heibio i'r Tŷ Crwn ac i lawr i Gwm Degwel ac wedyn ymlaen i Flaenwaun a fferm Cefen.

Clywsom hanesion diddorol ym mhob man, a phob un yn dysgu pethau newydd - gyda rhai o reolau'r capel yn ein synnu. Wedi'r daith, aeth rhai i'r Cartws ac eraill i dafarn y Teifi i ymlacio a chloncian.

Diolch i bob un o'n harweinwyr eleni am baratoi teithiau mor ddifyr, ac edrychwn ymlaen nawr at dymor newydd o deithiau dwy awr a fydd yn dechrau ym mis Hydref. Bydd croeso i bawb. Am ragor o fanylion, ffoniwch 01239 654561 neu philippa.gibson@gmail.com


Seremoni Wobrwyo: Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg (13-06-2013)

Seremoni Wobrwyo: Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg5 Mehefin 2013
Siambr Cyngor Sir Powys
Llandrindod

Daeth 26 o athrawon a cynorthwywyr dosbarth Cyngor Sir Powys i ymuno â ni i ddathlu eu llwyddiant yn cwblhau y Cwrs Sabothol yma o dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Roedd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno'r tystysgrifau ac yn llongyfarch y myfyrwyr.

Hefyd rhoddwyd diolch i'r tiwtoriaid a fu'n dysgu dros y ddwy flynedd diwethaf sef Catrin Evans Thomas, Medi James, Zoe Pettinger a Menna Morris.

Diolch hefyd i Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys am eu partneriaeth, ac i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.

Penwythnos Stori i'r Teulu yn Aberhonddu (10-06-2013)

Penwythnos Stori i'r Teulu yn AberhondduWythnos Addysg Oedolion 2013
Nos Lun 20 Mai 2013
Camlas Aberhonddu 6.00 – 8.30pm
Chwedleuwyr: Guto Dafis (Cymro Cymraeg) a Marion Oughton (Dysgwraig lefel Sylfaen)
Lleoliad: ar gwch ar y gamlas yn Aberhonddu
Yn bresennol: 31 o oedolion ac un plentyn

Cafwyd noson wych ar y gamlas yn gwrando ar y chwedleuwyr yn adrodd eu straeon wrth iddynt symud i fyny ac i lawr y cwch.

Roedd Guto wedi adrodd dwy stori Llyn y Fan Fach a Brenin March yn ogystal â chanu a dawnsio er bod y lle yn gyfyng. Gan nad oedd pawb yn siarad Cymraeg neu eu bod yn ddechreuwyr roedd Guto'n ailadrodd darnau yn Saesneg. Roedd llawer o ailadrodd yn y straeon sydd yn ei wneud yn haws i ddysgwyr ddeall.

Dyma'r tro cyntaf i Marion adrodd stori yn y Gymraeg, er ei bod yn 'chwedleuwraig' broffesiynol - yn Saesneg fel arfer! Mae hi'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd yn Ystradgynlais ar lefel Sylfaen.

Dywedwyd wrthi am y digwyddiad ar y gamlas – ac roedd ganddi ddiddordeb i ddod ac i adrodd stori fer yn y Gymraeg. Roedd hi wedi dangos i ddysgwyr eraill ei bod hi'n bosib cyflawni cymaint mewn amser byr!

Daeth un teulu ifanc i wrando ar y streaon, a hwythau wedi mwynhau'n arw er nad oedd y tad yn siarad Cymraeg. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl yna yn dysgu Cymraeg ac roedd digon o gyfle i ymarfer eu Cymraeg ar y daith.

Roedd yn noson gwerth chweil a byddwn ni'n chwilio am ffyrdd o ddatblygu gweithgareddau dysgu Cymraeg i'r teulu cyfan yn yr ardal, gan gynnwys sesiynau darllen.


Noson wobrwyo Dysgu Bro Ceredigion (24-05-2013)

Noson wobrwyo Dysgu Bro CeredigionCynhaliwyd noson wobrwyo i ddathlu llwyddiant myfyrwyr Dysgu Bro mewn amryw o feysydd dysgu yng Nghlwb Golff, Aberteifi ar nos Wener 26 Ebrill 2013. Trefnwyd y noson gan Meryl Evans, Rheolwr Addysg Gymunedol: Cymraeg i Oedolion a Denise Owen, Rheolwr Addysg Gymunedol: Technoleg Gwybodaeth.
Llywyddwyd y noson gan Mrs Mari Morgan, Pennaeth Addysg Barhaus, Cyngor Sir Ceredigion. Cyflwynwyd y tystysgrifau gan Mr Arwyn Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion a Mr Siôn Meredith, Cyfarwyddwr Canolfan CiO Canolbarth Cymru, Prifysgol Aberystwyth.
Cychwynnodd y noson gyda bwffe a ddilynwyd gan berfformiad gan diwtor Dysgu Bro Mike Eades a nifer o'i fyfyrwyr oedd yn cynnwys perfformiad cyntaf darn o gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan y dosbarth yn arbennig ar gyfer y noson.
Yn ogystal cafwyd arddangosfa flodeuyddiaeth gan diwtor Dysgu Bro Linda Seabrook a chyflwyniad ar yr Ap iFfôn i Ddysgwyr y Gymraeg gan un o'r dyfeiswyr yr Athro Chris Price, myfyriwr Cymraeg i Oedolion.
Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol ac mae staff a myfyrwyr yn gobeithio daw'n ddigwyddiad blynyddol.


Gwibdaeth i Sain Ffagan (20-05-2013)

Gwibdaeth i Sain Ffagan Ar 18fed o Fai 2013 aeth tua 140 o Dysgwyr a Gwirfoddolwyr Ceredigion ar wibdaith i Amgueddfa Werin a Theftadaeth Sain Ffagan.

Cafwyd diwrnod i'r Brenin a llond lle o Gymraeg!

Rhan o Wythnos Addysg Oedolion
18 - 26 Mai 2013

Cerddwyr Cylch Teifi ar Ynys Dinas (20-05-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi ar Ynys DinasCawsom daith arbennig ym mis Mai, gan gerdded o gwmpas Ynys Dinas. Dechreuon ni ym Mhwllgwaelod gyda Rex Harries a Reg Davies yn rhoi peth o wybodaeth am yr ardal inni. Gyda'r gwynt y tu ôl inni, buom yn dringo'r llwybr o gwmpas Ynys Dinas, a chlywed mwy ar y ffordd gan Reg, gan Geoff Wainwright a chan Dyfed Elis-Gruffydd am yr hanes, y bywyd gwyllt, a'r creigiau, a chael cyfle i weld yr adar ar Graig y Nodwydd. Yng Nghwm yr Eglwys, clywsom ragor o straeon difyr am y pentref gan Rex. Aeth rhai ohonom i dafarn 'Yr Hen Forwr' am luniaeth a sgwrs wedi'r daith.

Mehefin 8fed yw dyddiad taith olaf ein tymor a byddwn yn Llandudoch gydag Esther Davies a Llinos Devonald. Byddwn yn cwrdd ym Maes Parcio'r pentref am 10.30, cerdded lan i 'Benwhiliwr', heibio i'r Tŷ Crwn, i lawr i Gwm Degwel ac yna ymlaen i Flaenwaun a fferm Cefen - gan ddysgu llawer ar y ffordd, siŵr o fod! Bydd yn bosibl i'r rhai sydd eisiau gael lluniaeth yn Nhafarn y Teifi ar y diwedd.



Myfyriwr y Flwyddyn 2012 (07-05-2013)

Myfyriwr y Flwyddyn 2012Llongyfarchiadau i Jeff Smith ar gael gwobr myfyriwr y flwyddyn 2012.

Myfyriwr Ffiseg amser llawn ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Jeff erbyn hyn. Mae'n dod o Dde Lloegr yn wreiddiol, ac mae wedi ymdrochi ym mywyd Cymraeg Aberystwyth. Mae wedi cael gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg gan astudio dau fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei gamp yn fwy fyth gan ei fod yn awtistig.

'Mae ennill y wobr yn fraint mawr i mi, ac yn garreg filltir arbennig wrth i mi symud ymlaen ar y daith o ddod yn rhugl yn y Gymraeg,' meddai Jeff.

Cerddwyr Cylch Teifi - Ardal Trefdraeth (23-04-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi - Ardal TrefdraethBuom yn ardal Trefdraeth gan gynnwys ymweld â chymuned ecolegol Brithdir Mawr ar ein taith fis Ebrill, gyda Tony Haigh yn ein harwain. Er gwaethaf y glaw mân, cawsom daith hyfryd ar hyd llwybrau trwy goedwigoedd ar waelod Carn Ingli ac ym Mrithdir Mawr. Cawsom gyfle i weld y tu mewn i ambell dŷ crwn clud gydag Emma Orbach a nes ymlaen clywsom sut mae'r gymuned yn gweithio ac yn cydweithio ac yn cynhyrchu'i thrydan ei hun. Roedd y gerddi llysiau a storfa'r coed tân yn dyst i'w llwyddiant. Aeth rhai ohonom i'r Dderwen Frenhinol yn Nhrefdraeth i ymlacio wedi'r daith.

11eg mis Mai, awn ar daith 2 awr o gwmpas Ynys Dinas.

Mis Mehefin 8fed yw dyddiad taith olaf ein tymor. Byddwn yn cwrdd ym Maes Parcio'r pentref am 10.30, cerdded lan i 'Benwhiliwr', heibio'r Tŷ Crwn, i lawr i Gwm Degwel ac yna ymlaen i Flaenwaun a fferm Cefen.

Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am fwy o fanylion, ffoniwch 01239 654561 neu philippa.gibson@gmail.com


Bethan Gwanas yn ymweld â Dosbarth yn Nolgellau (12-03-2013)

Bethan Gwanas yn ymweld â Dosbarth yn NolgellauYn ddiweddar ymwelodd yr awdures Bethan Gwanas
â dosbarth Canolradd 1 Dolgellau.

Mae'r dosbarth yn darllen nofel 'Bywyd Blodwen Jones'gan Bethan Gwanas, felly cafodd yr awdur lleol wahoddiad i ddod i'r dosbarth, i gael sgwrs efo nhw a'u tiwtor, Beryl Davies. Roedd pawb yn gofyn cwestiynau i Bethan am ei llyfr a'i bywyd diddorol.

Cwrs Sabothol i Athrawon Cynradd (12-03-2013)

Cwrs Sabothol i Athrawon CynraddMae pedair ohonon ni diwtoriaid o ganolfan y Canolbarth wedi bod yn dysgu ar y Cyrsiau Sabothol ers dwy flynedd bellach, Catrin, Medi, Menna a Zoe. Mae'r cyrsiau i athrawonyn para tri mis a'r cyrsiau i gynorthwywyr dosbarth yn para am bump wythnos.

Daw'r athrawon atom bob dydd, pum niwrnod llawn yr wythnos. Mae'u hymroddiad i'r gwaith caled wedi bod yn llwyr ac yn fuddiol iddynt. Mae hefyd yn brofiad hwyliog a chymdeithasol i ni i gyd. Erbyn hyn mae'r criw o athrawon o Ogledd Powys a orffennodd gyda ni cyn y nadolig wedi bod nôl yn eu hysgolion am hanner tymor ac mae Menna, Zoe a finnau wedi cychwyn gyda chynorthwywyr dosbarth ardal y Drenewydd yng ngholeg Powys ers canol Chwefror.

Yn y llun fe welir yr athrawon mewn gweithdy yn y goedwig ger gregynog. Mae cael ambell i 'dro' allan o'r ystafell ddosbarth yn hwyl ac yn gyfle i siarad Cymraeg yn anffurfiol ac i ehangu geirfa am bynciau arbenigol. Cawsom hwyl hefyd gyda Penri Roberts mewn gweithdy drama a Jenny Fell mewn gweithdy argraffu.

Medi James (Mawrth 2013)

Cerddwyr Cylch Teifi - Tegryn (05-02-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi - TegrynEr yr oerfel, cafodd grwp da daith ddwy awr ardderchog yn ardal Tegryn gyda Gareth Evans yn arwain a Mer yn cadw cwt y grwp yn ddiogel. O'r maes parcio wrth Gapel Llwyn-yr-hwrdd, gwelem bentrefi Llanfyrnach a chwarel y Glog cyn mynd ymlaen i ymweld â bedd a charreg goffa y Prifardd Tomi Evans ('Wncl Tomi'), cartref y Parchedig W Rhys Nicholas a sawl man arall o ddiddordeb hanesyddol. Ar ddiwedd y daith, aeth rhai ohonom i gael coffi a chawl yn Nhafarn "Butchers Tegryn".
Ym mis Chwefror, bydd rhai o'n grŵp yn ymuno â thaith Cymdeithas Edward Llwyd gyda Dyfed a Siân Elis-Gruffydd yn arwain yn Llechryd ar ddydd Sadwrn yr 2il, ar gyfer taith o 4 awr neu fwy (Manylion: 01239 682287).
Ond bydd ein taith dwy awr arferol yn dod yr wythnos wedyn, 9fed o Chwefror, gyda Dyfed a Siân yn arwain Cerddwyr Cylch Teifi yng nghyffiniau Gwbert gan gwrdd am 10.30 yn y maes parcio ar fin y B4548 ger Gwbert (SN 163 494). Cawn daith o ryw 2.75 milltir gyda golygfeydd godidog dros foryd afon Teifi a Thraeth Gwyn, draw i Ben Cemaes tua'r gollewin a Llandudoch tua'r de. Clywn am hanes Gwbert (gan gynnwys hen blas ddiflanedig Tywyn) a Gwesty'r Graig, yr hen dwyni tywod a dyffryn cudd afon Teifi. Mae'n debyg bydd rhai ohonom yn mynd yn ol i Abertiefi am rywbeth i'w fwyta ar ôl y daith.
Ym mis Mawrth (9fed), byddwn yn ôl yn Llangrannog i gerdded yn ôl troed Carannog Sant gydag Ian ap Dewi yn ein tywys.
Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am fwy o fanylion, ffoniwch 01239 654561 neu philippa.gibson@gmail.com

Cerddwyr Cylch Teifi - Bwlch-y-Groes (17-01-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi - Bwlch-y-GroesAr ein taith fis Tachwedd 2012 aethom i ardal Bwlch-y-Groes a Star gyda Terwyn Tomos a Dyfed Elis-Gruffydd yn arwain - a chawsom ein tywydd bendigedig arferol, gan orffen funudau cyn i law y prynhawn ddechrau! Cawsom wybodaeth ddiddorol iawn am Ysgol Bwlch-y-groes a dau o'i chyn brifathrawon, sef W.R. Evans, sylfaenydd Bois y Frenni, a Gwylon Phillips, awdur Llofruddiaeth Shadrach Lewis. Aethom heibio i adfeilion bwthyn Pen-llain - hen gartref teulu Terwyn, a gyda chymorth y warden ymwelom ag Eglwys Clydau a gweld y meini hynafol yno, cyn llwybro ymlaen i bentre Star a'i hen felin ŷd a ffatri wlân. Aeth criw go dda draw i'r Nag's Head, Aber-cuch i ymlacio wedyn. Bore hyfryd mewn cwmni da.

Croeso i bawb ymuno â ni ar bob taith. Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 01239 654561 neu ebostio Philippa: philippa.gibson@gmail.com

Cymwynaswyr i Fyd Dysgu Cymraeg (17-01-2013)

Cymwynaswyr i Fyd Dysgu CymraegAlbie a Dee Abbott - pâr annwyl, byrlymus eu brwdfrydedd, a ddaeth o Hampshire i Sir Benfro a Chymreigio'u bywydau, ac wedyn heintio eraill â'u hawydd i ddod yn rhan o'r gymdeithas a'r diwylliant Cymraeg o'u cwmpas. Dathlwyd llwyddiant Albie a Dee mewn seremoni yn ystod Eisteddfod Gadeiriol Crymych, pan gyflwynwyd Tlws Coffa Robina iddynt am eu cyfraniad i faes dysgu Cymraeg i Oedolion.Y mae'n ddeg mlynedd eleni ers inni golli Robina Elis-Gruffydd, a oedd yn adnabyddus iawn yn yr ardal a thu hwnt am ei gwaith, ac am ei phersonoliaeth gynnes a siriol.

Dwedodd Geraint Jones a Dyfed Elis-Gruffydd, aelodau o Bwyllgor Tlws Coffa Robina, ei bod yn addas iawn i Albie a Dee gael y wobr gan fod cymaint yn gyffredin rhyngddynt â Robina a oedd hefyd yn dod o Loegr a chofleidio'r diwylliant Cymraeg a'i drosglwyddo i eraill, gan gynnwys i Albie a Dee! Wedi meistroli'r iaith trwy waith caled, aeth Albie a Dee ymlaen i gefnogi a ffurfio grwpiau Cyd er mwyn roi cyfle i ddysgwyr â Chymry Cymraeg gwrdd â'i gilydd, i fod yn diwtoriaid eu hunain am gyfnodau, ac i gefnogi'r achosion Cymraeg lleol. Mae Albie hefyd wedi dod yn adnabyddus trwy'i erthyglau misol yn y Cardi Bach sy'n adlewyrchu agosatrwydd a hiwmor y ddau. Maent wrthi'n lleol ar hyn o bryd yn rhan o'u Pwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd, ac yn cefnogi'u pedwar o wyrion sy'n mynychu Ysgol y Preseli ac Ysgol Clydau. Ac maent wedi gwneud, ac y dal i wneud, y gwaith hyn i gyd er gwaethaf problemau iechyd Albie sy'n golygu mai dim ond rhyw 6 awr sy ganddo bob dydd pan nad oes rhaid iddo orwedd ar ei wely.

Bob blwyddyn, cyflwynir y Tlws, sef cerflun cain o hedydd gan Wynmor Owen, i wobrwyo prosiectau neu unigolion sy'n gweithredu yn Sir Gâr, Sir Benfro neu Geredigion ac yn cyflawni gwaith ym meysydd yr iaith Gymraeg, y diwylliant Cymraeg, dysgu Cymraeg i Oedolion, neu fyd natur a'r amgylchedd trwy gyfrwng y Cymraeg. Os gwyddoch am waith addas i'w wobrwyo y flwyddyn nesaf, rhowch wybod i Rhidian Evans, Menter Iaith Sir Benfro, Tŷ'r Ysgol, Ysgol y Preseli, Heol Hermon, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH, Ffôn: 01239 831129 E-bost: ymholiad@mentersirbenfro.com

Cerddwyr Cylch Teifi - Cilgerran (17-01-2013)

Cerddwyr Cylch Teifi - CilgerranCawsom dywydd braf, yn ôl ein harfer, ar gyfer taith gyntaf ein tymor newydd, rhwng diwrnodau o law ganol mis Hydref. Aeth dros 35 ohonom i ardal Cilgerran i gael taith gylch ar lwybrau cyhoeddus a thraciau, trwy'r Warchodfa, heibio i Ganolfan Gwyliau Fforest ac ar lwybr hyfryd uwchlaw ceunant Afon Teifi yn hen Goed Cilgerran sydd erbyn hyn y tu mewn i Warchodfa Natur Genedlaethol, Coedmor. Dysgon ni dipyn am hanes yr ardal a'i byd natur. Wedi'r daith, aeth rhai ohonom i gael lluniaeth yng Nghaffi Canolfan Bywyd Gwyllt yn yr adeilad trawiadol a chroesawgar. Bore bendigedig mewn cwmni da.

Dydd Sadwrn Tachwedd 10fed yw dyddiad ein taith 2 awr nesaf a fydd yn ardal Bwlch-y-groes a Star gyda Terwyn Tomos a Dyfed Elis-Gruffydd yn arwain. Byddwn yn cychwyn o fuarth hen ysgol Bwlch-y-groes (SN 245 363) am 10.30yb. Nid oes llawer o le i geir, felly rhannwch lifftiau os gallwch. Bydd y daith yn dilyn cyfuniad o lwybrau cyhoeddus (rhai'n fwdlyd iawn!) a lonydd tawel. Mae un rhan o'r heol yn serth. Byddwn yn rhoi sylw i: Ysgol Bwlch-y-groes a dau o'i chyn brifathrawon, sef W.R. Evans, sylfaenydd Bois y Frenni, a Gwylon Phillips, awdur Llofruddiaeth Shadrach Lewis; adfeilion bwthyn Pen-llain; Eglwys Clydau; pentre Star a'r hen felin ŷd a'r hen ffatri wlân; a'r golygfeydd draw i gyfeiriad y Frenni Fach.
Ac ar ôl y daith bydd yn bosibl i'r rhai sydd eisiau fynd i'r Nag's Head, Aber-cuch.

Dewch i Gofrestru - Medi 2012 (11-09-2012)

Dewch i Gofrestru - Medi 2012Dewch i gofrestru ar gwrs Cymraeg i Oedolion mewn nifer o lleoliadau ledled y Canolbarth.
mwy

Gŵyl y Dysgwyr Ceredigion 12 Mai 2012 (31-05-2012)

Gŵyl y Dysgwyr Ceredigion 12 Mai 2012Diolch i Jac Forster, Myfyriwr y Flwyddyn 2011, am agor Gwyl y Dysgwyr yn Llanerchaeron ddydd Sadwrn 12 Mai 2012. Wythnos Addysg Oedolion. Jac ar y chwith gyda Meryl Evans, Trefnydd yr Wyl.

Dydd Gŵyl Dewi - Cawl a Chân - adolygiad (14-03-2012)

Dydd Gŵyl Dewi - Cawl a Chân - adolygiadAdolygiad gan ein myfyriwr: Kat Dawes

"Es i lan i Aberystwyth dydd Iau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda dysgwyr a Chymry Cymraeg yn y Ganolfan Addysg Gymunedol, Penparcau. Roedd e'n diwrnod o sesiynau blasu dysgu gydol oes cyfrwng y Gymraeg."

I weld yr adroddiad yn gyfan, ewch i blog Kat, manylion isod.


mwy

Cystadleuaeth i ddysgwyr - Eisteddfod Llandudoch (02-03-2012)

Cystadleuaeth i ddysgwyr - Eisteddfod LlandudochEISTEDDFOD LLANDUDOCH - CYSTADLEUAETH I DDYSGWYR

Cystadleuaeth ar gyfer "Dysgwyr (sydd wedi bod yn dysgu hyd at 2
flynedd)"

Testun: Erthygl yn rhoi hanes ymweliad ag unrhyw fan yng Nghymru.

Dyddiad cau: Mai 9fed 2012

Gwobr: £15

Codwch raglen o siop Awen Teifi, neu ewch at wefan yr Eisteddfod i'w
lawrlwytho.


mwy

app Cwrs Mynediad (02-03-2012)

app Cwrs MynediadMae Abertec, cangen o Trosglwyddo Technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi creu app ar gyfer Apple iPhone, iPod ac iPad i ymddwyn fel teclyn dysgu ar gyfer y Cwrs Mynediad. Gall hefyd wrth gwrs, gweithio'n annibynnol. Maent eisioes wedi eu hargymell gan CBAC - ceir sticeri hyrwyddo ar eu llyfrau yn arwain darllenwyr at wefan iTunes.

Aberhonddu - Grŵp Paned a Chlonc (24-02-2012)

Aberhonddu - Grŵp Paned a ChloncDyma rai o'r aelodau'r bore coffi yn mwynhau clonc a phaned.

Maent yn cwrdd yn Cariad Cupcakes, Aberhonddu pob yn ail bore Gwener 11am - 12pm.

Cysylltwch â Anika Lloyd ar 01639 841751 ail@aber.ac.uk

Dyddiadau 2012 Dates
Chwefror 3,17 February
Mawrth 2, 16, 30 March
Ebrill 13, 27 April
Mai 11, 18 May
Mehefin 1, 15, 29 June

Cystadleuaeth i ddysgwyr Merched y Wawr 2012 (11-01-2012)

Cystadleuaeth i ddysgwyr Merched y Wawr 2012Lefel Uwch (tua lefel 4)
- stori fer ar y thema 'adar' neu 'aderyn'

Lefel Ganolradd (tua lefel 3)
- Llythyr diolch

Lefel Mynediad (tua lefel 1 a 2)
- Cerdyn post

Mae'r cystadleuaeth yn agored i bawb sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith.

Dyddiad cau: 1 Mawrth 2012

Wendy Lewiis - Tiwtor y Flwyddyn 2011 (10-01-2012)

Wendy Lewiis - Tiwtor y Flwyddyn 2011Wendy Lewis o Lanymddyfri a dderbyniodd wobr tiwtor Cymraeg i Oedolion y flwyddyn. Mae Wendy, a ddysgodd y Gymraeg fel oedolyn, yn dysgu Cymraeg i oedolion yn ardal Llambed.

Wendy Lewis (yn y canol), gyda Marye Wyvill a Rajesh David - myfyrwyr o'i dosbarth yn Llanbed. Mae Wendy yn un o diwtoriaid mwyaf profiadol y Ganolfan. Da iawn ti Wendy!

Jac Foster - Myfyriwr y Flwyddyn 2011 (03-01-2012)

Jac Foster - Myfyriwr y Flwyddyn 2011Myfyriwr y flwyddyn Jac Forster, yma gyda ei gwr Marc, a'i meibion. Mae'r teulu i gyd yn siarad Cymraeg.

Ganed Jac yn Llundain. Mae hi wedi ymdrechu'n galed iawn dros y pedair blynedd diwethaf i ddysgu'r iaith, ac i wneud Cymraeg yn iaith yr aelwyd.

Rhes gefn Jac, Marc, Philippa Gibson (tiwtor Jac). Yn y rhes blaen mae meibion Jac a Marc.

Y chwilio'n cychwyn am Ddysgwr y Flwyddyn 2012 (09-12-2011)

Y chwilio'n cychwyn am Ddysgwr y Flwyddyn 2012Gydag Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn prysur agosau, mae'r chwilio'n cychwyn am enillydd un o brif gystadlaethau'r Brifwyl, Dysgwr y Flwyddyn.

Mae'r gystadleuaeth yn gyfle i ddathlu cyfraniad dysgwyr i'r iaith, i'n cymunedau ac i Gymru gyfan, ac wedi ennill ei phlwyf fel un o brif weithgareddau'r Eisteddfod yn flynyddol. Meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, “Dyma gychwyn eto ar y gwaith o ddarganfod y person sydd wedi disgleirio wrth ddysgu Cymraeg. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld cystadlu brwd gan ddysgwyr ardderchog, ac rwy'n sicr y bydd y safon yn arbennig o uchel yn 2012. Mae hon yn gystadleuaeth bwysig iawn, nid yn unig er mwyn codi proffil a dathlu cyfraniad dysgwyr, ond hefyd fel ffordd o ddatblygu hunan hyder unigolion sy'n dysgu Cymraeg.

“Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ddod i ardal Bro Morgannwg ers 1968, ac mae map ieithyddol yr ardal – a Chymru gyfan – wedi newid cryn dipyn ers hynny. Mae nifer y rheini sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu'n aruthrol dros y blynyddoedd, a'r gobaith yw y bydd ymweliad yr Eisteddfod yn sbardun i eraill fynd ati i ddysgu'r iaith.
“Rydym hefyd wedi cynhyrchu llyfryn bychan o'r enw Beth Amdani, sy'n cynnwys gwybodaeth am bob cystadleuaeth i ddysgwyr yn yr Eisteddfod, ac fe fydd Gwennol Haf, ein swyddog dysgwyr, yn eu dosbarthu ar hyd a lled y wlad gyda chymorth a chefnogaeth y Canolfannau Cymraeg i Oedolion.”
Mae tlws Dysgwr y Flwyddyn yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, a'r wobr o £300 yn rhoddedig gan Gronfa Gwynfor, Y Barri. Bydd y tri chystadleuydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un gan Gronfa Gwynfor, a thlws yr un gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd.

Gellir lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn o wefan yr Eisteddfod a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandw o 4-11 Awst y flwyddyn nesaf.

mwy

Dathlu llwyddiant dysgu am oes (29-11-2011)

Dathlu llwyddiant dysgu am oesRoedd gwraig a ail-ddarganfu ei dawn gelfyddydol, a mam i ddau o blant sy'n newid iaith y cartref i'r Gymraeg ymhlith dysgwyr gydol oes a dderbyniodd wobrau mewn seremoni arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 15 Tachwedd 2011.

Cynhaliwyd y seremoni gan Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, ac ynddi gwobrwywyd myfyriwr y flwyddyn dysgu gydol oes a dysgwr y flwyddyn Cymraeg i Oedolion.
Jac Forster o ogledd Sir Benfro, ac yn wreiddiol o Lundain a enillodd wobr dysgwr y flwyddyn Cymraeg i Oedolion. Bu hi'n dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau a gynhelir gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn Aberteifi ers pedair blynedd. Mae hi'n wraig briod a chanddi ddau o fechgyn, ac mae'r Gymraeg bellach yn brif iaith y cartref.

Paula Clarke o Ysbyty Ystwyth dderbyniodd wobr myfyriwr y flwyddyn dysgu gydol oes. Mae Paula, sy'n ddefnyddiwr cadair olwyn, wedi ail-gydio mewn celf am y tro cyntaf ers gadael yr ysgol, ac mae hi bellach yn gweithio tuag at Dystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio.

Rhoddwyd gwobrau hefyd i diwtoriaid a oedd wedi eu henwebu gan eu myfyrwyr am eu gwaith eithriadol. Dyfarnwyd gwobr tiwtor dysgu gydol oes y flwyddyn i'r artist Angharad Taris o Gei Newydd sy'n dysgu cyrsiau celf a dylunio. Wendy Lewis o Lanymddyfri a dderbyniodd wobr tiwtor Cymraeg i Oedolion y flwyddyn. Mae Wendy, a ddysgodd y Gymraeg fel oedolyn, yn dysgu Cymraeg i oedolion yn ardal Llambed.

Hefyd dathlwyd llwyddiant 25 o fyfyrwyr a oedd wedi cyrraedd cerrig milltir arbennig ar eu taith ddysgu, gan gynnwys dysgwyr Cymraeg i Oedolion a lwyddodd yn arholiadau 'defnyddio'r Gymraeg' CBAC, ar lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd, a myfyrwyr a enillodd dystysgrifau addysg bellach ac addysg uwch mewn achyddiaeth, ieithoedd modern, ecoleg maes, Cymraeg cyfoes, ysgrifennu creadigol, a chelf a dylunio.

Cyflwynwyd tystysgrifau a gwobrau i'r myfyrwyr gan Yr Athro Tim Woods, Deon y Celfyddydau, Yr Athro John Grattan, Deon y Gwyddorau, a Dr Malcolm Thomas, Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Am broffiliau pob enillydd cliciwch fan hyn:
mwy

Cylchlythyr newydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru (29-11-2011)

Cylchlythyr newydd Eisteddfod Genedlaethol CymruCroeso i'r rhifyn cyntaf o gylchlythyr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar ei newydd wedd.

Y bwriad yw cyflwyno gwybodaeth am y ddwy Eisteddfod gyfredol a newyddion cyffredinol mewn un ddogfen fisol.

Felly, gallwch gael gwybod y diweddaraf am Eisteddfod Bro Morgannwg a'r Brifwyl yn Sr Ddinbych a'r Cyffiniau gyda'i gilydd.
mwy

Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2012 (08-11-2011)

Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2012Mae Ysgoloriaeth Dan Lynn James yn rhoi cymorth ariannol i ddysgwyr sydd am wella eu Cymraeg a'i defnyddio yn eu bywyd bob dydd.

Ysgoloriaeth Dan Lynn James £1,000
Dyddiad Cau: 1 Ebrill 2012



Lawrlwythwch manylion a ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth 2012 drwy glicio fan hyn.

mwy

NIACE Dysgu Gymru - Gwobrau Ysbrydoli! 2012 (03-11-2011)

NIACE Dysgu Gymru - Gwobrau Ysbrydoli! 2012Eleni, am y tro cyntaf, daw'r gwobrau tiwtoriaid a mentoriaid yn rhan o brif Seremoni Wobrwyo Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Fel canlyniad, efallai y dymunwch enwebu dysgwyr, tiwtoriaid, mentoriaid a hyfforddwyr eithriadol o addysg bellach, addysg uwch, y gweithle neu'r gymuned. Gall tiwtoriaid weithio mewn sgiliau hanfodol, cymwysterau galwedigaethol, ieithoedd, ar-lein drwy e-diwtora a/neu mewn swydd wirfoddol fel tiwtor, mentor neu hyfforddydd. Gall dysgwyr fod yn astudio unrhyw bwnc o Archaeoleg i Waith Coed neu o Adeiladu i Gelf.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiad yw 10 Chwefror 2012.

Ffoniwch Steve Martin, Rhydian Thomas neu Essex Havard ar 029 2037 0900 os gwelwch yn dda os hoffech eglurhad pellach.

Edrychwn ymlaen at ymuno gyda chi i ddathlu llwyddiant dysgwyr, tiwtoriaid, mentoriaid a hyfforddwyr ysbrydoledig o bob rhan o Gymru.

Pob lwc!

Tîm Ymgyrchoedd a Hyrwyddo
NIACE Dysgu Cymru





mwy

Cymraeg o'r Crud yn Aberteifi (28-10-2011)

Cymraeg o'r Crud yn AberteifiOur "Welsh from the Cradle" session with Welsh Tutor, Llinos Hallgarth in the Guildhall, Cardigan. It has been a very popular session, pictured here are parents enjoying learning Welsh with their children.



Kay Holder, Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn (11-10-2011)

Kay Holder, Dysgwr Cymraeg y FlwyddynI ddarganfod mwy am Ddysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cliciwch ar y ddolen isod.
mwy

Llwyddiant dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn Aberteifi (11-10-2011)

Llwyddiant  dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn AberteifiMae dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion wedi ail-ddechrau yn ardal Aberteifi - ac mae'r nifer sydd wedi cofrestru eleni yn fwy nag erioed! Yn ôl ein tiwtor, Philippa Gibson "Rydym wrth ein boddau fod cymaint eisiau dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi eleni.

Mae gennym gynllun arbennig ble mae siaradwyr Cymraeg lleol yn mynychu'r dosbarthiadau (am tua hanner awr), er mwyn sgwrsio â dysgwyr - mae hyn yn helpu dysgwyr i ennill hyder."

Mae dewis helaeth o ddosbarthiadau ar gael, ar bob lefel. Cynhelir dosbarthiadau yn y Castell (Tŷ Castell), yn y Ganolfan Hamdden ac yn Hen Neuadd Ysgol y Santes Fair.

Llun: Philippa Gibson

Lleoliadau dysgu newydd yn Aberystwyth - ar gampws Penglais (28-09-2011)

Lleoliadau dysgu newydd yn Aberystwyth - ar gampws PenglaisLleolir ein cyrsiau yn Aberystwyth yn 10 Maes Lowri, yr Hen Goleg, Campws Penglais a Llanbadarn yn Aberystwyth.

Mae cyrsiau ar Gampws Penglais am y tro cyntaf eleni oherwydd bod y Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn symud i Benbryn 5 ar ddiwedd Hydref 2011.

Crëwyd ystafelloedd dysgu newydd ym mloc 5 Penbryn ar gyfer y flwyddyn dysgu newydd 2011/12. Dangosir y map ar y linc isod.
mwy

Parti Cyd-adrodd Dyfinodau (26-09-2011)

Parti Cyd-adrodd DyfinodauDyma lun o'r parti cyd-adrodd ddaeth yn 3ydd yn Wrecsam, o ddosbarthiadau Tywyn a Machynlleth. (Llun gan Graham Clarke).


Llwyddiant Miriam a Nikki! (20-09-2011)

Llwyddiant Miriam a Nikki!Ennillodd Nikki Piggot (ar y chwith) a Miriam Collard (canol) y wobr gyntaf eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am greu llyfryn 4 tudalen am eu hardal.

Gwirioneddol hardd," meddai'r Beirniad, " ... Dyma'n union yr hyn yr o'n i'n chwilio amdano. Ardderchog."



Felicity Ramage yn rhannu ei phrofiad Eisteddfodol (20-09-2011)

Felicity Ramage yn rhannu ei phrofiad EisteddfodolMi ges i brofiad ardderchog yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni. Dydd Llun, mi es i ar fws dysgwr canolbarth Cymru fel ymwelydd. Ar ôl edrych o gwmpas, mi weles Seremoni'r Coroni yn y Pafiliwn. Mi wnes i fynd eto fel stiward. Nos Fawrth, ron i yn Y Pafiliwn ar gyfer cyngerdd Shân Cothi a Wynne (Go Compare!) Evans. Bore Mercher, mi weles amrywiaeth o gystadlaethau yn y Pafiliwn eto. Bore Iau, ron i yn y Pagoda ar gyfer y gystadleuaeth delyn, a bore Gwener mi es i i'r Theatr Dawns ar gyfer y gystadleuaeth stepio (clog dancing) a mi wnes i geisio dawns linell yn Gymraeg –de, chwith, de, troi .... Yn y prynhawn, mi arhoses i weld cyngerdd Dafydd Iwan ym Maes D a Seremoni Cadeirio'r Bardd yn y Pafiliwn.
Yn ystod yr wythnos, mi ges i lawer o gyfle i siarad Cymraeg, ond mi wnes i ddweud nifer o weithiau “Esgusodwch fi, dysgwr dw i – yn araf, os gwelwch chi'n dda!” Doedd 'na ddim problemau mawr pan on i'n stiwardio a ches i lawer o hwyl.

Felicity Ramage


Dysgwraig o Lanelltyd yn ennill y Gadair i Ddysgwyr yn yr Eisteddfod (13-09-2011)

Dysgwraig o Lanelltyd yn ennill y Gadair i Ddysgwyr yn yr Eisteddfod Rydym yn falch iawn o Judith Crompton ar ei llwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni' meddai Jaci Taylor, Swyddog Datblygu yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, Canolbarth Cymru.

Symudodd Judith a'i gwr Robert i Gymru pedair blynedd yn ôl. Dechreuodd Judith fynychu dosbarthiadau Cymraeg, ac mae hi wedi mynd o nerth i nerth diolch i'w thiwtoriaid a'i chyfeillion, gan fwynhau barddoni yn arbennig. Enillodd Judith Gadair y Dysgwyr gyda cherdd o'r enw 'Croeso'.

'Dw i'n credu bod ysgrifennu yn y Gymraeg yn llawer haws nag yn y Saesneg, a dw i wrth fy modd yn barddoni' meddai Judith. 'Mae'r Gymraeg yn iaith hyfryd, byddaf yn bendant o farddoni eto' ychwanegodd.

Cyflwynwyd y Gadair i Judith gan yr Archdderwydd, Jim Parc Nest. Roedd yr Archdderwydd wedi canmol llwyddiant Judith gan ddweud ei bod hi'n esiampl ragorol i ddysgwyr eraill.

Roedd llwyddiant pellach i ddysgwyr y Canolbarth yn yr Eisteddfod eleni – llongyfarchiadau mawr i bawb.
Parti adrodd: 3ydd Dyfinodau, Machynlleth. Adrodd Stori: 1af Gail Lewis, Llanidloes, 2il Miriam Collard, Llanymynech. Sgript Cyfweliad: 1af Miriam Collard, Llanymynech. Tudalennau o lyfr (gwaith grwp) 1af Miriam Collard a Nikki Piggot.

Yn y llun mae'r Archdderwydd, Jim Parc Nest gyda Judith Crompton wedi'r seremoni.


Llwyddiant Miriam Collard yn yr Eisteddfod Genedlaethol! (06-09-2011)

Llwyddiant Miriam Collard yn yr Eisteddfod Genedlaethol!Newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol !!!!!

"Wrth gystadlu yn Adran Dysgwyr, mi wnes i ennill 2 wobr cyntaf! Cyfansoddi - sgript cyfweliad, dosbarth sylfaen, hyd at 5 cwestiwn, tua 150 o eiriau, gyda Chymro neu Gymraes Enwog byw neu farw: Mi wnes i siarad efo Owain Glyndwr wrth gwrs - ac efo ffrind, mewn dosbarth agored, mi wnaethon ni llyfryn 4 tudalen yn cyflwyno ein hardal. "Gwirioneddol hardd," meddai'r Beirniad, " ... Dyma'n union yr hyn yr o'n i'n chwilio amdano. Ardderchog."

Ar y llwyfan ym Maes D, ges i un ail hefyd [Dweud Stori, dosbarth agored] yn siarad ar "Profiad y Gadair Ddu" - [Owain Glyndwr unwaith eto] ac un trydydd [fel aelod o barti llefaru]."

Miriam Collard
Awst 2011


April McMahon (06-09-2011)

April McMahonMae Is-ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, wedi dysgu siarad Cymraeg mewn llai na chwe mis. Dyma hi (yn y canol) gyda ei thiwtoriaid Cymraeg Carwen Vaughan (chwith) a Llinos Dafis (dde).

Awst 2011

Clwb Darllen Llanwrtyd (26-07-2011)

Clwb Darllen Llanwrtyd ' Mae'r Clwb Darllen yn ein helpu ni i ymarfer yr iaith'
Rosemary

Dw i'n edrych ymlaen at y Clwb Darllen bob mis er mwyn cael cyfle i sgwrsio yn Gymraeg, ac i ddarllen y storïau diddorol sydd yn y llyfr Tocyn Lwcus'
Sue

'Dan ni'n ffodus i allu parhau i ddysgu Cymraeg yn y ffordd yma'
John

'Fasen ni ddim yn darllen llyfrau Cymraeg oni bai am y Clwb Darllen. Mae'n hwyl i ddarllen gyda'n gilydd'
Rosie

Yn y llun yma mae (chwith i dde) Rosemary Rowlands, Rosie Hazell, Sue Seed a John Rowlands




Gwobrau Blynyddol i Fyfyrwyr a Thiwtoriaid (20-07-2011)

Gwobrau Blynyddol i Fyfyrwyr a ThiwtoriaidAeth y gwobrau am rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu ar gyfer 2009/10 i Lois Martin Short (tiwtor) ac Anne Greig (myfyrwraig). Enwebwyd Anne gan ei thiwtor, Nic Dafis. Mynychodd yr enillwyr a'r rhai a'u henwebodd seremoni wobrwyo flynyddol yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn yr Hen Goleg ar 20 Hydref 2010.

Yn y llun yma mae Anne Greig (canol) yn derbyn ei gwobr oddiwrth ei thiwtoriaid Alison Vaughan Jones a Nic Davis.

20 Hydref 2010

Enillydd cystadleuaeth welsh-my-way.com! (18-07-2011)

Llongyfarchiadau mawr i Nicola Mason am ennill £50 yn ein cystadleuaeth welsh-my-way.com! Diolch i bawb am gwblhau'r holiadur.

13 Mai 2011
mwy

Ysgol Haf Dolgellau (18-07-2011)

Ysgol Haf DolgellauYn ystod yr wythnos 4ydd – 8fed o Orffennaf cynhaliwyd Ysgol Haf yn Nolgellau, a chroesawyd 40 o ddysgwyr o bob rhan o'r Canolbarth, a rhai cyn belled a Derby! Roedd yr wythnos yn gymysgedd o wersi ffurfiol a gweithgareddau ychwanegol i hybu'r dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg yn anffurfiol.

Yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf cynhaliwyd gwersi ffurfiol ac roedd cyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd – a'u tiwtoriaid! Bob amser paned ac amser cinio roedd cyfle i bawb ddod at ei gilydd yn yr ystafell baned i sgwrsio a chael y cyfle i brynu llyfrau a nwyddau Cymraeg o stondin lyfrau Awen Meirion.

Weddill yr wythnos, bu cymysgedd o weithgareddau a gwersi. Ddydd Mercher daeth Mair Tomos Ifans i wneud sesiwn stori a chafwyd llawer o hwyl yn gwrando ar chwedlau lleol ac yn gwylio Mair yn eu hadrodd. Ddydd Iau daeth Jaci Taylor a Siôn Meredith, o'r Ganolfan aton ni a chynhaliodd Jaci sesiwn o gemau iaith tra'r oedd Sion yn crwydro o amgylch y dosbarthiadau yn sgwrsio am ei waith blaenorol a Tearfund.

Trefnwyd taith gerdded ar y diwrnod olaf efo Angharad Harris o'r Parc Cenedlaethol. Dechreuodd tri grŵp allan yn y bore, ond yn anffodus mi ddaeth hi'n law mawr ac mi ddaeth pawb yn ôl yn wlyb socian! Gohiriwyd y daith yn y prynhawn, ond mi arhosodd Angharad i wneud cyflwyniad am y Parc wrth weddill y dysgwyr.

Erbyn prynhawn Gwener roedd pawb wedi blino'n lan, ac ar ôl i bawb ymgynnull yn y neuadd fe gafwyd perfformiad gan Gôr Dysgwyr ardal Dolgellau sydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni (pob lwc iddyn nhw!!) ac fe arweiniodd Rhiain Bebb pawb mewn ambell gân i gloi'r wythnos.

Cafwyd wythnos gweithgar a llawn hwyl a diolch i'r dysgwyr a'r tiwtoriaid – Rhiain Bebb, Gwynne Wheldon Evans, Ceri Jones, Meirionna Jones a Sandra Jones-Evans am eu gwaith caled.

Edrychwn ymlaen at yr Ysgol Haf y flwyddyn nesaf!! Yn y llun yma mae ein dysgwyr Cynthia Rowland, Elinor Donnelly a Wendy Owen.

4 - 8 Gorffennaf 2011

Pwyllgor Staff Myfyrwyr (18-07-2011)

Pwyllgor Staff MyfyrwyrCyflwynwyd y wefan newydd i 25 o staff a myfyrwyr a ddaeth i'r cyfarfod. Cafodd pawb y cyfle i fynegi barn ar y safle a digwyddiadau newydd. Hefyd cafwyd pwyllgor buddiol i drafod gwahanol agweddau ar lais y dysgwyr.

Lowri Jones ac Elin Williams a oedd yn cadeirio'r Pwyllgor yn 10 Maes Lowri
16 Mehefin 2011

Porthmadog (18-07-2011)

PorthmadogYmlaen i Borthmadag ar ôl Portmeirion ac mae Dave a Llŷr wedi dal cranc i swper, ond mae'n well gan bawb arall cael swper yng Ngwesty'r Oakeley Arms, Maentwrog!

9 Gorffennaf 2011

Mawddach Restaurant (18-07-2011)

Mawddach RestaurantAeth dau lond bws o ddysgwyr a Chymry Cymraeg o Geredigion i Bortmeirion ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf 2011.

Dyma ni wedi stopio ar y ffordd i gael coffi ym Mwyty Mawddach. LLe bendigedig gyda golygfa dros yr afon Mawddach.

9 Gorffennaf 2011

Taith i Bortmeirion (18-07-2011)

Taith i BortmeirionCawson ni daith ddiddorol o gwmpas y pentref Eidalaidd gan dywysydd lleol (ar y dde yn y crys gwyn).Roedd teithiau Cymraeg a Saesneg ar gael.

'Roedd y diwrnod mor braf - y tywydd, y tirlun – ac roedd cwrdd â'r dysgwyr eraill yn beth arbennig iawn. Siaradais Gymraeg trwy'r dydd â phobl ddiddorol iawn o bob math o gefndir ac oedran.'
Deborah Angel

9 Gorffennaf 2011


mwy

Ynys Hir - Sgwrsio a Thaith Gerdded yn Gymraeg (05-07-2011)

Ynys Hir - Sgwrsio a Thaith Gerdded yn Gymraeg "Es i'r sesiwn 'Taith a Sgwrsio' gyda'r RSPB yn Ynys Hir heddiw. Yr oedd rhai o'r dysgwr wedi bod yn mynychu dosbarthiadau am flwyddyn yn unig. Roedd yn gyfle i mi 'atgyfnerthu' enwau Cymraeg coed ac adar - a gwelsom y stiwdio ffilmio 'Spring Watch'."

Jackie Willmington, Dysgwraig gyda CiO Canolbarth Cymru

5 Mehefin 2011

cariad@iaith: (29-06-2011)

cariad@iaith:love4language ar S4C rhwng 9 a 15 Gorffennaf bydd wyth o bobl adnabyddus yn treulio wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg yng ngwersyll trawiadol Fforest, Cilgerran yn Sir Benfro.

Allwn ni ddim datgelu ar hyn o bryd pwy fydd yr wyth. Bydd y camerâu'n eu dilyn wrth iddynt astudio Cymraeg am bedair awr bob dydd o dan arweiniad y cyflwynydd a'r tiwtor iaith Nia Parry a'r tiwtor iaith blaenllaw Ioan Talfryn.

Fe fydd y gyfres, a ddarlledir dros wythnos gyda Gareth Roberts yn cyflwyno, yn dilyn y sêr mewn sioeau nosweithiol awr o hyd.

Bydd taith S4C (Tesco gyda Acen) yn ymweld â siop Tesco yn y Trallwng ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf 2011 – cyflwyno pobl i wasanaethau Dysgwyr S4C, + hyrwyddo Cariad@Iaith. Croeso i chi alw draw!


mwy

Llwyddiant ysgubol i Cymraeg o'r Crud yn Aberystwyth (06-04-2011)

Llwyddiant ysgubol i Cymraeg o'r Crud yn AberystwythRoedd ein dosbarth newydd Cymraeg o'r Crud a gynhelir (ar y cyd a TWF) yn ddiweddar yn y Morlan yn llawn dop o deuluoedd a phlant a babanod.

Cyflwynwyd y Gymraeg i babanod a phlant (ac oedolion). Roedd y sesiwn yn llawn hwyl - darllen, canu a chwarae - yn y Gymraeg!

Yn y llun yma mae Claire Lowe yn mwynhau'r sesiwn gyda un o'i meibion, John.

Ionawr hyd Mawrth 2011


Seremoni Wobrwyo ar gyfer Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg (06-04-2011)

Seremoni Wobrwyo ar gyfer Cynllun Sabothol Iaith GymraegRoedd hi'n wych cael clywed profiadau rhai o'r 12 o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd a fynychodd y cwrs llawn amser yma dri mis. Noddwyd y cwrs gan y Cynllun Sabothol. Cynhaliwyd y cwrs yn ystod oriau ysgol o fis Medi i Ragfyr 2010.

Clywsom sut brofiad yw hi i ddysgu'r Gymraeg yn ddwys ac hefyd sut mae'r athrawon wedi defnyddio eu sgil newydd yn y dosbarth!

Cyflwynwyd pob myfyriwr gygag tystysgrif gan yr Athro Noel Lloyd, ein Is Ganghellor.

Yn y llun yma mae Anna Rose Bates , Ysgol Llwyn yr Eos, yn derbyn ei thystysgrif gan yr Athro Noel Lloyd.

28 Mawrth 2011


 
Cysylltu β ni: Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth, P5, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UX
0800 876 6975 neu +44 1970 622236
cymraegioedolion@aber.ac.uk
logo Cymraeg i Oedolion / Welsh for Adults logo
logo Llywodraeth Cymru / Welsh Government logo
logo dysgucymraeg.cymru / learnwelsh
 
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.
Gweinyddu